Tudalen 1 o 2

grinbelt

PostioPostiwyd: Mer 30 Awst 2006 3:56 pm
gan Dafydd Iwanynyglaw
a fuoch chi yn grinbelt dros wyl y banc?

wneuthoch chi fwynhau?

Re: grinbelt

PostioPostiwyd: Llun 04 Medi 2006 11:50 am
gan Rhysjj
Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:a fuoch chi yn grinbelt dros wyl y banc?


Do, diolch.

Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:wneuthoch chi fwynhau?


Do, diolch.

Hwn oedd y pedwerydd tro i fi fynd, ac ar y cyfan, mi wnes i fwynhau'n arw. Mae tuedd mewn cylchoedd mwy efengylaidd i baentio <a href="http://www.greenbelt.org.uk/">Greenbelt</a> fel gŵyl 'ryddfrydig' niwlog. Nid Soul Survivor yw hi, mae'n wir, ond ei hatyniad i fi yw pa mor gatholig yw hi yng ngwir ystyr y gair - mae'n rhoi llwyfan i bawb, o'r rhai hapus-glapus-ŵpi-dyma-ni-bant-i'r-nefoedd i'r rhai sydd ddim cweit yn siŵr a yw Duw yn digwydd bodoli heddiw. Fe allech chi dreulio'r penwythnos cyfan yn gwrando ar bobl 'dych chi'n cytuno â nhw. Fe allech chi dreulio'r penwythnos cyfan yn gwrando ar bobl sy'n gwneud i chi wylltio hefyd. Dyna rwy'n hoffi ynghylch yr ŵyl.

Uchafbwyntiau? Panel hynod dda ar agweddau o fasnach deg, ddaeth â'r bobl iawn ynghyd (yn cynnwys cynrychiolydd o Kenco, boi oedd yn trio cynhyrchu diemwnt masnach deg(!) a boicotiwr nad oedd yn fodlon camu mewn i Tesco). Roedd hyn yn drafodaeth gwerth chweil. Hefyd, ar lefel fwy ysbrydol, clywed John Bell yn amlinellu diwinyddiaeth y nefoedd, ac yn gofyn pam fod eglwysi yn treulio gymaint o amser yn siarad am uffern a chyn lleied yn son am 'y lle arall'. Gwir nad oedd unrhyw beth newydd yn ei sgwrs, ond mi oedd y ffordd lwyddodd e i blethu sawl edefyn cyfarwydd ynghyd, a'u rhaffu'n beth newydd, ffres, yn wir feistrolgar.

Roedd y gerddoriaeth yn dda, er ddim cystal â rhai blynyddoedd. Mi wnes i fwynhau gwrando ar yr <a href="http://www.ukuleleorchestra.com/">Ukuleles</A> eto, er bod eu set yn fwy 'strêt' mewn ffordd na'r tro dwetha i fi eu gweld flwyddyn yn ôl. Mae King Creosote wedi llwytho i werthu o leiaf un copi ychwanegol o'i sengl newydd, ar ôl ei set wych. A do, mi wnes i fwynhau Lleuwen Steffan, er dwi'n meddwl i fi ddisgwyl dim ond set o ganeuon Duw a Ŵyr ganddi, a chael fy nrysu braidd wrth glywed caneuon Acoustique hefyd, a rhai pethau newydd.

Fe ges i gyfle i weld y Manchester Passion am y tro cyntaf hefyd (ysgwyddodd fi braidd, rhaid dweud), ac am y tro cyntaf erioed yn Greenbelt mi lwyddais i fynychu cymun bore Sul heb orfod sgrechian a gadael yr arena - mi oedd yn wasanaeth penigamp. Ac mi oedd cwrdd â'r hybarch Mr Iwanynyglaw yn fraint i'r ddau ohonom, rwy'n siŵr.

Isafbwyntiau: colli Andrew Motion am fy mod wedi ciwio am gawod am <i>ddwy awr</i>, a gwneud y camsyniad o fynd i sgwrs ar feddalwedd grŵp i eglwysi. Mi oedd y sgwrs yn swnio'n addawol, ond mi oedd yn llawer rhy uchelgeisiol i'r mwyafrif (ydy'ch capel chi yn defnyddio VMWare tybed? Ac yn rhedeg ei safle gwe oddi ar linell ADSL? Na, dyw fy un i ddim chwaith).

Uchafbwynt ac isafbwynt? Mynd ar gastell neidio, a thorri fy sbectol. Digon yw dweud dim ond hynny.

Tan flwyddyn nesa 'te.

(Felly ni oedd yr unig ddau aeth? Rwy'n siŵr i fi weld nifer o grysau-T Prifysgol Bangor, a chlywed nifer yn bloeddio pan ofynnodd y boi wnaeth gyflwyno Lleuwen Steffan i'r dorf, a oedd unrhyw un yno'n siarad Cymraeg...)

PostioPostiwyd: Llun 04 Medi 2006 3:00 pm
gan Rhys Llwyd
Mi ydwi ffansi mynd ac am drio mynd blwyddyn nesa.

Ti'n iawn mae o di cael ei globio gan bobl Efengylaidd, ond wedi'r cyfan nid gwyl 'efengylaidd' yw hi fod nage? Ti ddim yn clywed Efengylwyr yn clobio V festifal oherwydd nad ydy hi'n efengylaidd!

PostioPostiwyd: Mer 06 Medi 2006 7:01 am
gan Rhysjj
Rhys Llwyd a ddywedodd:Mi ydwi ffansi mynd ac am drio mynd blwyddyn nesa.


Dwi'n siŵr y gwnei di fwynhau. Mae <a href="https://shop.greenbelt.org.uk/greenbelt/weekendtickets.jsp">dros 20% o ostyngiad</a> am brynu tocyn cyn diwedd Hydref gyda llaw. (Os yw'r prisiau'n ymddangos yn ddrud, cofia taw gŵyl 3 diwrnod a hanner yw hi, a bod gwersylla'n gynwysedig.)

Rhys Llwyd a ddywedodd:Ti'n iawn mae o di cael ei globio gan bobl Efengylaidd, ond wedi'r cyfan nid gwyl 'efengylaidd' yw hi fod nage? Ti ddim yn clywed Efengylwyr yn clobio V festifal oherwydd nad ydy hi'n efengylaidd!


Dwi ddim cweit yn siŵr fod honna'n gymhariaeth deg. Er enghraifft, mae Archesgob Caergaint yn ffan fawr o Greenbelt, ac wedi siarad yno sawl gwaith, ond dwi ddim yn disgwyl gweld The Rowan D. Williams Experience ar line-up y V Festival flwyddyn nesaf...

Y ffaith yw bod Greenbelt wedi cychwyn fel gŵyl Gristnogol, a'i fod yn amlwg i bawb ei bod hi'n ŵyl Gristnogol o hyd (er gwaetha'r ffaith nad yw'r gair 'Cristnogol' yn cael ei ddefnyddio ar eu prif gyhoeddusrwydd rhyw lawer erbyn hyn). Ac mae Greenbelt yn dueddol o roi pethau dadleuol o fewn y rhaglen bob blwyddyn mwy neu lai: perfformwyr <a href="http://www.thesun.co.uk/article/0,,2-2005580265,00.html">The Magic of Jesus</a> oedd hi eleni (es i ddim, gyda llaw). Â dweud y lleia, mae pethau o'r fath yn tueddu i godi gwrychyn rhai o'r adain efengylaidd.

Ond dyna ni nôl at y pwynt fod Greenbelt yn ŵyl gatholig, nid yn yr ystyr Babyddol (er bod 'na sgyrsiau ar y Forwyn Fair yno eleni), ond yn yr ystyr o groesawu pawb. A mae profiad pawb o Greenbelt yn wahanol. Mae digon o amrywiaeth o sgyrsiau, cerddoriaeth, panelau, gwasanaethau a.y.b. yno fel nad oes neb, ddwedwn i, yn mynychu'n union yr un pethau â phobl eraill drwy gydol yr wythnos.

Mae pobl yn fy ngalw i'n efengyl (efengyl gwael), ac rwy wastad wedi joio Greenbelt. Ac rwy wedi clywed nifer yn dweud taw Greenbelt yw'r unig dro yn y flwyddyn mae rhai o'u ffrindiau nhw yn fodlon gwneud unrhyw beth Cristnogol, a chwrdd â Christnogion. Yn ei ffordd fach ei hun, mae hynny yn efengylaidd, on'd dyw e?

PostioPostiwyd: Gwe 27 Hyd 2006 8:53 am
gan Rhysjj
Wel da iawn fi am ladd y drafodaeth fan hyn am 7 wythnos.

Beth bynnag, dim ond rhoi hwb i'r edefyn hwn i atgoffa pawb taw Dydd Mawrth nesaf yw'r diwrnod olaf i gael tocynnau Greenbelt rhad (am gost o £47 i fyfyrwyr neu £70 i'r gweddill ohonom, ond mae 'na ostyngiadau eraill hefyd).

Siop arlein fan hyn: https://shop.greenbelt.org.uk/greenbelt ... ickets.jsp

PostioPostiwyd: Sul 29 Hyd 2006 12:28 pm
gan Hedd Gwynfor
Bues i yn Greenbelt rhyw 4 gwaith pan yn ifancach (tua 10 - 15 mlynedd yn ôl) Roedd Cadwyn yn arfer mynd â stondin yno i werthu crefftau o'r Byd Datblygol. Cofio gweld Samantha Fox yn perfformio un blwyddyn, a oedd yn uchafbwynt mawr i fachgen 14(ish) oed :winc:

PostioPostiwyd: Sul 29 Hyd 2006 12:31 pm
gan huwwaters
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Bues i yn Greenbelt rhyw 4 gwaith pan yn ifancach (tua 10 - 15 mlynedd yn ôl) Roedd Cadwyn yn arfer mynd â stondin yno i werthu crefftau o'r Byd Datblygol. Cofio gweld Samantha Fox yn perfformio un blwyddyn, a oedd yn uchafbwynt mawr i fachgen 14(ish) oed :winc:


Dwi'm yn gwbad pwy di Samantha Fox, ond dwi newydd rhoi google image search arni, ac o'r llunie dwi di gweld, dwi'n cychwyn amau os na wyl Gristnogol yw'r peth Greenbelt ma bellach. :winc:

PostioPostiwyd: Maw 07 Tach 2006 9:59 pm
gan Rhysjj
huwwaters a ddywedodd:Dwi'm yn gwbad pwy di Samantha Fox, ond dwi newydd rhoi google image search arni, ac o'r llunie dwi di gweld, dwi'n cychwyn amau os na wyl Gristnogol yw'r peth Greenbelt ma bellach. :winc:


1994 oedd hyn, meddai Wikipedia wrtha i. Roedd hi'n gonfyrt eitha enwog ar un adeg, on'd doedd hi? Hithau a Cannon a Ball...

PostioPostiwyd: Iau 18 Ion 2007 9:24 pm
gan Dili Minllyn
Bues i yn 1989 ac 1990, ac yn mwynhau’n arw. Yn rhywle ar bwys Northampton roedd hi ar y pryd, ond mae bellach yn sir Gaerloyw, os cofiaf yn iawn, sy’n gyfleus iawn i ni Bobl y De.

Dwi’n gwybod ei bod yn cael ei beirniadu gan rai Efengylwyr, ond o’n i’n ei gweld yn ŵyl ddigon Cristnogol ei naws – digon Cristnogol yn wir i rai o’m ffrindiau wrthod gan ofyn y byddai pobl yn eu plagio am grefydd trwy’r amser.

PostioPostiwyd: Iau 21 Meh 2007 8:15 pm
gan Dafydd Iwanynyglaw
Oes na bobol yn bwriadu mynd flwyddyn yma?

Os oes, fasa chi'n lecio cael cwrdd maes-e yn rhywle fel y Tent Te?