Duw a Iesu Grist - 'ti' ('chdi') / 'chi'?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Be fyddwch chi'n galw Duw?

Ti/Chdi
12
92%
Chi
1
8%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 13

Duw a Iesu Grist - 'ti' ('chdi') / 'chi'?

Postiogan Macsen » Iau 27 Gor 2006 3:36 pm

Be fyddwch chi'n eu galw nhw wrth weddio (o blith yr opsiwn uchod hynny ydi)?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Tegwared ap Seion » Iau 27 Gor 2006 3:47 pm

Wrth feddwl am Weddi'r Arglwydd, Ti.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Macsen » Iau 27 Gor 2006 3:51 pm

Braidd yn amharchus! Os oes unrhyw fod yn haeddu 'chi', onid y hollalluog yw hwnnw?

Ond mi fyddwn i'n galw Iesu yn 'ti'.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Tegwared ap Seion » Iau 27 Gor 2006 3:58 pm

Macsen a ddywedodd:Braidd yn amharchus!


Hmm. Bosib...

Ai geiriau'r Iesu yw gweddi'r Arglwydd?

Megis y dysgodd ein hiachawdwr Iesu Grist ni, yr ydym yn eofn yn dywedyd:


"Ti" fyddwn ni'n ddweud yn yr ysgol 'fud:

Diolch i Ti am y byd...


Aaaa gormod o feddwl, mai'n wylia fory! :D
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Mr Gasyth » Iau 27 Gor 2006 4:02 pm

Ti ydi o'n bob man o be dwi'n gofio. Mae o'n od fod y Big Chief yn cael llai o barch na athro ysgol, ond glywais i erioed neb yn ei alw yn chi.

Scan sydyn o Wikipedia yn cadarnhau fod hyn yn gyffredinol wir.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Iau 27 Gor 2006 4:07 pm

Ai geiriau'r Iesu yw gweddi'r Arglwydd?

Ond penderfyniad gan y cyfieithwyr cynnar oedd o i alw Duw yn 'ti'. Ddim yn Gymraeg wnaeth Iesu yngan gweddi'r Arglwydd am y tro cyntaf.

Swni'n meddwl bod Duw wedi ei gythruddo gan y cam, gan ei fod o'n gorchymun parch a bri ymhob rhan o'r Beibl.

Scan sydyn o Wikipedia yn cadarnhau fod hyn yn gyffredinol wir.

Yr holl mae'r dudalen yna'n cadarnhau ydi mae Vader ydi enw Duw yn Afrikaans. [cue Imperial March theme]
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan gronw » Iau 27 Gor 2006 4:14 pm

ie, Ti ydy Duw siwr iawn. a dim diffyg parch ydy o - agosatrwydd! Ein Tad Ni Oll etc.

a be mae'r dudalen wicipedia na'n dangos ydy bod Duw yn "ti" mewn lot o ieithoedd eraill hefyd - gan gynnwys Saesneg "hallowed by Thy Name..."
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Mr Gasyth » Iau 27 Gor 2006 4:18 pm

gronw a ddywedodd:ie, Ti ydy Duw siwr iawn. a dim diffyg parch ydy o - agosatrwydd! Ein Tad Ni Oll etc.

a be mae'r dudalen wicipedia na'n dangos ydy bod Duw yn "ti" mewn lot o ieithoedd eraill hefyd - gan gynnwys Saesneg "hallowed by Thy Name..."


Diolch Gronw

Macsen :rolio: onid wyt ti'n gweld clyfrwch pam y galwyd Darth Vader felly, o ystyried ei berthynas a phrif arwr y stori?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Mr Gasyth » Iau 27 Gor 2006 4:18 pm

[neges ddwbl wedi dileu]
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Iau 27 Gor 2006 4:22 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Macsen :rolio: onid wyt ti'n gweld clyfrwch pam y galwyd Darth Vader felly, o ystyried ei berthynas a phrif arwr y stori?

Come off it, pan sgwennodd y Barf rhan gynta'r stori doedd o heb weithio allan mae Luc oedd mab Vader eto. Mae clyfrwch a Star Wars yn cymysgu fel olew a dwr.

A dyw'r ffaith bod pob iaith yn anghwrtais tuag at y hollalluog ddim yn ei wneud e'n iawn.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron