gan Rhys Llwyd » Gwe 02 Rhag 2005 10:16 pm
I ddechrau gadewch i mi ymbellhau fy un o'r duedd yn y byd Efengylaidd o daflu baw at wrwgydwyr.
I ateb y cwestiwn yma (rhoi'r tegell mlan a gwneud fy hun yn gyfforddus!) mae'n bwysig yn gyntaf sefydlu beth yw Priodas Gristnogol. Mae'n amlwg o'r beibl mae Priodas Gristnogol yw rhywbeth rhwng 3 person. Dyn, Dynes a Duw.
O ystyried hynny, alla i ddim deall sut all eglwys Gristnogol briodi dau ddyn neu dau ddynes. Mar Beibl yn dangos yn glir fod perthnasau fel yna ddim yn gywir (e.e. Rhufeiniaid 1:26-27 / 1 Corinthiaid 6:9-11 ) OND mae'n bwysig nodi nad ydy gwrwgydwyr ddim gwahanol i unrhyw bechadur arall - ddim gwahanol i fi. Ac hefyd wede ni fod dau ddyn yn priodi mewn eglwys Gristnogol run peth a dau anghredadyn yn priodi mewn eglwys Gristnogol - dim byd ond sioe (yng ngwyneb Duw, yn amlwg mae'n golygu mwy na sioe i'r par sydd wrthi).
Ond fel dwi di dweud dro ar ol tro, ni ddylid gwneud enghraifft o wrwgydwyr. Ma pawb yn bechaduriaid sydd angen Iesu. Cymerwch yr adnod isod:
"Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod unrhyw ddyn sy'n llygadu gwraig a'i feddwl ar ryw eisoes wedi cyflawni godineb gyda hi." (Math 5:28 )
Llaw fynny pwy sy ddim yn euog o hynny? Na neb a fi gyda chi. Mae angen pawb yn gydradd ac mae'r ateb i bawb yn Iesu.