Mr Gasyth a ddywedodd:Mae clychau eglwys Llanbadarn yn fy neffro bob bore Sul. Taswn i'n gneud y fath sŵn, buaswn yn cael ASBO!
Mae'n wirioneddol gas gennyf glychau eglwys. Mae modd cau'r drws ar Dystion Iehofa, ond does dim modd cau allan clychau'r llan o'r lolfa. Mae yna rywbeth reit sinistr ynddynt yn clochdar "da ni yma o hyd" ar draws darllediad "oedfa'r bore" o gapel anghydffurfiol.
Heb ddyfynnu.
O ran dadl Rhys rwy'n teimlo ei fod yn gwneud annhegwch ag hanes Anghydffurfiaeth. Yr unig reswm pam fy mod yn cael y rhyddid i fod yn Wesla eithafol yw oherwydd bod eraill wedi dioddef cosb, barn a marwolaeth er mwyn y rhyddid i fynegi barn a oedd yn wrthun i farn yr Eglwys wladol. Rwy'n parchu'r rhyddid yna. Yn ei barchu gymaint ag i amddiffyn, hyd yr eithaf, hawl pobl i wrthwynebu Cristionogaeth Wesleaidd (er fy mod yn credu mai ffŵl sy'n wynebu t