gan Ffinc Ffloyd » Gwe 30 Meh 2006 8:31 am
Dwi'n bersonol yn meddwl bod crefydd yn mynd yn rhy bell os ydi o'n dylanwadu ar wleidyddiaeth. Mae'r busnes 'ma efo Bush/Blair yn fy nychryn i'n ofnadwy, oherwydd eu bod nhw'n troi cwestiwn hynod gymhleth (a ydy'n bosib cyfiawnhau rhyfel yn Irac) yn un llawer rhy syml, sef ai dyna fyddai Duw am iddyn nhw wneud. (Yn bersonol, mi faswn i'n synnu os oedd o - mae 'na sbelan ers i mi ddarllan y'Meibl ddiwetha ond dwi'n siwr mod i'n cofio rwbath am droi'r foch arall a charu dy gymydog aballu).
Dwi'n meddwl mai rwbath personol ydi crefydd, yn yr ystyr na ddylsa chi ei ddefnyddio fo i drio dylanwadu ar eraill. Hynny yw, os ydy'ch crefydd chi'n condemnio erthyliad, mae gennoch chi bob hawl i beidio cael erthyliad, ond mae hi'n gwbl anghywir i drio dweud na ddylai neb - gan gynnwys pobl sydd ddim yn credu eich ffydd chi - allu cael un.
Mae 'Cristnogion' asgell-dde America yn grwp sy'n gwbl wrthun i fi. Mae nhw'n rhoi enw drwg i Gristnogion eraill, dwi'n tybio, ac mae'r ffordd gwbl ddu-a-gwyn yma o weld y byd (da/dieflig, for us/against us ayyb) yn gwbl anghyfrifol. Dwnim be di'r ateb, wedi deud hynny.