Rhys Llwyd a ddywedodd:Di hi'n iawn felly i slagio ffwrdd Mwslims ar AlJazera gan fod mwslemiaeth yn rhan o ddiwilliant y sianel hono?
Na. Mae mwy o raniadau difrifol ymysg grwpiau Mwslemiaidd. Hefyd, mae'r mwyafrif o wledydd mwslemaidd yn anwaraidd i'w gymharu a'u cymheiriaid Cristnogol, felly bysai tebygolrwydd uchel i'r newyddiadurwr druan gael ei ladd. Hefyd dyw cymharu grwp roc gyda sianel newyddion ddim yn deg iawn. Bysai y BBC ddim yn dweud be mae Plant Duw yn ei ddweud!
Pe bai grwp roc ifanc o Irac yn canu 'Talach na Mohammed', rhwydd hynt iddyn nhw, ond ei bod nhw'm yn colli'u pennau.
Rhys Lwyd a ddywedodd:Dwi'n deall y ddadl yna OND dydy Plant Duw (nid fi sy'n barnu mi fydde nhw'n cyfaddau hyn eu hunain) ddim yn Gristnogion.
Fel Cristion cystal i Gymro sy'n anghrediniwr wneud sport ar fy mhen a Mwslim o Dwrci.
Nid sbeit er mwyn bod yn gas yn unig sydd fan hyn dwi'm yn credu. Mae anghredinwyr ymysg y Cymru Cymraeg yn teimlo ei bod wedi gorfod dioddef Cristnogaeth, felly tydi cwyn Cristion ddim o lawer o bwys iddyn nhw. Ie, dwyt ti ddim yn hoffi'r gan, ond mae nhw wedi' gorfodi eistedd mewn ystafell yn gwrando ar rywbeth sydd, yn ei tyb nhw, yn rwtsh am awr bob wythnos o fod yn dair oed tan yn un ar bymtheg. Falle ei bod nhw'n teimlo bod y chwe cant saith deg chwech o oriau golledig yna'n cyfiawhau y fath ymosodiad.
Mae rhaid i Gristnogion ddeall bod nifer o bobl sy'n ymosod ar Gristnogaeth yn teimlo wedi' gormesu a'i herlid gan Gristnogion. (yn enwedig os yw ei tad a'i mam yn Efengyls )