Tudalen 1 o 1

Llyfr Gweddi'r Eglwys Yng Nghymru

PostioPostiwyd: Iau 20 Gor 2006 12:19 pm
gan Dafydd Iwanynyglaw
Adventures in pointless obscurantism No. 673

Dwi ar ddeallt fod Cyfrol #1 o lyfr gweddi 1984 yr Eg yng Ngh mewn dwy gyfrol yn y ferswin ddwyieithog.

Mi wn beth sydd yn y cyfrol coch - yr offeren, llithiau/salmau, a chalendr.

Beth sydd yn y llyfr arall - glas? A'i dim on y drefn am weddi a'r sallwyr sydd ynddi, ynte oes pethau fel tablau darlleniadau, y litani, ac ati?

PostioPostiwyd: Iau 20 Gor 2006 1:07 pm
gan Tegwared ap Seion
Y Boreol a'r Hwyrol Weddi

PostioPostiwyd: Iau 20 Gor 2006 1:22 pm
gan Dwlwen
Co rhestr cyhoeddiadau'r Eglwys yng Nghymru (methu llwytho'r ddalen Gymraeg sori.)

O be wy'n cofio - ma llyfryn coch dwyieithog ar gyfer yr offeren, gyda llithoedd a salmau wedi'u gosod yn ol y calendr. Wy'n cymryd taw hwn yw 'Trefn Gwasanaeth y Cymun Bendigaid'. Y llyfr glas tywyll yw Trefn y Foreal a'r Hwyrol Weddi - eto'n ddwyieithog - gyda salmau, colectau a llithoedd.

Ma na lyfr gwyrdd tywyll hefyd - sef trefn y Cymun heb y Gymraeg.

Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:yr Eg yng Ngh

Bachog. Ddyle ti awgrymu'r talfyriad yna i Barry...

PostioPostiwyd: Mer 26 Gor 2006 11:51 am
gan Dafydd Iwanynyglaw
Diolch, bobol - wedi cael gafael a chopi rwan. Llawer llai trafferthus na straffaglu efo Common Worship Daily Prayer.