Cristnogaeth a'r Amgylchedd

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cristnogaeth a'r Amgylchedd

Postiogan Macsen » Sad 11 Tach 2006 11:06 pm

Newid hinsawdd yw un o'r peryglon mwya' sy'n wynebu'r ddynoliaeth, os y'ch chi'n credu'r gwyddonwyr (be mae nhw'n ei wybod, e?). Pam felly fod gan Cristnogaeth cyn lleied i'w ddweud ar y pwnc? Onid yw'r agwedd mai rywbeth dros dro i'w ddefnyddio a'i hepgor yw'r byd hwn ar ein ffordd i realiti gwell wedi gwaethygu ein hagwedd ni tuag at atal dirywiad yr amgylchedd?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cristnogaeth a'r Amgylchedd

Postiogan Tegwared ap Seion » Sad 11 Tach 2006 11:16 pm

Macsen a ddywedodd:...agwedd mai rywbeth dros dro i'w ddefnyddio a'i hepgor yw'r byd hwn ar ein ffordd i realiti gwell


Agwedd pwy yw hyn?
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 12 Tach 2006 2:41 am

O ran fy ngolwg i ar ddyletswydd y Cristion rwy'n gweld dyletswydd ar bobl cred i barchu a gwarchod y byd y mae Duw wedi ei greu ar ein cyfer.

Dydy fy marn i ddim yn un sy'n cael ei goleddu gan bob Cristion yn y byd, serch hynny. Mae yna rhai, yn arbennig yn yr UDA, sydd yn gweld proffwydoliaethau gwyddonol am dranc y byd oherwydd newid hinsawdd fel adlewyrchiadau o broffwydoliaethau Beiblaidd o'r dyddiau diwethaf. Mae'r bobl yma yn gweld unrhyw ymgais i achub y byd fel ymgais i rwystro barn Duw ar y byd (fel bod modd inni rwystro barn Duw - wir yr!). Y mae'r sawl sy'n credu felly yn cael dylanwad mawr ar wleidyddion yr UDA ac yn un o'r rhesymau nad oes fawr o awydd i wneud dim i warchod yr hinsawdd yn yr UDA.

Yn sicr mae gan Gristionogion digon i ddweud ar y pwnc o'r naill ochr a'r llall :?

Un o'r pethau sydd, er hynny, yn peri anhawster i mi yw sut mae'r ffordd gorau i Gristion dweud ei ddweud. Ai trwy gael ymgyrchoedd eglwysig ar wahân ar bynciau dyngarol ac ati, neu drwy arddel ein Cristionogaeth o fewn mudiadau cyffredinol?

Mae yna enghreifftiau o'r eglwys yn tynnu ei lygaid oddi wrth ei brif ddyletswydd, sef pregethu'r Efengyl, trwy ei gefnogaeth i bethau megis yr ymgyrch yn erbyn caethwasanaeth, achos dirwest, cymorth i'r tlodion ac ati. I'r graddau yn y 1880-1920au bod dirwest yn hytrach na charu'r Arglwydd Iesu Grist yn cael ei gyfri fel maen prawf o Gristionogaeth Cymro.

Er fy mod yn credu, oherwydd fy Nghristionogaeth, bod angen gwarchod yr amgylchedd a'r hinsawdd, credaf mai'r ffordd gorau imi arddel y gred honno yw trwy gefnogi mudiadau ac ymgyrchoedd amgylcheddol cyffredinol, yn enw Crist, tra'n cadw fy ngweithgaredd eglwysig at ledaenu'r Efengyl.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Cristnogaeth a'r Amgylchedd

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 13 Tach 2006 9:06 am

Macsen a ddywedodd:Onid yw'r agwedd mai rywbeth dros dro i'w ddefnyddio a'i hepgor yw'r byd hwn ar ein ffordd i realiti gwell wedi gwaethygu ein hagwedd ni tuag at atal dirywiad yr amgylchedd?


Mae hyn yn herasi gyson sy'n codi ei ben yn yr Eglwys. Yn bersonol dwi'n credu fod gymaint, os nad mwy, o ddyletswydd gan y Cristion i fod yn 'amgylcheddol' a neb arall. Gellid mynd yn ol i lyfr i Genesis i weld yn glir beth yw'r cyfarwyddyd:

Genesis 1:28 a ddywedodd:Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ae bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cristnogaeth a'r Amgylchedd

Postiogan Mr Gasyth » Maw 14 Tach 2006 9:59 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Genesis 1:28 a ddywedodd:Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ae bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear.


Ma hwnne'n swnio fel gwhoddiad i neud be ffwc liciwn i fi. Allai'm canfod yr edefyn, ond dwi wedi dadlau yn rywle o'r blaen fod y ffaith fod Cristnogion (a chrefyddau eraill) yn credu fod yna fyd arall a ol hwn yn tanbrisio'r byd hwn yn eu golwg hwy. Pam fyddai gyrrwr Lada yn edrych ar ol ei gar petai'n credu y cai Ferrari yn ei le pe byddai'n ei falu?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Cristnogaeth a'r Amgylchedd

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 15 Tach 2006 1:53 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:
Genesis 1:28 a ddywedodd:Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ae bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear.


Ma hwnne'n swnio fel gwhoddiad i neud be ffwc liciwn i fi. Allai'm canfod yr edefyn, ond dwi wedi dadlau yn rywle o'r blaen fod y ffaith fod Cristnogion (a chrefyddau eraill) yn credu fod yna fyd arall a ol hwn yn tanbrisio'r byd hwn yn eu golwg hwy. Pam fyddai gyrrwr Lada yn edrych ar ol ei gar petai'n credu y cai Ferrari yn ei le pe byddai'n ei falu?


Pan ma Duw yn gorchymun i ni lywodraethu dros rhywbeth dwi'n meddwl allw ni fel Cristnogion gymryd yn ganiataol fod o'n golygu llywodraethu yn dda! Darostyngwch = fod yn ddarostyngedig = gwneud eich gorau drosti.

Ti'n iawn am dy theori fod Cristnogion yn ddiog yn y byd hwn oherwydd fod yna fyd gwell ar y ffordd. Ond fel nodesi uchod herasi drist sy'n codi ei ben yn aml yw hyn ac fod dysgeidiaeth y Beibl yn dangos yn glir fod y Cristion a'i ymarweddiad yn dechrau pan ddoith i gredu ar y byd hwn nid pan gyrhaeddith y nefoedd. Fel dwi di nodi yn yr erthygl yma, mae troedigaeth y Cristion yn digwydd oddi fewn hanes nid tu allan iddi FELLY mae dyletswydd gan y Cristion fyw, ie a'r nefoedd ar y gorwel, ond hefyd ceisio cyfiawnder yn y byd hwn.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Dili Minllyn » Iau 18 Ion 2007 9:20 pm

Mae rhai o Efengylwyr America yn wyrdd iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Cristnogaeth a'r Amgylchedd

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 19 Ion 2007 7:14 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Pam fyddai gyrrwr Lada yn edrych ar ol ei gar petai'n credu y cai Ferrari yn ei le pe byddai'n ei falu?


Un o'r rhesymau paham fy mod yn casáu'r Blaid Lafur yw mai eu gweithred gyntaf o gael eu hethol oedd gwahardd mewnforio Ladas i Ynysoedd Prydain.

Wrth basio’r prawf gyrru prynais Lada newydd sbon am £300 ac mi gefais ei gyfnewid pob blwyddyn am £50 nes i'r Blaid Lafur penderfynu bod ceir newydd sbon i bobl gyffredin yn wrthun a gwahardd y Lada rhag ei fewnforio i Brydain.

Er gwaetha pob jôc amdanynt roedd y Lada yn gar a gynhyrchwyd ar gyfer anghenion moduro Cymru. Sawl gwaith bu cyd weithwyr imi yn gaeth dan eira ac yn methu mynd i'r gwaith, gan gynnwys perchenogion ceir 4x4, ond roedd y Lada bach yn drafeilio yn esmwyth trwy bob tywydd.

Trydydd ger, troed ar lawr, roedd modd mynd 60 milltir yr awr dros y Creimia, bwlch Dinas Mawddwy a Bannau Brycheiniog heb straen ar yr injan, gan adel i geir drytach tagu ar 20 milltir yr awr. Roedd mynd i Gaerdydd ar hyd yr A470 yn weddol rwydd mewn Lada!

Cyn dyddiau'r camerâu, mae'n wir, mi deithiais o Lanrwst i Gaeredin o fewn tair awr a hanner mewn Lada, amhosibl mewn car cyfoes yw gwneud yr un siwrnai mewn llai na chwe awr!

Twll din dy Ferrari - dewch a'r Lada yn ôl!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Foel Gornach » Sad 19 Mai 2007 9:19 am

Nid barn rhai carfannau o Gristnogion am y gwahanol bynciau ddylai osod sylfaen i'n deall ni o'r Ffydd; ond yr hyn a ddywed Iesu, a'r modd y mae ei fywyd ef yn cael ei gyflwyno gan Paul ag eraill.

Dywed Ioan yn ei efengyl fod Iesu wedi dod i'r byd am fod Duw yn caru'r byd (cosmos=cread). Pwysleisia Paul fod y greadigaeth yn ochneidio ac mewn gwewyr drwyddi wrth ddisgwyl cael ei thrawsnewid gan blant Duw.

Pwy yw 'plant Duw'? Dywed Iesu taw'r tangnefeddwyr, hyrwyddwyr tangnefedd (shalom - sef cyflwr pethau fel y bwriadodd Duw iddynt fod) yw plant Duw. Mae'r portread hyfryd o Eden yn Genesis yn rhoi rhyw ddarlun i ni o fel y bwriadodd Duw i'r Cread fod - Paradwys.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron