Tudalen 5 o 7

PostioPostiwyd: Maw 18 Ebr 2006 4:02 pm
gan Barbarella
Rhys Llwyd a ddywedodd:... perthnasau priod hetrorywiol ydy hi fod. A gan anwybyddu emosiwn am eiliad ac edrych ar mecanics y peth mae hynny yn gwneud sens yn dydy?


Wel, rhywbeth emosiynol ydi priodas, dim byd i'w wneud efo'r "mecanics" ei hunain.

Ond dwi'n anghytuno efo'r dadl am "fecanics" beth bynnag. Falle bod hyn yn swnio fel j

PostioPostiwyd: Maw 18 Ebr 2006 4:56 pm
gan Rhys Llwyd
Mae dy ddadl yn gywir Barbs i raddau. Dwi jest di cal llond bol ar bobl yn fy ngalw'n homoffob rhagafarnllyd - ma pawb sy'n fy adnabod, fel ti gobeithio, yn gwbod mod i'n hollol 'ok' efo pobl hoyw union fel dwi'n 'ok' efo pobl sy'n farus!!!

Ar un llaw fe alle ni ildio a mynd 'ok, dydy'r beibl ddim yn gywir' ond wedyn mae'r cyfan yn syrthio i ddarnau yn dydy? O safbwynt dysgeidiaeth Gristnogol mae pawb yn gydradd - o safbwynt anghywir ac anfeiblaidd cymdeithasol Cristnogol mae pobol hoyw yn israddol. Dydy nhw ddim yn is raddol. Mae pawb ar yr un lefel gerbron Duw.

Parthed y ddadl 'fecanyddol' - diddorol. Ond yr hyn o ni'n trio ddeud oedd, yn ol y ddysgeidiaeth Gristnogol, mae trwy dyn a menyw mae cenhedlu ynde. Hefyd dwi ddim yn awgrymu mae cyflwr dros dro yw bod yn hoyw ac fe ddylai pobol hoyw fod yn syth - os di rhywyn yn hoyw mae o'n hoyw. Nid salwch meddygol y gellid ei drin a thabledi ydyw. Dwi'n farus ond does dim fix meddygol i fy iachau o fod yn farus nacoes.

Dy ni'n farw yn ein camweddau mae'r beibl yn dweud. Ond does dim o'i le ar beidio troi fy nhueddiadau barus yn weithrediadau barus.

Dwi ddim yn disgwyl i ti gytuno - jest deall y way of thought.

PostioPostiwyd: Maw 18 Ebr 2006 5:31 pm
gan krustysnaks
Rhys Llwyd a ddywedodd: Nid salwch meddygol y gellid ei drin a thabledi ydyw. Dwi'n farus ond does dim fix meddygol i fy iachau o fod yn farus nacoes.

Dy ni'n farw yn ein camweddau mae'r beibl yn dweud. Ond does dim o'i le ar beidio troi fy nhueddiadau barus yn weithrediadau barus.

Does dim byd yn bod ar fod yn ddeurywiol, Rhys :winc:

PostioPostiwyd: Maw 18 Ebr 2006 6:03 pm
gan huwwaters
Rhys Llwyd a ddywedodd:Parthed y ddadl 'fecanyddol' - diddorol. Ond yr hyn o ni'n trio ddeud oedd, yn ol y ddysgeidiaeth Gristnogol, mae trwy dyn a menyw mae cenhedlu ynde. Hefyd dwi ddim yn awgrymu mae cyflwr dros dro yw bod yn hoyw ac fe ddylai pobol hoyw fod yn syth - os di rhywyn yn hoyw mae o'n hoyw. Nid salwch meddygol y gellid ei drin a thabledi ydyw. Dwi'n farus ond does dim fix meddygol i fy iachau o fod yn farus nacoes.


Mae pabyddiaeth tipyn mwy llym, fel bod y drefn yn erbyn atgenhedlaeth. Byddai hyn yn golygu fod y nifer o Gristnogion ddim yn tyfu, fel sy'n amlwg yn amal fod teuluoedd Pabyddol yn rhai fawr.

Rwan, beth yw'r ffordd moesol yma? Defnyddio atgenhedlaeth a pheidio cael plentyn, neu rhoi genedigaeth i blentyn na fydd yn cael ei garu fel y dylai?

Pwynt sefyllfa fel hyn yw fod Cristnogaeth yn erbyn unrhyw sefyllfa sydd ddim am gynyddu ei aelodau.

PostioPostiwyd: Maw 18 Ebr 2006 6:42 pm
gan Rhys Llwyd
huwwaters a ddywedodd:Pwynt sefyllfa fel hyn yw fod Cristnogaeth yn erbyn unrhyw sefyllfa sydd ddim am gynyddu ei aelodau.


I ddechrau dysgeidiaeth y Vatican yw banio dulliau atalgenhedlu nid dysgeidiaeth Cristnogaeth. Ac a bod yn deg, protestaniaid sydd yn cyfrannu ir drafodaeth yma nid Pabyddion felly mae hyn besides the point.

Yn ail, wn i ddim os wyt ti wedi clywed am yr 'ail-enedigaeth'? Dydy'r ffydd Gristnogol ddim yn genetical - rhywbeth ti'n dod i gredu dy hun yw e. Yn fy achos i ydy mae fy rhieni yn Gristnogion ond yn achos sawl un arall nid yw hynny'n wir.

PostioPostiwyd: Maw 18 Ebr 2006 7:08 pm
gan Barbarella
Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae dy ddadl yn gywir Barbs i raddau. Dwi jest di cal llond bol ar bobl yn fy ngalw'n homoffob rhagafarnllyd - ma pawb sy'n fy adnabod, fel ti gobeithio, yn gwbod mod i'n hollol 'ok' efo pobl hoyw union fel dwi'n 'ok' efo pobl sy'n farus!!!

Jysd i ddweud -- sori, do'n i ddim yn dadlau efo ti yn bersonol yn fanna, nes i jysd dy ddyfynnu di gan mai ti oedd

PostioPostiwyd: Maw 18 Ebr 2006 7:30 pm
gan sian
Barbarella a ddywedodd:...hynny yw, byddai pobl hoyw yn fwy parod i warchod plant eraill, ...


Fydda i'n gwbod i pwy i ofyn tro nesa fydda i eisiau noson mas felly. :lol:

Barbarella a ddywedodd:Yn gyffredinol, mae cristnogion yn meddwl, ac yn dweud, bod pobl hoyw yn anghywir neu'n annerbyniol. Ac mae'r agweddau hynny wedi arwain at gamdrin, camwahaniaethau, a llofruddio pobl hoyw.


Mae hyn yn bwynt dilys. Fel y soniais i o'r blaen, mae'n siwr nad yw Cristnogion, yn bersonol, yn rhoi hasl i bobl hoyw ond mae cyfrifoldeb mawr arnyn nhw i sicrhau nad ydyn nhw'n dweud dim allai arwain pobl eraill i ymddwyn yn ddilornus at bobl hoyw.

Barbarella a ddywedodd:Mae cristnogion at ei gilydd yn bobl iawn, jysd chydig yn geidwadol ;-)

Mae pobol hoyw at ei gilydd yn bobl iawn hefyd, jysd yn bechaduriaid run peth

PostioPostiwyd: Mer 19 Ebr 2006 2:02 am
gan Neb
Barbarella a ddywedodd:Ond dwi'n anghytuno efo'r dadl am "fecanics" beth bynnag. Falle bod hyn yn swnio fel j

PostioPostiwyd: Iau 20 Ebr 2006 10:41 am
gan Mr Gasyth
fel y dywedais i yn yr edefyn arall:

Rhagfarn ydi rhagfarn, beth bynnag fo'r cyfiawnhad honedig drosto. Dwi'n siwr na fyddai sylwadau gan aelod o gwlt neu grefydd (be ydi'r gwahaniaeth gyda llaw?) sydd yn honi fod Iddewon/duon/merched yn ffiaidd yn cael eu goddef ar y Maes felly pam dylai sylwadau gwrth-hoywon sy'n cael eu cyfiawnhau ar sail grefyddol?

PostioPostiwyd: Iau 20 Ebr 2006 12:06 pm
gan Barbarella
sian (o edefyn arall) a ddywedodd:
nicdafis a ddywedodd: does gennych chi "ryddid barn" ar y Maes Mawr Agored os ydy'ch barn yn sarhaus - fel oedd barn sawl un o "Gristnogion" y maes yn yr edefyn dan sylw.

Er tegwch, dim ond dau o Gristnogion y maes wnaeth fynegi barn y gellid ei dehongli fel bod yn sarhaus - gwnaeth eraill, fel Rhys Llwyd a minnau, geisio rhoi'r darnau dan sylw yng nghyd-destun dysgeidiaeth y Beibl yn gyffredinol.
Yn sicr, mae'r drafodaeth wedi gwneud i mi feddwl am natur pechod a pherthynas pobl