Barbarella a ddywedodd:...hynny yw, byddai pobl hoyw yn fwy parod i warchod plant eraill, ...
Fydda i'n gwbod i pwy i ofyn tro nesa fydda i eisiau noson mas felly.
Barbarella a ddywedodd:Yn gyffredinol, mae cristnogion yn meddwl, ac yn dweud, bod pobl hoyw yn anghywir neu'n annerbyniol. Ac mae'r agweddau hynny wedi arwain at gamdrin, camwahaniaethau, a llofruddio pobl hoyw.
Mae hyn yn bwynt dilys. Fel y soniais i o'r blaen, mae'n siwr nad yw Cristnogion, yn bersonol, yn rhoi hasl i bobl hoyw ond mae cyfrifoldeb mawr arnyn nhw i sicrhau nad ydyn nhw'n dweud dim allai arwain pobl eraill i ymddwyn yn ddilornus at bobl hoyw.
Barbarella a ddywedodd:Mae cristnogion at ei gilydd yn bobl iawn, jysd chydig yn geidwadol
Mae pobol hoyw at ei gilydd yn bobl iawn hefyd, jysd yn bechaduriaid run peth