Pryd mae rhyddid i grefydd wedi mynd yn rhy bell?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pryd mae rhyddid i grefydd wedi mynd yn rhy bell?

Postiogan Lowri Fflur » Maw 04 Ebr 2006 10:47 pm

Ydi rhyddid i grefydd yn gallu mynd yn rhy bell ac os felly pryd? Yn bersonol dwi'n meddwl mai enghraifft dda o grefydd wedi mynd yn rhy bell yw pam mae Blair yn defnyddio Duw i amddiffyn ei resymau dros fynd i ryfel yn Irac.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan dawncyfarwydd » Mer 05 Ebr 2006 4:26 pm

Wnaeth Tony Blair ddim o hynny ar Parkinson beth bynnag os mai am dyna ti'n son). Beth wnaeth o oedd dweud mai Duw - os ydach chi'n credu mewn Duw - ydi'r un fydd a'r farn derfynol ynglyn a rhyfel Irac. Pwynt ynglyn ag i bwy mae o'n atebol yn y diwedd oedd o - nid ceisio cyfiawnhau'r peth drwy ddweud bod Duw ar ei ochr o. Mewn gwirionedd mi oedd o'n bwynt teg i'w wneud, mewn geiriau eraill:
"Fe es i i Irac gan gredu mai hynny oedd y peth cywir i'w wneud. Dwi'n dal i gredu hynny, ond yn sylweddoli mai bod dynol ydw i sydd ddim yn gallu barnu pethau felly yn y pen draw. Duw sy'n gwybod, ac mae'n rhaid i mi dderbyn ei farn o."
Yn bersonol, dwi'n credu bod mynd i Irac ar y sail yr aeth Prydain yno - sef celwydd - yn anghywir. Mae Blair yn anghytuno. Ond Duw fydd yn iawn yn y diwedd.

Mae pethau'n cymhlethu pan ydi Bush yn dweud bod Duw wedi 'dweud' wrtho ymosod ar Irac. Os mai dyna brofiad gwirioneddol Mr Bush yna mae'n rhaid i mi gyfaddef nad ydw i'n deall hynny'n iawn, ond mae 'na lot fawr o bethau na fedra i eu hesbonio tan ar ol i mi farw.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 05 Ebr 2006 9:11 pm

Wel mi wnei job iawn o esbonio i ni bryd hynny yn g'nei :? :winc:
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Ffinc Ffloyd » Gwe 30 Meh 2006 8:31 am

Dwi'n bersonol yn meddwl bod crefydd yn mynd yn rhy bell os ydi o'n dylanwadu ar wleidyddiaeth. Mae'r busnes 'ma efo Bush/Blair yn fy nychryn i'n ofnadwy, oherwydd eu bod nhw'n troi cwestiwn hynod gymhleth (a ydy'n bosib cyfiawnhau rhyfel yn Irac) yn un llawer rhy syml, sef ai dyna fyddai Duw am iddyn nhw wneud. (Yn bersonol, mi faswn i'n synnu os oedd o - mae 'na sbelan ers i mi ddarllan y'Meibl ddiwetha ond dwi'n siwr mod i'n cofio rwbath am droi'r foch arall a charu dy gymydog aballu).

Dwi'n meddwl mai rwbath personol ydi crefydd, yn yr ystyr na ddylsa chi ei ddefnyddio fo i drio dylanwadu ar eraill. Hynny yw, os ydy'ch crefydd chi'n condemnio erthyliad, mae gennoch chi bob hawl i beidio cael erthyliad, ond mae hi'n gwbl anghywir i drio dweud na ddylai neb - gan gynnwys pobl sydd ddim yn credu eich ffydd chi - allu cael un.

Mae 'Cristnogion' asgell-dde America yn grwp sy'n gwbl wrthun i fi. Mae nhw'n rhoi enw drwg i Gristnogion eraill, dwi'n tybio, ac mae'r ffordd gwbl ddu-a-gwyn yma o weld y byd (da/dieflig, for us/against us ayyb) yn gwbl anghyfrifol. Dwnim be di'r ateb, wedi deud hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe 30 Meh 2006 12:26 pm

Ffinc Ffloyd a ddywedodd:Mae 'Cristnogion' asgell-dde America yn grwp sy'n gwbl wrthun i fi. Mae nhw'n rhoi enw drwg i Gristnogion eraill, dwi'n tybio, ac mae'r ffordd gwbl ddu-a-gwyn yma o weld y byd (da/dieflig, for us/against us ayyb) yn gwbl anghyfrifol. Dwnim be di'r ateb, wedi deud hynny.
Gwir iawn - ylwch hon er enghraifft: http://media.putfile.com/insane_woman_on_fox_news. Gwneud dim lles i neb.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron