O ran fy ngolwg i ar ddyletswydd y Cristion rwy'n gweld dyletswydd ar bobl cred i barchu a gwarchod y byd y mae Duw wedi ei greu ar ein cyfer.
Dydy fy marn i ddim yn un sy'n cael ei goleddu gan bob Cristion yn y byd, serch hynny. Mae yna rhai, yn arbennig yn yr UDA, sydd yn gweld proffwydoliaethau gwyddonol am dranc y byd oherwydd newid hinsawdd fel adlewyrchiadau o broffwydoliaethau Beiblaidd o'r dyddiau diwethaf. Mae'r bobl yma yn gweld unrhyw ymgais i achub y byd fel ymgais i rwystro barn Duw ar y byd (fel bod modd inni rwystro barn Duw - wir yr!). Y mae'r sawl sy'n credu felly yn cael dylanwad mawr ar wleidyddion yr UDA ac yn un o'r rhesymau nad oes fawr o awydd i wneud dim i warchod yr hinsawdd yn yr UDA.
Yn sicr mae gan Gristionogion digon i ddweud ar y pwnc o'r naill ochr a'r llall
Un o'r pethau sydd, er hynny, yn peri anhawster i mi yw sut mae'r ffordd gorau i Gristion dweud ei ddweud. Ai trwy gael ymgyrchoedd eglwysig ar wahân ar bynciau dyngarol ac ati, neu drwy arddel ein Cristionogaeth o fewn mudiadau cyffredinol?
Mae yna enghreifftiau o'r eglwys yn tynnu ei lygaid oddi wrth ei brif ddyletswydd, sef pregethu'r Efengyl, trwy ei gefnogaeth i bethau megis yr ymgyrch yn erbyn caethwasanaeth, achos dirwest, cymorth i'r tlodion ac ati. I'r graddau yn y 1880-1920au bod
dirwest yn hytrach na
charu'r Arglwydd Iesu Grist yn cael ei gyfri fel maen prawf o Gristionogaeth Cymro.
Er fy mod yn credu, oherwydd fy Nghristionogaeth, bod angen gwarchod yr amgylchedd a'r hinsawdd, credaf mai'r ffordd gorau imi arddel y gred honno yw trwy gefnogi mudiadau ac ymgyrchoedd amgylcheddol cyffredinol, yn enw Crist, tra'n cadw fy ngweithgaredd eglwysig at ledaenu'r Efengyl.