Ydi Protestaniaeth wedi styntio ein diwylliant?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Lowri Fflur » Maw 11 Ebr 2006 3:36 pm

sian a ddywedodd:Pam be?

Dw i'n meddwl ei bod hi'n deg dweud bod mwy i ddiwylliant nag yfed a chware offerynnau yn y dafarn! :D


Ai dwi'n cytuno efo chdi. Holi oeddwn i beth am y diwylliant anghydffurfiol sydd yn ei wneud yn gyfoethog i chdi? Gyna chdi enghreifftiau?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Chwadan » Maw 11 Ebr 2006 3:42 pm

krustysnaks a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod y traddodiad anghydffurfiol wedi styntio ein diwylliant o ran nofelau yn fawr iawn.

Ydi nofelau Gwyddelig (yn enwedig rhai cyn 1945) yn "well" na rhai Cymraeg? Ag o ystyried fod gan nofelwyr sy'n sgwennu drwy gyfrwng y Saesneg yn medru cyrraedd cynulleidfa lawer ehangach? Hefyd, onid oes rhaid ystyried statws cymdeithasol nofelwyr mawr y C19feg - faint o Gymry Cymraeg oedd a'r addysg a'r amser i sgwennu nofelau o'u cymharu a nofelwyr dosbarth canol Lloegr?

Dwnim os dwi'n bod yn simplistig - dwi'n gwbod bygyr ol am lenyddiaeth Gymraeg, ond dwi'n dueddol o weld crefydd (ac anghydffurfiaeth yn enwedig) fel adlewyrchiad o sefyllfa sosio-economaidd, ac nid y ffordd arall. Felly swn i'n dadlau mai'r sefyllfa sosio-economaidd fwy na chrefydd oedd yn gyfrifol am unrhyw ddiffyg (honedig) yn safon llenyddiaeth Gymraeg. Ma braidd yn reductionist beio un ffactor ddiwyllianol yn unig am fethiant un arall.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Dwlwen » Maw 11 Ebr 2006 4:00 pm

Chwadan a ddywedodd:
krustysnaks a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod y traddodiad anghydffurfiol wedi styntio ein diwylliant o ran nofelau yn fawr iawn.

Ydi nofelau Gwyddelig (yn enwedig rhai cyn 1945) yn "well" na rhai Cymraeg? Ag o ystyried fod gan nofelwyr sy'n sgwennu drwy gyfrwng y Saesneg yn medru cyrraedd cynulleidfa lawer ehangach? Hefyd, onid oes rhaid ystyried statws cymdeithasol nofelwyr mawr y C19feg - faint o Gymry Cymraeg oedd a'r addysg a'r amser i sgwennu nofelau o'u cymharu a nofelwyr dosbarth canol Lloegr?

Wyt ti'n meddwl rhai yn yr iaith Wyddeleg yn benodol, neu nofelau gan awduron o Iwerddon? Yn sicr, ma Joyce yn gosod safon rhyngwladol i'r nofel, a'i ffrind Flann O'Brien yn nofelydd o fri, yn fy marn i - er, gwerth nodi falle bod y nofelau sgwennodd e yn y Wyddeleg - eto, yn fy marn i - ddim mor uchelgeisiol a'i nofelau Saesneg. Wrth gwrs, cafodd y ddau yma addysg dda, dosbarth canol - a treuliodd Joyce rhanfwyaf o'i fywyd tu hwnt i Iwerddon.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan sian » Maw 11 Ebr 2006 10:31 pm

y fam ddaear a ddywedodd: Anghydffurfiaeth wedi lladd y diwylliant o'r Cymry yn mynd i yfad a chware offerynau yn y dafarn fel mae'r Gwyddelod yn gwneud.


Mm - roedd y Cymry'n mynd i'r dafarn jest i yfed - sonia di wrth hen bobol ac fe fyddan nhw'n gallu rhestru dwsinau o dafarnau oedd ar agor mewn unrhyw dre yng Nghymru pan oedden nhw'n ifanc - yr adeg pan oedd anghydffurfiaeth ar ei chryfa, o bosib. Rhywbeth fel 64 yng Nghaerfyrddin os ydw i'n cofio'n iawn.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 11 Ebr 2006 11:08 pm

Dwi ddim yn honi mod i'n deall/dilyn llenyddiaeth - dwi ddim wedi darllen ffuglen Gymreig yn eang o gwbwl ond yr ychydig dwi wedi darllen ydy cerddi Cristnogol a nofelau seciwlar.

Mae'r ddau ohonyn nhw yn gyfoethog yn eu ffordd eu hunain. Mae grym aruthrol i rai o weithiau Pantycelyn ond mae yna fenter a gafaelwch i nofelau Mihangel Morgan hefyd.

Dwi ddim yn credu fod hi'n deg dweud fod Anghydffurfiaeth wedi bod yn stymbling bloc i ddiwylliant Cymreig - i'r gwrthwyneb. Edrycha di ar wledydd lleiafrifol eraill na fuodd drwy ddiwygiadau Protestanaidd (ac felly y sgil effaith socio-economaidd, addysg, gweld gweth diwylliant ayyb...) ac mae eu diwylliant a'i hiaith hwy lawer gwanach.

Fedrai ddeall y ddadl fod Anghydffurfiaeth wedi brawychu rhai nofelwyr/llenorion yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i beidio cyffwrdd rhai pynciau OND dwi'n meddwl fod hyn wedi codi e.e. Edrychwch ar Pennar Davies yn yr G20 - llenor Anghydffurfiol oedd ddigon hapus i son am nwyd!

Llenor Cristnogol neu beidio - pechod sy'n gwneud llenyddiaeth dda ontife?! Pantycelyn yn erfyn a diolch am faddeuant amdano a Mihangel Morgan yn nofio'n ddigon hapus a di-hud ynddo.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan sian » Mer 12 Ebr 2006 7:14 am

y fam ddaear a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Pam be?

Dw i'n meddwl ei bod hi'n deg dweud bod mwy i ddiwylliant nag yfed a chware offerynnau yn y dafarn! :D


Ai dwi'n cytuno efo chdi. Holi oeddwn i beth am y diwylliant anghydffurfiol sydd yn ei wneud yn gyfoethog i chdi? Gyna chdi enghreifftiau?


Sori, ro'n i ar frys neithiwr.
Yn uniongyrchol, mae gen ti'r cyfoeth enfawr o emynau a phregethau a thraddodiadau fel y Gymanfa Ganu. Hefyd, mae cyfarfodydd fel y Cwrdd Plant a'r Gymdeithas Ddiwylliadol lle roedd pawb yn cael cyfle i gymryd rhan yn gyhoeddus. Mae lot o bobl sy wedi dod yn enwog yn diolch i'r capel am roi eu blas cynta iddyn nhw o sefyll o flaen pobl i ddarllen/canu etc.

Hefyd, fel mae Rhys yn dweud, mae 'na ddylanwad anuniongyrchol - anghydffurfwyr yn arbennig yn dymuno'u gwella eu hunain - dosbarthiadau WEA, cymdeithasau hanes lleol, eisteddfodau bach, corau etc. Ac mae'r elfen elusennol sydd i'w gweld, i raddau, hyd heddiw - er enghraifft, roedd bore coffi i godi arian at wella'r neuadd bentref yn Nhrefor dydd Sadwrn ac roedd llawer o'r rhai oedd yn helpu/prynu yn bobl capel/eglwys - er mai canran eitha isel ydyn nhw o'r boblogaeth yn gyffredinol erbyn hyn. Dw i ddim yn siwr yn union beth yw'r rheswm - ai rhyw gydwybod cymdeithasol? (Wrth gwrs, mae tafarndai yn codi arian at achosion da hefyd.)
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 12 Ebr 2006 9:42 am

sian a ddywedodd:Ac mae'r elfen elusennol sydd i'w gweld, i raddau, hyd heddiw - er enghraifft, roedd bore coffi i godi arian at wella'r neuadd bentref yn Nhrefor dydd Sadwrn ac roedd llawer o'r rhai oedd yn helpu/prynu yn bobl capel/eglwys - er mai canran eitha isel ydyn nhw o'r boblogaeth yn gyffredinol erbyn hyn. Dw i ddim yn siwr yn union beth yw'r rheswm - ai rhyw gydwybod cymdeithasol?


Sori am daflu chydig bach o ddiwinyddiaeth mewn i'r cogs ond yr esboniad beriblaidd am hyn yw Gras Cyffredinol

Un o'r athrawiaethau Calfinaidd y rhoddodd Kuyper gryn bwyslais, ac agwedd atyniadol arall i Tudur Jones, oedd athrawiaeth Gras Cyffredinol.1 Fe ddywed athrawiaeth Gras Cyffredinol fod gras yn '...syrthio ar bawb yn ddi wah
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Pysgod Gwirioneddol Fawr » Sul 23 Ebr 2006 5:13 pm

Dwi'n ymddiheuro o flaen llaw os aiff hwn yn gyfraniad hir!

Mae Protestaniaeth yn gwerthfawrogi symlder, dwl, stoic. Mae'n llwyd ac yn ddiflas, ac yn trethu'i ddilynwyr gyda'r un diflaster.



Efallai yn ei hanfod bod elfen o hynny- dwi ddim yn ddigon o arbennigwr ar lenyddiaethau Protestanaidd Ewrop un ffordd neu'r llall -wnai adael i ti benderfynnu os yw hynny'n wir ai peidio. ond hyn a wydda i am lenyddiaeth fethodistaidd gynnar. lleihaodd y traddodiad barddol a'r traddodiad llafar gwreiddiol erbyn y 18g- doedd e'n ddim ond cysgod o'r hyn a fodolai gynt yng Nghymru. Yr hyn a welwn ni gyda'r Methodistiaid ydi pobl heb nemor ddim cefndir dysgedig traddodiadol Cymreig yn mynegi ei teimladau dwysaf a dyfnaf- llenyddiaeth syml, ond tanllyd. Aruchel ddiwylliant hynafol Cymru oedd y gododdin a'r mabinogion- dechrau rhyddid llenyddol i unrhyw un a dawn dweud lenyddol ym mha bynnag faes i ddweud ei ddweud. heb lenyddiaeth y methodistiaid prin iawn y byddai d'awduron modern di'n barddoni ac yn creu o gwbwl.

cyn daw'r pam? sut? -io -gadewch i ni gymharu'r sefyllfa a'r gwledydd Celtaidd eraill. bu farw llenyddiaeth Wyddelig hynafol yn yr 16g, a ddaeth na ddim ar ei hol oedd yn gynhenid; Eingl-wyddelig oeddent. Dwi ddim yn arbenigo yn hanes Llydaw ond o'r hyn wela i traddodiad o hynafiaethwyr a chasglwyr gawn yno: introsbectif ac ol-edrychol tu hwnt.

Felly, er ein bod ni wedi hen arfer a chlywed yr hen emynau, a'n bod ni prin yn sylwi ar eu mawredd llenyddol, rym ni wedi methu a gweld eu gwreiddioldeb syfrdanol.


Esiampl dda o hyn yw Daniel Owen yn gorfod sgwennu ei lyfrau o safbwynt gweinidog am fod unrhyw fath arall o lyfr yn cael ei ystyried yn anfad. Be fyddai fo wedi ei medru ei greu pe bai ganddo'r rhyddid i wneud beth a fynnai


Dwi'n gweld dy bwynt di, ond a fydde fe wedi creu o gwbwl pe na bai system o gylchgronau a phapurau newydd cymraeg yn fframwaith iddo gyhoeddi a dosbarthu ei waith? Dwi'n tybio petaet ti'n ymchwilio i hanes protestaniaeth a Chymru mi faset yn dod i'r casgliad mai ffurfio'r Genedl Anghydffurfiol: mae'r Eisteddfod wedi bod yn ddylanwad negyddol tu hwnt ar ryddid i greu mewn llenyddiaeth Gymreig (ond eto'n ffordd unigryw o wobrwyo pencampwyr llenyddiaeth). Felly gwell fase peidio dweud "protestaniaeth=drwg' a 'moderniaeth=llesol' (enghreifftiau yn unig).
Rhithffurf defnyddiwr
Pysgod Gwirioneddol Fawr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 121
Ymunwyd: Gwe 24 Hyd 2003 1:00 am
Lleoliad: pen y garn

Postiogan Macsen » Sul 23 Ebr 2006 5:29 pm

Ymatebion diddorol iawn, diolch yn fawr i bawb!

Pysgod Gwirioneddol Fawr a ddywedodd:mae'r Eisteddfod wedi bod yn ddylanwad negyddol tu hwnt ar ryddid i greu mewn llenyddiaeth Gymreig (ond eto'n ffordd unigryw o wobrwyo pencampwyr llenyddiaeth). Felly gwell fase peidio dweud "protestaniaeth=drwg' a 'moderniaeth=llesol' (enghreifftiau yn unig).

Pam wyt ti'n meddwl hyn? Am ei bod nhw'n gosod testun anhyblyg a bod gan y beirniaid agwedd 'ceidwadol' tuag at lenyddiaeth Cymraeg?
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Pysgod Gwirioneddol Fawr » Sul 23 Ebr 2006 6:03 pm

bosib nad oeddwn i'n hollol glir. dyna fy marn bersonol i- o'n i'n ceisio cymharu'r eisteddfod a dylanwad protestanaidd- ei fod yn llesol mewn rhai agweddau ac eto'n anllesol mewn eraill. bydd rhaid i mi finiogi fy nweud cyn camu fewn i seiat criw duw eto mae arnai ofn :winc:

gosod testun anhyblyg a bod gan y beirniaid agwedd 'ceidwadol' tuag at lenyddiaeth Cymraeg


ie, yn rhannol. un o sawl ffactor. dwi'n amau y byddai'r gwyneddigion yn 1789 yn canmol sefyllfa lle mewn gwirionedd un cystadleuaeth lenyddol o bwys sy' y flwyddyn. mae rhaid cofio fod angen i'r beirniaid ddod i gasgliad sydd i'w chwaeth artistig hwy eu hunain, yn ogystal a bodloni chwaeth torfol trwy ddewis gerdd gaeth sy'n debygol o gael ei darllen gan niferoedd o bobl nad ydynt yn danysgrifwyr i 'barddas'.

fy awgrym i oedd petaet ti'n parhau gyda dy ymchwil mi fyddet yn dod i'r casgliad mai chwaeth torfol a moes oes fictoria sydd ei feio. wrth gwrs yn ran o hynny mi fedrwn ni osod tipyn o fai wrth droed yr enwadau, ac efallai hyd yn oed rai o arwyr mawr y cyfnod hwnnw- John Elias, Lewis Edwards ac eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
Pysgod Gwirioneddol Fawr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 121
Ymunwyd: Gwe 24 Hyd 2003 1:00 am
Lleoliad: pen y garn

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron