dawncyfarwydd a ddywedodd:Dwi'n trio ystyried fy nyfodol (
) ar hyn o bryd, a dwi bron yn sicir mod i eisau mynd i astudio diwinyddiaeth. Dwi wedi cael cyngor y byddai hi o fwy o fudd i mi i fynd i goleg Cristnogol nag i astudio'r pwnc mewn prifysgol gyffredin.
Dwi wedi gyrru am brosbectws rhywle o'r enw
Oak Hill yn ymyl Llundain ac mae o'n edrach fel rhywla go dda. Ydach chi'n gwybod rhywbeth am y lle, neu oes yna rywle y medrwch chi ei argymell? Sut le ydi'r un yn ymyl Pen-y-bont?
Wel dyma ddiddorol.
Os am astudio diwinyddiaeth dyddiau yma mae hi'n broblematig iawn.
Mae'r
Colegau Cristnogol fel Bryntirion ym Mhen y Bont ar Ogwr yn solid eu diwinyddiaeth Efengylaidd/Awstinaidd OND yn tueddu i fod yn wan ar hyfforddi/dysgu ar wasanaeth cymdeithasol ac ar y cyfan mae agweddau llawer o'r athrawon yn Bietistaidd; hynny yw credu mae rol y Cristion yw pregethu'r efengyl 'bur' heb botschian gyda Gwleidyddiaeth. Hefyd darlithoedd yn Susneg er fod rhai darlithwir rhaid dweud yn Gymry Cymraeg.
Mae
Adrannau Diwinyddol Pryfysgolion yn chydig bach o siop bob dim dyddiau yma. Does dim un adran yng Nghymru y medr rywyn ddweud eu fod yn Awstinaidd. Wedi dweud hynny mewn adran ddiwinyddol fel Bangor fe gei di amrediad fwy eang o gyrsiau fydd yn dysgu tipyn o hanes yr eglwys (sy'n gwbwl allweddol i rywyn sydd am astudio diwinyddiaeth yn fy marn i) a hefyd cyrsiau ar foeseg a rol cristnogaeth mewn gwleidyddiaeth ayyb...
Mi faswn yn erfyn arna chdi i aros yng Nghymru. Ac felly yn awgrymu i ti naillai fynd i Fryntirion neu os oes gen ti groen digon caled i fynd i Fangor oherwydd o leiaf yn fanna yn Geraint Tudur, D. Densil Morgan a Robert Pope mae gen ti dri Cristion di-dwyll, galluog sydd hefyd yn siarad iaith y nefoedd.
OND
Ag anwybyddu yr uchod yn gyntaf oll basw ni yn awgrymu i ti neud gradd mewn pwnc 'go-iawn'. Does dim byd gwaeth na gweithwyr Cristnogol sydd heb brofiad o bwnc/bywyd y byd go-iawn.