Mr Gasyth a ddywedodd:Rhys Llwyd a ddywedodd:Y gwir amdani yw na wyddom lawer am Dewi ac fe ddysgom lawer or hyn a wyddom drwy ddarllen Buchedd Dewi gan Rhygyfarch a ysgrifennwyd oddeutu 500 mlynedd yn ddiweddarach - a darn oedd hwnw i fawrygu nid rhoi account teg - e.e. gweler y gyfeiriadaeth at wyrthiau sy'n amlwg ddim yn wir am weithredoedd Dewi (tir yn codi ayyb....)
Yn amlwg ddim yn wir, yma mha ffordd yn union ydyn nhw'n amlwg ddim yn wir? O'u cymharu dyweder a phorthi'r pum mil neu gerdded ar y dwr.Rhys Llwyd a ddywedodd:Fedrai yn ym myw deall pam fod anghredinwyr yn dathlu Dydd Gwyl Ddewi - anwybodaeth am wir ystyr yr wyl maen debyg.
Ti'n trio bod yn ddwl weithie dwyt. Dwirnod cenedlaethol Cymru yw dydd gwyl Ddewi, fel ma'r Nadolig yn wbeth i neud ganol gaea a'r Pasg yn esgus am siocled a dau wyl y banc. Fel mae HRF yn nodi, mae'r Cristnogion wedi 'hijackio' nifer o wyliau paganaidd, nawr mae'n amser i'r anghredinwyr eu hawlio yn ol!
Oce sori gor ddweud chydig bach. Mae Duw yn bendithio trwy'r oesoedd ond maen anodd genai gredu fod unrhyw un heblaw am Iesu ei hun wedi cyflawni gwyrthiau o'r math arallfydol y mae pobl fel Dewi, yn ol y son, wedi ei berfformio.
O ran Anghredinwyr yn hijackio Dydd Gwyl Ddewi - dwi'n glynu wrth hynny. Ond mae gen ti bwynt am y nadolig, mi roedd yna wyl eaf baganaidd yn bodoli - ond nid dyna pam fod ysgolion yn cau nage?