Priodas a Priodi

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Priodas a Priodi

Postiogan Huw Psych » Sul 26 Chw 2006 8:47 pm

Dilyn dyfyniad a gawsom ni mewn trafodaeth ddoe...
"Dwisho priodi, ond dwi ddim isho priodas grefyddol."

Ydi'r ffaswin beth yn bosibl? Dydi priodas ddim yn wbath crefyddol?

Sut mae anffyddwyr yn gallu cyfiawnhau priodi, gan nad ydy nhw'n dilyn crefydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan huwwaters » Sul 26 Chw 2006 10:12 pm

Ma priodas yn ryw fath o gytundeb civil rhwng dau berson. Gall cael ei wneud mewn registrar yn hawdd.

Priodas crefyddol yw gwneud mwy o seremoni o'r peth ac ym mhresenoldeb y Duw neu be bynnag.

Gall unrhyw parchedig taflu seremoni priodas, ond os nad yw'r ddeu sy'n priodi am arwyddo'r tystysgrif, tydio ddim byd mwy na gwasanaeth lliwgar.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 27 Chw 2006 1:33 pm

Mae gen ti bwynt yn fanna Huw(P) ond erbyn hyn dwi'n meddwl bod priodas yn rhan mor gyfarwydd o sut mae'r wlad yn gweithio bellach fel bod pobl eisiau priodi er gwaetha'r ffaith mai dim ond pishyn o bapur ac uniad gerbron dim ond llwyth o bobol ydi o wedyn ac nid uniad dau berson gerbron Duw a'r saint.

Cwestiwn arall ydi a ddylai Cristnogion briodi anffyddwyr? Dwi'n meddwl bod y Beibl yn deud ei bod hi'n well peidio ond ddim yn gwrthod y peth yn llwyr gan fod modd i'r Cristion ddylanwadu ar y llall. Ond yn bersonol, dwi ddim yn meddwl y byswn i byth yn gallu priodi rhywun sydd ddim yn y bywyd. Yn gynta, oherwydd y bysa unrhyw blant ar goll wedyn - efo un rhiant yn y bywyd a'r llall ar gyfeiliorn does 'na ddim arweiniad pendant iddyn nhw.

Yn ail, oherwydd 'mod i'n credu bod angen i ddau sydd mewn priodas fod yn rhannu rhyw nod cyffredin. I Gristion, yr unig nod teilwng mewn bywyd ydi Crist. Dwi wedi clywed Tony Campolo yn ei esbonio fo drwy ddweud bod angen i briodas fod fel triongl, gyda dwy linell yn ymestyn at nod. Os ydi un o fewn priodas yn ymestyn at Grist a'r llall yn ymestyn at fodlonrwydd o'r byd yma, mae'r ddau beth yn hollol anghymarus a dydi priodas ddim yn mynd i fod yn llwyddiant.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan huwwaters » Llun 27 Chw 2006 3:27 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Mae gen ti bwynt yn fanna Huw(P) ond erbyn hyn dwi'n meddwl bod priodas yn rhan mor gyfarwydd o sut mae'r wlad yn gweithio bellach fel bod pobl eisiau priodi er gwaetha'r ffaith mai dim ond pishyn o bapur ac uniad gerbron dim ond llwyth o bobol ydi o wedyn ac nid uniad dau berson gerbron Duw a'r saint.


Oherwydd fod Cristnogaeth yn grefydd sydd wedi addasu at ofynion pobl y gorllewin h.y. y dull o gynnal wasanaethau, o'i gymharu a chrefyddau eraill (gwelwch chi fyth band guitariau a drymiau yn chware mewn Mosque), mae yn ryw fath o gyfleusrwydd at bobl.

Y cyplau yma sydd ddim yn priodi ond yn magu teulu, ac yn dewis bedyddio'u plant. Stwff hollol wirion ydi hwn, gan na fydd y rhieni byth yn gwneud yr ymdrech i yrru eu plant i gapel neu ysgol Sul, fel y maent wedi addo gwneud ger bron cynulleidfa capel/eglwys.

Dwi'n digwydd gweithio efo pabydd sydd o Mexico, mae amseru seremoni priodas yn wahanol yn y wlad hwnw.

Yn gyntaf maent yn cael y gwasanaeth cyfreithiol, hynny yw arwyddo'r llyfrau ac ar gyfer cofnodion y wladwraeth fod y ddau person penodol am rannu hawliau eu hunain efo'i gilydd. Yn ail maent yn cael y seremoni crefyddol, sef mynd i'r eglwys a'r holl deulu a ffridiau yn bresennol, gan wedyn dathlu am ddau diwrnod.

Yn ein gwlad ni, traddodiad yw tra ym merfedd gwasanaeth crefyddol, mae'r cwpwl a'u rhieni yn ogystal a swyddog y crefydd yn mynd i ystafell gefn ac yn arwyddo tystysgrif, wedyn maent yn parhau efo'r wasanaeth i'w gwblhau.

Oherwydd ein dull o briodi, gwelwyd briodas yn beth crefyddol yn unig mewn sawl ystyr, er y gellir ei wahanu fel a gwneir yn Mexico.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Priodas a Priodi

Postiogan Dili Minllyn » Llun 27 Chw 2006 3:50 pm

Huw Psych a ddywedodd:Sut mae anffyddwyr yn gallu cyfiawnhau priodi, gan nad ydy nhw'n dilyn crefydd?

Ymroddiad i'w gilydd sy'n cadw dau gyda'i gilydd trwy'r blynyddoedd. Mi briodais i ryw ddeng mlynedd yn
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Huw Psych » Llun 27 Chw 2006 5:52 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Cwestiwn arall ydi a ddylai Cristnogion briodi anffyddwyr? Dwi'n meddwl bod y Beibl yn deud ei bod hi'n well peidio ond ddim yn gwrthod y peth yn llwyr gan fod modd i'r Cristion ddylanwadu ar y llall. Ond yn bersonol, dwi ddim yn meddwl y byswn i byth yn gallu priodi rhywun sydd ddim yn y bywyd. Yn gynta, oherwydd y bysa unrhyw blant ar goll wedyn - efo un rhiant yn y bywyd a'r llall ar gyfeiliorn does 'na ddim arweiniad pendant iddyn nhw.
Ma hwn yn bwynt dwi wedi ei ystyried yn ddiweddar hefyd. Nes i ddim sylweddoli pa mor bwysig oedd o i fi fy mod yn priodi Cristion tan yn ddiweddar. Ma'r holl bwyntia ti wedi eu crybwyll yn dod at berthyn i eglwys Crist. Dwim yn gweld hi'n bosibl i un berthyn i'r eglwys honno heb fod y llall, efallai ddim o reidrwydd yn Gristion, ond yn gwerthfawrogi gwerthoedd ac egwyddorion Cristongol.

Dyma ehangu ar y dyfyniad...
"Dwi isho priodi, ond dwim ddim isho priodas grefyddol,...ond mi fyswn i'n priodi mewn capel neu eglwys."
Mae'n rhaid i fi gytuno fod priodi wedi mynd yn gyfleustra, yn enwedig yng ngwledydd y gorllewin. Mae'n debyg fod hwn yn un o'r rhesymau fod nifer o bobl hefyd yn cael ysgariad. Onid ydi'r dyfyniad uchod yn croes ddweud ei hun drwy ofyn am briodas di-grefydd mewn adeilad crefydd? Ydi'r ffasiwn beth yn bosibl?
Yn sicr byddai'n well gen i bobl yn cael priodas sifil na priodas di-grefydd o dan amgylchiada crefydd. Dydw i ddim yn ceisio dweud fod priodasau crefyddol unrhyw cryfach na priodas sifil, yn ol y beibl mae'n debyg eu bod nhw gan fod Duw yn rhoi ei fendith ar briodas grefyddol. I'm dibenion i, os nad yda chi'n credu mewn Duw, nid oes pwrpas gofyn am ei fendith, felly, nid oes pwrpas cael priodas grefyddol, felly waeth cael priodas sifil.

Dwi ddim cweit yn dallt pam fo pobl di-ffydd yn cael priodas grefyddol, nac ychwaith yn bedyddio! :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan Gwen » Llun 27 Chw 2006 6:34 pm

Mi gafodd lot o'r dadleuon eu gwyntyllu yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 28 Chw 2006 3:36 am

Huw Psych a ddywedodd:Dilyn dyfyniad a gawsom ni mewn trafodaeth ddoe...
"Dwisho priodi, ond dwi ddim isho priodas grefyddol."

Ydi'r ffaswin beth yn bosibl? Dydi priodas ddim yn wbath crefyddol?

Sut mae anffyddwyr yn gallu cyfiawnhau priodi, gan nad ydy nhw'n dilyn crefydd?


Mater cyfreithiol yn hytrach na fater crefyddol unigol bu priodas erioed. Iawn, rhan o gyfraith eglwysig bu'r gyfraith yn Lloegr (for Wales see England) am gyfnod maith, ond yn y cyfnod hwnnw roedd Cyfraith Eglwys yn cyfrif fel rhywbeth cyfwerth os nad bwysicach na Chyfraith Gwlad.

Ers deddfau priodasol yr Arglwydd Hardwick a basiwyd ym 1753 yn sicr mae'r gyfraith oedd yn bwysicach na chrefydd wrth gofrestru priodas. Cyn 1753 roedd priodas Brotestannaidd, priodas dros brwsh, priodas carchar ac ati oll yn gyfreithlon ond er 1753 dim ond (gydag eithriadau i Grynwyr ac Iddewon) priodasau Eglwys Lloegr oedd yn briodasau cyfreithlon ar gyfer etifeddiaeth,

Cafwyd yr hawl i gael priodas sifil ers 1837, a phriodasau sifil bu pob priodas capel, Pabyddol ac ati hyd 1898. Dim ond ers 1898 bu gan capeli yr hawl i gynnal priodasau crefyddol a hynny dim ond os oedd yr adeilad wedi ei gofrestru ac os oedd person wedi ei gymhwyso i fod yn gofrestrydd yn bresennol.

Prin iawn yw'r gweinidogion / offeieriad sydd wedi eu cymhwyso i fod yn gofrestryddion, gan hynny mae sylw Huw Waters
huwwaters a ddywedodd:Gall unrhyw parchedig taflu seremoni priodas, ond os nad yw'r ddeu sy'n priodi am arwyddo'r tystysgrif, tydio ddim byd mwy na gwasanaeth lliwgar.

yn anghywir ac yn groes i'r gyfraith. A phe bai unrhyw barchedig yn ceisio cynnal y fath seremoni mi fyddai'n wynebu saith mlynedd o garchar.

Mewn Capel neu Eglwys Babyddol lle mae llawer o briodasau yn digwydd blaenor neu swyddog yw'r unigolyn awdurdodedig fel arfer. Nid y gweinidog na'r offeiriad, fel arall bydd y cofrestrydd sifl yn bresenol a "phriodas sifl" caiff ei gofrestru.

Huw Psych a ddywedodd:Dwi ddim cweit yn dallt pam fo pobl di-ffydd yn cael priodas grefyddol, nac ychwaith yn bedyddio!


Pe bait wedi mynychu'r dim o beth oedd priodas sifl o'r 1840au i'r a'r 1990au - rhywbeth brysiog mewn swyddfa lychlyd, mi fyddet yn gwybod pam ei fod yn cael ei ystyried fel peth eilradd, peth di ras a pheth di barch. Ers y 1990au mae ystafelloedd priodas eithaf parchus wedi eu hategu at rhai swyddfeydd cofrestru. Bellach wrth gwrs cei priodi mewn gwestai crand, stadia p
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 29 gwestai