Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:a fuoch chi yn grinbelt dros wyl y banc?
Do, diolch.
Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:wneuthoch chi fwynhau?
Do, diolch.
Hwn oedd y pedwerydd tro i fi fynd, ac ar y cyfan, mi wnes i fwynhau'n arw. Mae tuedd mewn cylchoedd mwy efengylaidd i baentio <a href="http://www.greenbelt.org.uk/">Greenbelt</a> fel gŵyl 'ryddfrydig' niwlog. Nid Soul Survivor yw hi, mae'n wir, ond ei hatyniad i fi yw pa mor gatholig yw hi yng ngwir ystyr y gair - mae'n rhoi llwyfan i bawb, o'r rhai hapus-glapus-ŵpi-dyma-ni-bant-i'r-nefoedd i'r rhai sydd ddim cweit yn siŵr a yw Duw yn digwydd bodoli heddiw. Fe allech chi dreulio'r penwythnos cyfan yn gwrando ar bobl 'dych chi'n cytuno â nhw. Fe allech chi dreulio'r penwythnos cyfan yn gwrando ar bobl sy'n gwneud i chi wylltio hefyd. Dyna rwy'n hoffi ynghylch yr ŵyl.
Uchafbwyntiau? Panel hynod dda ar agweddau o fasnach deg, ddaeth â'r bobl iawn ynghyd (yn cynnwys cynrychiolydd o Kenco, boi oedd yn trio cynhyrchu diemwnt masnach deg(!) a boicotiwr nad oedd yn fodlon camu mewn i Tesco). Roedd hyn yn drafodaeth gwerth chweil. Hefyd, ar lefel fwy ysbrydol, clywed John Bell yn amlinellu diwinyddiaeth y nefoedd, ac yn gofyn pam fod eglwysi yn treulio gymaint o amser yn siarad am uffern a chyn lleied yn son am 'y lle arall'. Gwir nad oedd unrhyw beth newydd yn ei sgwrs, ond mi oedd y ffordd lwyddodd e i blethu sawl edefyn cyfarwydd ynghyd, a'u rhaffu'n beth newydd, ffres, yn wir feistrolgar.
Roedd y gerddoriaeth yn dda, er ddim cystal â rhai blynyddoedd. Mi wnes i fwynhau gwrando ar yr <a href="http://www.ukuleleorchestra.com/">Ukuleles</A> eto, er bod eu set yn fwy 'strêt' mewn ffordd na'r tro dwetha i fi eu gweld flwyddyn yn ôl. Mae King Creosote wedi llwytho i werthu o leiaf un copi ychwanegol o'i sengl newydd, ar ôl ei set wych. A do, mi wnes i fwynhau Lleuwen Steffan, er dwi'n meddwl i fi ddisgwyl dim ond set o ganeuon Duw a Ŵyr ganddi, a chael fy nrysu braidd wrth glywed caneuon Acoustique hefyd, a rhai pethau newydd.
Fe ges i gyfle i weld y Manchester Passion am y tro cyntaf hefyd (ysgwyddodd fi braidd, rhaid dweud), ac am y tro cyntaf erioed yn Greenbelt mi lwyddais i fynychu cymun bore Sul heb orfod sgrechian a gadael yr arena - mi oedd yn wasanaeth penigamp. Ac mi oedd cwrdd â'r hybarch Mr Iwanynyglaw yn fraint i'r ddau ohonom, rwy'n siŵr.
Isafbwyntiau: colli Andrew Motion am fy mod wedi ciwio am gawod am <i>ddwy awr</i>, a gwneud y camsyniad o fynd i sgwrs ar feddalwedd grŵp i eglwysi. Mi oedd y sgwrs yn swnio'n addawol, ond mi oedd yn llawer rhy uchelgeisiol i'r mwyafrif (ydy'ch capel chi yn defnyddio VMWare tybed? Ac yn rhedeg ei safle gwe oddi ar linell ADSL? Na, dyw fy un i ddim chwaith).
Uchafbwynt ac isafbwynt? Mynd ar gastell neidio, a thorri fy sbectol. Digon yw dweud dim ond hynny.
Tan flwyddyn nesa 'te.
(Felly ni oedd yr unig ddau aeth? Rwy'n siŵr i fi weld nifer o grysau-T Prifysgol Bangor, a chlywed nifer yn bloeddio pan ofynnodd y boi wnaeth gyflwyno Lleuwen Steffan i'r dorf, a oedd unrhyw un yno'n siarad Cymraeg...)