y fam ddaear a ddywedodd:Felly ti'n deud Rhys bod, bod yn hoeuw yr un fath a bob pechod arall a nid lle Cristnogion ydi barnu. Cywira fi os dwi'n anghywir. Ond yn resymegol pam bod rhaid i neud gweithred hoeuw gael ei ystyried yn bechod o gwbl? Dydi o ddim yn brifo neb felly pam bod o'n cael ei roid yn ur un cwch a pechodau sydd yn brifo pobl?
Yn ol trefn Duw (dwi'n gwbod nad wyt ti'n credu yn hyn ond ti ofynoedd!) perthnasau priod hetrorywiol ydy hi fod. A gan anwybyddu emosiwn am eiliad ac edrych ar mecanics y peth mae hynny yn gwneud sens yn dydy? Yn dy farn di dydy trefn Duw ddim yn gneud synwyr, digon teg - ond dyna ydy'r drefn sydd wedi ei ddatguddio yn yr ysgrythur dwi'n ei gredu.
Cymer y pechod o addoli Duw arall - gellid dadlau na fydd addoli Duw arall yn gwneud drwg i neb OND des waeth am hynny nid dyna oedd trefn Duw.
Ond fel nodais dwi ddim yn gyfforddus yn mynd ar ol pechodau unigol.