Mi o'n i' pori drwy un o hen lyfrau hyms y Methodistiaid efo ffrindia'r dwrnod o'r blaen, as iw dw, ac mi ddaethon ni ar draws rhai emynau gwych nad ydyn nhw ddim yn Ffaneuon Cydd. Un o'r rheini sy'n sefyll allan ydi:
Rhyfedd na buaswn nawr
yn y fflamau
wedi cael fy nhorri lawr
am fy meiau.
Am fy mod i heddiw'n fyw
mi rof deyrnged -
clod a mawl i f'Arglwydd Dduw
am fy arbed.
Rhyfedd yw i Dduw erioed
edrych arnaf;
mawr fy rhwymau i roi clod
i'r Goruchaf:
os ca'i 'nwyn i ben fy nhaith
yn ddihangol,
moli Iesu fydd fy ngwaith
yn dragwyddol.
Wan, mae hwnna'n wych o emyn dydi? Mae o yn y Llawlyfr Moliant a'r Caniedydd yn ogystal a gan y Methodistiaid. Pam, pam, OOOOOO pam na wnaethon nhw ei gynnwys o?!
Mae'n rhesymol i ddweud bod y pwyllgor dewis yn ystyried bod cynulleidfaoedd Cymru'n mynd i gael llai o fendith o ganu'r emyn gwych yna nag o rhyw litwrgiau o Dde Affrica aballu.
Oes 'na ryw enghreifftiau o emynau da eraill gafodd eu gadael ar ol?
Gyda llaw, dwi o'r farn bod Caneuon Ffydd yn wych o lyfr ar y cyfan. Ond mae 'na rai petha dwl fel'na!