Cydraddoldeb a'r Nefoedd

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 07 Rhag 2006 10:00 am

Macsen a ddywedodd:Dwi'm yn gweld sut all Gristion gredu mai pechod yw globaleiddio.


Nid pechod yw Globaleiddio per se ond mae diwinwyr wedi dadlau ers tro mae'r prosesau sydd wrth dro gyda Globaleiddio yw'r union brosesau oedd ar waith yn Nhwr Babel, Genesis 11.

Dyma rai nodiadau yn esbonio'r safbwynt (sori dim amynedd tynnu'r rhifau troednodol allan felly anwybyddwch nhw)

sylwadau ar 'Uniformity: The Curse of Modern Life' gan Abraham Kuyper a ddywedodd:Cymerodd Kuyper hi'n ganiataol fod pawb yn derbyn mai undod ('unity') yw '...the ultimate goal of all the ways of God.'1 Ond yn ein cymdeithas heddiw, meddai, mae syniadau a phethau newydd/gwahanol yn mynd a dod ac yng nghanol y niwl yma mae'n anodd gweld undod. Er fod y byd, trwy ein llygaid ni, yn ddi-drefn ac heb undod rhaid derbyn mai trefn Duw tuag at yr undod terfynol sydd ar waith.2 Dywed Kuyper;

...the deep meaning of the whole of devine revelation is that the ways of God lead from all this diversity toward unity, out of chaos toward order.

Wedi i Kuyper ddechrau ei araith yn tanlinellu mai dymuniad terfynol Duw ar gyfer y Ddaear yw undod, rhaid gofyn pam ei fod felly'n ei alw'n 'curse' os ydyw o Dduw? Conglfaen dadl Kuyper yw'r honiad nad yw'r unffurfiaeth Ddaearol o Dduw wedi'r cwbl. Dywed fod y byd pechadurus '...in it's sinful endeavour...'4 wedi mabwysiadu yr un uchelgais â Duw – ond fod yr ysbardun yn wahanol wrth gwrs. Dywed fod canlyniad 'degenerative' pechod ar ddyn yn cael effaith ehangach nag ar yr unigolyn yn unig – mae'n cael effaith ar '...the life of humanity as a whole...'5 a bod y ddynoliaeth, trwy bechod, wedi cymryd '...an abnormal direction.'6

Wrth gyfeirio at unffurfiaeth dywed fod pobloedd dros y byd yn cyfrannu tuag at adeiladu'r 'deml an-sanctaidd' yma. Ar lefel fydol cydnabu Kuyper fod y gyriant rhyngwladol yma tuag at unffurfiaeth i'w weld â threfn iddo. Noda fod pobloedd sy'n ddiarth i'w gilydd yn cyfrannu'n adeiladol i'r prosiect ond eto does neb, hyd y gwyddom trwy ein llygaid bydol ni, yn cydlynu'r prosiect – tuedd naturiol yw'r unffurfiaeth fe'n harweinir i dybio. Ond dadleua Kuyper nad ffawd naturiol sy'n gyrru'r prosiect ond fod yna gydlynu a threfniant pendant yn digwydd. Nid awgrymu rhyw conspiracy gwleidyddol rhwng gwladweinwyr a wna Kuyper ond yn hytrach tybia mai Satan sydd wrthi yn cyd-lynu unffurfiaeth. Oherwydd fod y ddynoliaeth yn gaeth i b?er pechod mae'r ddynoliaeth y ddall i'r ffaith mai gwaith y Diafol ydyw. 7

Dywed Kuyper nad cyd-ddigwyddiad yw hi fod prosiect Satan i'w weld ar yr wyneb yn debyg i brosiect Duw fel yr amlinellir yn y Datguddiad;

Sin always acts so: It puts the stamp of God's image on it's counterfeit currency and misuses it's god-given powers to imitate God's activity. Itself powerless, without creative ideas of it's own, sin lives solely by plagiarizing the ideas of God.

Aiff Kuyper yn ôl i'r dechreuad i brofi ei ddadl, i Genesis 11 a Th?r Babel. Dehongliad Kuyper o D?r Babel yw Duw yn atal dynion pechadurus rhag dod at ei gilydd fel un pobl ac un iaith – drwy gymysgu'r ieithoedd chwalodd Duw undod ffug bechadurus. Dadleua mae'r oll yw hanes cynnar y Dwyrain yw rhyfela gwaedlyd mewn ymgais i ail adeiladu'r unffurfiaeth a chwalwyd gan Dduw ym Mabel. Dywed hefyd ei bod hi'n amlwg mai tyfu rhyw ymerodraeth fyd eang oedd amcan Nebuchadnezzar a Cyrus. Ymhellach, wrth i'r canolbwynt symud o'r Dwyrain i Ewrop yr un oedd dymuniad a dyheu y pwerau mawr - Ymerodraethau Cesar Rhufain am weld unffurfiaeth trwy eu tir.9 Ar ryw ystyr felly dywed Kuyper 'The similarity between God's plan and that of the World is therefore undeniable' ond aiff Kuyper ymlaen i esbonio, 'But as with counterfit currency, the similarity is only in name.'10

Wedi ei grynhoi dyma'r gwahaniaethau rhwng undod Duw ac undod bechadurus fydol yng ngeiriau Kuyper:

Undod Duw: “Unity develops by internal strength precisely from the diversity of Nations and Races.

Undod Satan: “...by reckless leveling and elimination of all diversity, [sin] seeks a false, deceptive unity, the uniformity of death.”

Cyfeiria Kuyper at y Chwyldro Ffrengig fel digwyddiad a roes bywyd newydd yn ogystal â gwedd beryclach i unffurfiaeth bechadurus. Honna fod unffurfiaeth wleidyddol/sefydliadol â ddaeth i fodolaeth drwy'r cleddyf, wedi troi at gyfrwng mwy cudd a chiaidd o ganlyniad i'r Chwyldro sef unffurfiaeth gymdeithasol. Cred fod prosiectau o unffurfiaeth trwy'r cleddyf yn methu oherwydd nad oedd unffurfiaeth trwy'r cleddyf yn medru delio gydag amrywiaethau cymdeithasol – dim ond ei ddal i lawr, ei orthrymu, am gyfnod byr. Yn ôl Kuyper fe ddeliodd y Chwyldro Ffrengig â'r broblem hon: 'If imperial unity kept foundering on the national diversity of ethnic groups, eliminating that diversity was the goal inherent in the French Revolution.'12

Tybiaeth Kuyper oedd fod unffurfiaeth fodern yn effeithio ar ystod eang o bethau. Effeithia ar bensaerniaeth fodern - ni chred fod gan ddinasoedd ac adeiladau modern Ewrop unrhyw fath o gymeriad yn perthyn iddynt. Cred fod dyn a dynes yn dod yn fwy tebyg – yn y byd modern noda fod merched yn ceisio dod yn fwy gwrywaidd a dynion vica versa.13 Ond ar iaith yr effeithia yn fwy na dim. 'The pulse of a Nation beats in its language'14 meddai Kuyper. Roedd gan Kuyper sylwadau diddorol a pherthnasol i Gymru parthed mewnfudiaid a'i effaith dinistriol ar draddodiad a iaith frodorol. Dywedodd:

But what we may demand from foreigners is that they conform their conduct to our laws... From the South, the East, and the West they flood our borders and attempt to force their way into our home uninvited. Once inside the door, they forget all forms of courtesy and boldly boss us around so as to throw the household of our language into disarray with their foreign whims.15

Credai Kuyper fod undod Dyn ond i'w weld ar y dechrau (origin) ac ar y diwedd (destiny) ond fod y Dyn pechadurus wedi ceisio ei ffurfio ar ganol y daith. Dadleua Kuyper: 'All humanity stems from one ancestor, but from its very beginning it was destined to be sent forth in a variety of directions along different roads.'16 Yr unig wir undod all y ddynoliaeth obeithio amdano ydy'r un a geir drwy'r Meseia addawedig. Ef yn ôl Kuyper yw'r 'Head of Humanity'.17 Pan ddaw yr undod yma yng Nghrist i'w chyflawnder ar y diwedd ni fydd wedi ei seilio ar '...the sameness of a mosel18...' ond yn hytrach ar '...the oneness of a body in which every member retains its own place.'19 Cred y bydd yr undod yng Nghrist yn debycach i ganghennau'n uno gyda'i gilydd wrth y brif winwydden yn hytrach na diferyn yn syrthio mewn i afon ac yn diflannu a cholli ei gymeriad. Dywed, 'In the unity of the Kingdom of God diversity is not lost but all the more sharply defined.'20 Cyfeiria Kuyper at ddigwyddiad ar ddiwrnod y Pentecost i brofi ei bwynt fan yma. Nid oedd yr Ysbryd Glan yn siarad gyda phawb mewn un iaith un-ffurf. Ond yn hytrach roedd pawb yn clywed yr Ysbryd Glan yn eu hiaith nhw eu hunain – 'Though the wall of separation has been demolished by Christ, the lines of distinction have not been abolished.'21

Ymateb y Wladwriaeth ar Eglwys i'r her?

Honna Kuyper mai'r eglwys yn fwy nag unrhyw sefydliad arall sy'n gyfrifol am ddominyddiaeth (anghywir) unffurfiaeth heddiw. Cyfyd deilema'r 'undod mewn amrywiaeth' yn yr Eglwys ymhell cyn i'r ddeilema wynebu rhannau eraill o'r gymdeithas. Honna fod y ddeilema yn codi am fod hunaniaeth yr unigolyn ac amrywiaeth yn sefyll allan yn gliriach ymhlith yr ail-anedig. Er gwaethaf hyn pwysleisia fod gan yr Eglwys, yng Nghrist, ffocws undod na all y byd ond ddyheu amdano. O ddechreuadau'r Eglwys felly mae hi wedi gorfod delio â'r realiti fod yna amrywiaeth eang oddi mewn i undod ei chorff.22

Cred Kuyper mai yn y 'cyfnod Rhufeinig' yr aeth pethau'n wael – gwrthododd yr Eglwys gydnabod amrywiaeth a lle'r oedd amrywiaeth yn amlygu ei hun sodrwyd arno'n gyfundrefnol. Roedd unrhyw beth gwahanol yn cael ei ystyried yn anghywir a hereticaidd. Gweinyddwyd y clampio i lawr ar amrywiaeth drwy ddefnyddio un system athrawiaethol, un system o lywodraethu, un Litwrgi ac fe gynhaliwyd holl wasanaethau a phregethu'r Eglwys dros y byd mewn un iaith. Mewn cyd-destun felly gellid deall sut y daeth Eglwys Rufain ac arweinwyr Ymerodraethol yn gymaint o gyfeillion dros y canrifoedd!23

Ond daeth tro ar fyd ac fe dorrwyd ar yr undod gorthrymol gan y Diwygiad Protestannaidd. Noda Kuyper fod '...[the] National Germanic Character' y diwygiad yn gyfrwng i wireddu hyn. Hefyd roedd y 'personal power of a reborn heart' yn gyfrwng i wrthryfela yn erbyn hualau unffurfiaeth. Felly yr elfennau 'cenedlaethol' a 'phersonol' yng ngwneuthuriad y diwygiad a wnaeth effeithio ar undod ac unffurfiaeth yr eglwys.24 Serch hynny mae Kuyper yn gwahaniaethu rhwng effaith y diwygiad ar 'undod' Eglwysig a'i effaith ar 'unffurfiaeth' Eglwysig. Torrwyd yr 'undod' Eglwysig ond dim ond effeithio rhywfaint ar 'unffurfiaeth' Eglwysig a wnaeth y diwygiad oblegid wedi i'r Eglwys Brotestannaidd dorri'r undod â Rhufain, dim ond sefydlu ei unffurfiaeth ei hun a wnaeth – nid yn annhebyg i Rufain yn hyn o beth.25 Yn ôl dadansoddiad Kuyper fe lwyddodd chwyldro'r diwygiad ar y lefel Genedlaethol. Yn lle un eglwys unffurf ryngwladol yn cael ei reoli o Rufain rhoes Brotestaniaeth enedigaeth i Eglwysi cenedlaethol mewn llawer o wledydd unigol. Serch hynny credai Kuyper mai methiant oedd ymgais y Diwygiad i daclo unffurfiaeth ar lefel unigolyddol/bersonol. Ni roes yr Eglwys ddiwygiedig le i '...the right of personality and with it liberty of life' – roedd yr Eglwys Ddiwygiedig, fel Eglwys Rufain, yn euog o orfodi unffurfiaeth ar unigolion drwy drefn ganolog eglwysig.26

Gan droi at y Wladwriaeth a'r sffêr wleidyddol noda Kuyper fod gan holl wladwriaethau Ewrop obsesiwn gydag unffurfiaeth. O systemau un ffurfiol o lywodraethu rhanbarthol a dinasoedd i systemau addysg un ffurfiol – roedd unffurfiaeth ym mhobman. Pwysleisia Kuyper ei fod ef yn perthyn i'r ysgol Gristnogol-Hanesyddol sy'n gwrthod yr undod a'r unffurfiaeth orthrymol sefydliadol yma. Dywed fod ei ysgol ef yn credu y dylem; '...[to] strive toward the unity that is in Christ precisely through the free unfolding of historically developed life.'27 Gan droi ei olwg at addysg dadleua y dylem ni frwydro'n erbyn trefn unffurf addysg y llywodraeth. Esbonia nad yw o'r rheidrwydd am gael gwared ar yr ysgolion cymysg28 presennol, ond ei fod am roi y dewis rhwng ysgolion cymysg a sawl math arall. Gan droi at y gyfundrefn ddemocrataidd mae'n herio dilysrwydd trefn ddemocrataidd sy'n ei gwneud hi'n amhosib i leiafrif gael cynrychiolaeth a llais.29 Tybed beth fyddai ei farn am drefn bleidleisio rhestrau rhanbarth y Cynulliad yng Nghaerdydd felly?

Credai Kuyper yn gryf fod brwydro yn erbyn unffurfiaeth yn frwydr o blaid eich cenedl. Os yw'r Iseldiroedd i ffynnu fel Cenedl rhai iddi gael 'A form of our own for a life of our own!' ac hefyd '...[to] drive out our national sins but still love our national ways'. Ymhellach noda fod rhaid i'r Iseldiroedd;

[to] remove from our midst the spineless tendency to bestow extravagant accolades on everything that comes from abroad, and in our appraisals give preferance to the things that are made at home.

Credai ei bod hi'n bwysig cynnal y traddodiad o fod yn hyddysg mewn ieithoedd tramor ond '...let there be no language you would rather speak, and especially write, than that splendid, rich mother tongue in which alone Dutch people can express what a Dutch heart feels.'31

Mae dadl Kuyper am y berthynas agos rhwng Crefydd a Hunaniaeth Genedlaethol yn berthnasol iawn i Gymru, yn enwedig felly wrth ystyried R. Tudur Jones a'i olyniaeth. Dywed Kuyper; 'Without religion there can be no patriotism; where religion is most intense, there the love of country and people is most robust: so history teaches us on every page.' Noda Kuyper mai 'Duwioldeb' ydy arf gorau pobloedd i ymladd am annibyniaeth '...and only secondarily artillery and sidearms.'32

Fe ddaw Kuyper i ben drwy nodi fod yna berthynas bositif rhwng y nifer o gredinwyr sy'n perthyn i genedl a'i barhad - '...the larger the number of children of God who inhabit the land of our fathers, the higher will be the wall which protects its liberty.'
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Iau 07 Rhag 2006 10:50 am

Be ma'r Kuyper 'ma'n wbod? Ar ba awdurdod mae o'n siarad ar ran Duw ynghylch be sy'n ddymunol neu ddim?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 07 Rhag 2006 11:13 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Be ma'r Kuyper 'ma'n wbod? Ar ba awdurdod mae o'n siarad ar ran Duw ynghylch be sy'n ddymunol neu ddim?


Mae o'n ddiwinydd neo-Galfinaidd. Ti'n iawn na ddylid cymryd geiriau yr un dyn fel geiriau Duw ond does dim o'i le ar geisio deall Duw - ac ar y cyfan rwy'n dilyn ac yn cytuno gyda safbwynt Kuyper ar y mater yma.

Ond fedrai nodi mae nid 'siarad ar ran Duw' mae o ond yn hytrach dadlau ar sail yr hyn sydd yn y Beibl nid yr hyn ddaw yn wreiddiol o feddwl Kuyper - boed i ti gytuno efo hynny neu beidio fynny i chdi.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Mer 13 Rhag 2006 4:20 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Be ma'r Kuyper 'ma'n wbod? Ar ba awdurdod mae o'n siarad ar ran Duw ynghylch be sy'n ddymunol neu ddim?


Mae o'n ddiwinydd neo-Galfinaidd. Ti'n iawn na ddylid cymryd geiriau yr un dyn fel geiriau Duw ond does dim o'i le ar geisio deall Duw - ac ar y cyfan rwy'n dilyn ac yn cytuno gyda safbwynt Kuyper ar y mater yma.

Ond fedrai nodi mae nid 'siarad ar ran Duw' mae o ond yn hytrach dadlau ar sail yr hyn sydd yn y Beibl nid yr hyn ddaw yn wreiddiol o feddwl Kuyper - boed i ti gytuno efo hynny neu beidio fynny i chdi.


Ron i'n meddwl mai un o ddadleuon Protestaniaid, ac un o'r rhesymau dros gyfieithu'r Beibl o'r Lladin i ieithioedd fel Cymraeg a Saesneg, oedd fod pawb yn gallu darllen y Beibl drosto ei hun a felly cael perthynas uniongyrchol efo'r Gair. Os felly, onid ydi dyfynnu rhywyn arall i gefnogi safbwynt braidd yn od?

I fynd nol at y pwynt gwreiddiol, mae'n hollol wrthgyferbyniol i ddweud fod Duw holl-alluog, holl-bwerus yn dibynnu ar gyfryngau fel teuluoedd i ledu'r gair, ac ei fod mewn rhai achlysuron yn methu (mae'n rhaid ei fod o, neu byddai pawb yn gristnogion erbyn hyn). Mae Duw yn dewis gadael i ran helaeth o boblogaeth y byd farw heb glywed am eu 'iachawdwriaeth' a felly eu condemnio i uffern. Duw cyfiawn? Duw cariad?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron