Dyma ail gymal y cyfarfod diweddar yn Aberystwyth a'r Grist a Chenedlaetholdeb. I is-lwytho cliciwch YMA (43:00/24.9Mb).
Mae'n anodd deall y cwestiynnau o'r llawr oherwydd roedd y meicroffon wrth ymyl Arfon. Ond dyma gronodeb/aralleiriad o'r cwestiynau a'i hamser yn y ffeil.
Cwestiynau gan yr holwr:
1. O dy brofiad di wyt ti erioed wedi teimlo bod yn rhaid i ti ddewis rhwng dy Genedlaetholdeb a dy Gristnogaeth? (0:00)
2. Fel aelod o Gymdeithas yr Iaith rwyt ti wedi bod yn y carchar. Fel Cristion sut wyt ti'n medru cyfiawnhau torri cyfraith gwlad? (4:30)
3. Mi rwyt ti wedi gweithio i'r Gynghrair Efengylaidd yn y gorffennol. O dy brofiad di wyt ti erioed wedi teimlo Efengylwyr eraill yn ddilornus ohonot oherwydd dy weithgaredd gwleidyddol? (7.00)
4. Wyt ti'n credu fod hi wedi bod o fudd i'r mudiad Cenedlaethol yng Nghymru fod Cristnogion wedi bod yn eu rhengoedd? (8.30)
5. Bellach rwyt ti'n gweithio i 'Gobaith i Gymru' ond cyn hynny roedde ti'n gweithio i'r Gynghrair Efengylaidd. Pam symud? Ac esbonia rywfaint am waith Gobaith i Gymru? (10.30)
6. Er nad wyt ti bellach yn weithredol gyda Chymdeithas yr Iaith ayyb... wyt ti'n meddwl fod dy Genedlaetholdeb yn dy yrru di i raddau i wneud pethau fel cyhoeddi cyfieithiad cyfoes Cymraeg o'r beibl? (13.45)
Cwestiynau o'r llawr:
Person 1:
7. Chi'n s