Yr wythnos diwethaf bu ymosodiad ffiaidd ar weinidog Mwslemaidd wrth iddo fynd o amgylch ei waith grefyddol yn y Rhyl.
http://news.bbc.co.uk/2/hi/uk_news/wale ... 165676.stm
Mae aelodau cylch Criw Duw yn ymwybodol o fy marn crefyddol, ond er fy anghytuno a chrefydd yr Imam Awad Kareem, credaf bod rhyddid barn crefyddol yn holl bwysig ac mae ymosodiadau o'r fath yn wrthyn ac yn codi cywilydd ar Gymru.
Mae'n debyg bod yr AS lleol, Chris Ruan, wedi codi deiseb o gefnogaeth a chydymdeimlad i'r Imam. Os am gefnogi'r ddeiseb mae'n debyg mae'r ffordd hawddaf o wneud hynny trwy'r we yw trwy fynd at y wefan
http://www.writetothem.com/
Defnddio'r cod post:
LL18 1HZ
(i gael hyd i Chris) a danfon e-lythyr i'w danfon ymlaen i'r Imam.
Rwyf yn hyderys bydd nifer o'r fath negeseuon yn cael eu danfon oddiwrth gyfranwyr Criw Duw.