Hoywon

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hoywon

Postiogan dawncyfarwydd » Sad 15 Ebr 2006 12:20 pm

Yr agweddau crefyddol at homorywioldeb.

Fel Cristion, dwi'n credu bod hoywder yn annaturiol ac anghywir, ac yn mynd yn groes i sut cafodd dynoliaeth ei chynllunio. Ond yn ogystal dwi'n derbyn na fedar hoywon ddewis o ran eu rhywioldeb. Yr hyn sy'n annerbyniol felly yn fy marn i ydi
i. ymhyfrydu yn y pechod hwnnw - hynny ydi son amdano fo fel rhywbeth normal, cwl a phwdu efo pwy bynnag sy'n meiddio awgrymu ei fod o'n annaturiol
ii. gweithredu ar y chwantau afiach y maen nhw'n eu cael - hynny ydi cachdrywanu
Dwi hefyd yn credu bod maddeuant am y pechod i'w gael, fel am bob dim, drwy abeth Iesu. Ac os bydd unigolyn yn derbyn Crist mi fydd hi'n haws iddo fo goncro'r nwydau mae o'n eu cael.

Be dach chi'n feddwl?
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Hoywon

Postiogan Leusa » Sad 15 Ebr 2006 12:38 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd: Be dach chi'n feddwl?

'Dwi'n gweld piti drosda ti dy fod di wedi cael dy frainwosho yn y fath ffordd i wirioneddol gredu be ti newydd ddeud. A chditha yn byw yn yr unfed ganrif a ddeg.

Os ydi person yn hoyw ac yn cael y "chwantau afiach" rhain wyt ti'n cyfeirio atynt, pam bod rhaid iddyn nhw gael eu beirniadu am ddangos cariad corfforol at rhywun o'r un rhyw? Pam y dylia pobol gyffredin fel yna ddiodda achos bo pobol fel chdi yn credu yn ngair rhywun sydd siwr o fod ddim yn bodoli eniwe.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Re: Hoywon

Postiogan Tegwared ap Seion » Sad 15 Ebr 2006 1:52 pm

Leusa a ddywedodd:A chditha yn byw yn yr unfed ganrif a ddeg.


:lol: so what?

ymhyfrydu yn y pechod hwnnw - hynny ydi son amdano fo fel rhywbeth normal, cwl a phwdu efo pwy bynnag sy'n meiddio awgrymu ei fod o'n annaturiol


mmm dwi'n lled-gytuno efo hwn dwi'n meddwl.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Chwadan » Sad 15 Ebr 2006 5:19 pm

Ma defnyddio Cristnogaeth fel esgus dros ragfarn pur yn fwy "afiach" nag unrhywbeth ma pobl hoyw yn dewis ei neud :x Rhowch i mi feddwl agored hoyw unrhyw ddydd dros feddwl cul "Cristnogol". Bydd oddefgar a char dy gymydog, ond ddim ond os ydi'r cymydog hwnnw yn cyd-fynd a dy syniada cul am berffeithrwydd dyn :drwg:

Be am drio dilyn egwyddorion mawr Cristnogaeth yn hytrach na dilyn adnodau unigol sy'n cyd-fynd a'ch rhagfarnau?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Hoywon

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sad 15 Ebr 2006 5:50 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:
Leusa a ddywedodd:A chditha yn byw yn yr unfed ganrif a ddeg.


:lol: so what?

Ynta'r unfed ganrif ar hugain?!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Hoywon

Postiogan Lowri Fflur » Sad 15 Ebr 2006 6:24 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:
Be dach chi'n feddwl?
Dydi o ddim yn gwneud dim math o synnwyr i fi bod Duw wedi creu pobl hoeuw a dweud bod o'n anghywir i nhw weithredu ar hyn. Dipyn bach yn greulon os ti'n gofyn i fi. Dwi'n meddwl ei fod o'n anheg iawn gofyn i berson hoeuw beidio mynd efo pobl hoeuw eraill os mae nhw eisiau pechu llai. Ti'n gwneud o'n anodd iawn i'r person yna dderbyn ei hun.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan sian » Sad 15 Ebr 2006 10:17 pm

Cwpwl o bwyntiau - o safbwynt Cristion:
1) rhaid cofio bod pobol hoyw yn bobol "normal" - wel, mor normal ag mae'n bosib i fod dynol fod
2) rhaid cofio bod 'na lot fawr o bechodau yn cael eu henwi yn y Beibl - ond bod rhai ohonyn nhw'n fwy 'derbyniol' i gymdeithas nag eraill, am ryw reswm
3) mae Cristnogion i fod i garu eu cyd-ddyn
4) mae pobl heterorywiol i fod yn ffyddlon i un g?r/gwraig trwy eu hoes
5) oherwydd y Cwymp, mae lot fawr o bethau'n bod ar y byd a'i bobl - ry'n ni'n bell iawn o gyrraedd y ddelfryd - dydi hynny ddim yn esgus dros anwybyddu pechod ond mae yn help i fod yn oddefgar
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Ramirez » Sad 15 Ebr 2006 11:56 pm

Chwadan a ddywedodd:Ma defnyddio Cristnogaeth fel esgus dros ragfarn pur yn fwy "afiach" nag unrhywbeth ma pobl hoyw yn dewis ei neud :x Rhowch i mi feddwl agored hoyw unrhyw ddydd dros feddwl cul "Cristnogol".


Winwnsun union.

Mi oedd geni fwy i ddeud, ond anhofiais. Yn gyffredinol, cytunaf a Chwadan.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 16 Ebr 2006 12:17 am

Chwadan a ddywedodd: Ma defnyddio Cristnogaeth fel esgus dros ragfarn pur yn fwy "afiach" nag unrhywbeth ma pobl hoyw yn dewis ei neud


Ymateb rhagfarnllyd braidd yw honni bod Cristion sydd yn credu mai pechod yw gweithredoedd gwrywgydiol yn rhagfarnllyd.

Nid rhagfarn yw fy marn am wrywgydiaeth, ond barn yr wyf wedi dod ati wedi ystyried y pwnc yng ngoleuni'r ddysgeidiaeth Gristionogol.

Rwy'n cytuno yn llwyr a'r hyn y mae Si
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Mali » Sul 16 Ebr 2006 12:50 am

Chwadan a ddywedodd:Rhowch i mi feddwl agored hoyw unrhyw ddydd dros feddwl cul "Cristnogol".


A felly dwi'n teimlo hefyd.
Fedrai jyst ddim meddwl y bod hi'n 'bechod ' i fod yn hoyw.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron