Ydi Protestaniaeth wedi styntio ein diwylliant?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydi Protestaniaeth wedi styntio ein diwylliant?

Postiogan Macsen » Llun 10 Ebr 2006 5:39 pm

O fewn ein diwylliant mae llwyth o bwysau yn cael ei roi ar fod yn greadigol. Pam felly bod y pethau ydyn ni wedi eu creu dros y canrifoedd diwethaf mor unlliw?

Mae Protestaniaeth yn gwerthfawrogi symlder, dwl, stoic. Mae'n llwyd ac yn ddiflas, ac yn trethu'i ddilynwyr gyda'r un diflaster.

Esiampl dda o hyn yw Daniel Owen yn gorfod sgwennu ei lyfrau o safbwynt gweinidog am fod unrhyw fath arall o lyfr yn cael ei ystyried yn anfad. Be fyddai fo wedi ei medru ei greu pe bai ganddo'r rhyddid i wneud beth a fynnai?

Mae'r gelf fwyaf creadigol yn y Gymraeg wedi ei greu n
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Chwadan » Llun 10 Ebr 2006 6:25 pm

Wyt ti'n son am Brotestaniaeth anghydffurfiol neu Brotestaniaeth yr Eglwys yng Nghymru? Neu'n gyffredinol?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Macsen » Llun 10 Ebr 2006 6:35 pm

Yn gyffredinol, heblaw bod gen ti reswm pam bod y rhaniadau yn gwneud gwahaniaeth?
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 10 Ebr 2006 7:42 pm

Mae Protestaniaeth yr Eglwys yn llawer mwy lliwgar a ffansi na phrotestaniaeth anghydffurfiol yn gyffredinol. Gellir gweld hyn yn syml trwy gymharu capel ac Eglwys.

Ond un pwynt arall, a fyddai'r iaith Gymraeg yn bodoli o gwbwl erbyn hyn onibai am anghydffurfiaeth Brotestanaidd?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Dewi Lodge » Maw 11 Ebr 2006 12:11 pm

Macsen a ddywedodd:Yn gyffredinol, heblaw bod gen ti reswm pam bod y rhaniadau yn gwneud gwahaniaeth?


Onid eglwys gatholig yw Eglwys Lloegr? Un sy'n cydnabod y frenhines fel pennaeth yn hytrach na'r p
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Lodge
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 293
Ymunwyd: Mer 28 Medi 2005 11:52 am
Lleoliad: Pwllheli

Postiogan sian » Maw 11 Ebr 2006 12:18 pm

Bosib bod Protestaniaeth - ac Anghydffurfiaeth yn benodol - wedi newid ein diwylliant ond dw i ddim yn meddwl bod styntio yn air teg.

Dw i'n meddwl bod y diwylliant sydd wedi'i greu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol am ein bod yn byw mewn cymdeithas anghydffurfiol yn un eithriadol o gyfoethog.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Lowri Fflur » Maw 11 Ebr 2006 2:23 pm

sian a ddywedodd:Dw i'n meddwl bod y diwylliant sydd wedi'i greu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol am ein bod yn byw mewn cymdeithas anghydffurfiol yn un eithriadol o gyfoethog.


Pam?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Lowri Fflur » Maw 11 Ebr 2006 2:35 pm

Dwi'n meddwl fod anghydffurfiaeth wedi achub yr iaith Gymraeg i ryw raddfa ond hefyd wedi ei niweidio hi a'i diwylliant hefyd. Anghydffurfiaeth wedi lladd y diwylliant o'r Cymry yn mynd i yfad a chware offerynau yn y dafarn fel mae'r Gwyddelod yn gwneud.

Er bod fi'n cydnabod bod Anghydffurfiaeth wedi achub y Gymraeg i ryw raddfa, dwi ddim am droi yn Brotestant oherwydd bod fi'n ddiolchgar am hyn.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan sian » Maw 11 Ebr 2006 3:01 pm

Pam be?

Dw i'n meddwl ei bod hi'n deg dweud bod mwy i ddiwylliant nag yfed a chware offerynnau yn y dafarn! :D
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan krustysnaks » Maw 11 Ebr 2006 3:27 pm

Dwi'n meddwl fod y traddodiad anghydffurfiol wedi styntio ein diwylliant o ran nofelau yn fawr iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron