Cydraddoldeb a'r Nefoedd

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cydraddoldeb a'r Nefoedd

Postiogan Macsen » Maw 05 Rhag 2006 5:14 pm

Ar bererindod drwy'r rhithfro des i ar draws achau Rhys Llwyd, lle mae'n datgelu ei fod o'n perthyn i res o Brotestaniaid enwog a ddenodd lid Mari Waedlyd. Wel, llongyfarchiadau! Petai un o fy nheulu wedi cael ei ladd gan Fari Weadlyd mae'n debyg y byddai wedi yfed un yn ormod.

Ond mi wnaeth un peth ddal fy llygaid, sef Rhys Llwyd yn son am "gredentials Protestannaidd fy ngwaed". Ai'r awgrym fan hyn ydi bod crefydd yn rywbeth sy'n cael ei basio ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth? Onid yw rhai pobol yn fwy tebygol o ddod yn Gristnogion, nid o reidrwydd oherwydd eu bod nhw'n cario ryw fath o 'genyn grefyddol' ond oherwydd y diwylliant mae nhw'n byw ynddi, cred eu rheini, ayyb?

Os felly rhaid derbyn nad oes gan pawb yr un cyfle i fynd i'r nefoedd, a bod Duw yn ffafrio rhai dros eraill?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cydraddoldeb a'r Nefoedd

Postiogan sian » Maw 05 Rhag 2006 7:19 pm

Macsen a ddywedodd:.... Rhys Llwyd yn son am "gredentials Protestannaidd fy ngwaed". Ai'r awgrym fan hyn ydi bod crefydd yn rywbeth sy'n cael ei basio ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth?


Dw i'n cymryd bod tafod Rhys Llwyd yn ei foch wrth sôn am "gredentials Protestannaidd ei waed" - wedi'r cyfan "God has no grandchildren".
Ond mae'n naturiol ei fod yn ymfalchïo ei fod mewn olyniaeth mor anrhydeddus. Mae'n siwr y byddai cerddor yn cynhyrfu o glywed ei fod yn perthyn i Handel a blogiwr yn falch o ddysgu ei bod yn dod o deulu Samuel Pepys.
A dw i'n siwr mai Rhys fyddai'r cyntaf i gyfaddef nad oherwydd ei dras y bydd yntau'n canu yn y Nefoedd rhyw ddiwrnod.

Macsen a ddywedodd:Onid yw rhai pobol yn fwy tebygol o ddod yn Gristnogion, nid o reidrwydd oherwydd eu bod nhw'n cario ryw fath o 'genyn grefyddol' ond oherwydd y diwylliant mae nhw'n byw ynddi, cred eu rheini, ayyb?

Os felly rhaid derbyn nad oes gan pawb yr un cyfle i fynd i'r nefoedd, a bod Duw yn ffafrio rhai dros eraill?


Wrth gwrs, mae gan Dduw bob hawl i ddewis pwy fydd yn cael eu hachub ac mae hyn yn rhywbeth na wnawn ni byth mo'i ddeall yn y byd hwn. Gall ddewis cenhedloedd neu deuluoedd.
Hyd y gallwn ni weld, mae rhywun o wlad Gristnogol ac o deulu Cristnogol yn fwy tebygol o fod yn Gristion - ond dim ond Duw sy'n gweld calonnau.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Macsen » Maw 05 Rhag 2006 10:01 pm

Onid yw hi braidd yn anheg felly ar fachgen bach o wlad estron na fydd byth yn clywed gair yr Arglwydd? - ei gosb am gael ei eni yn y lle anghywir ar yr amser anghywir yw cael ei ddamnio i uffern i gael ei fwyta gan fwydod llwglyd am dragwyddoldeb.

Dwi'n siwr byddai rywun yn cael hartan o weld demograffeg y nefoedd, a'n mynd di uffern wedyn heblaw ei fod o'n digwydd dod o Ewrop, America neu Affrica!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mr Gasyth » Mer 06 Rhag 2006 9:56 am

Er mor hapus ydw i dros Rhys Llwyd o'i linach anrhydeddus, dylid nodi fod yr 65,535 arall o'i hen deidiau x15 (131,071 os da ni am fod yn deg a chyfri'r hen neiniau hefyd) ddim yn frodyr i Archesgob Caergaint. Yn anochel, nid oes posib dilyn pob cangen o goeden teulu, ond dwi'n siwr pe gwneid hynny y deuai o hyd i anffyddwyr, Catholigion, lladron, llofruddwyr a Duw a wyr be arall sydd i gyd yn perthyn iddo yr un fath. Dwi'n edrych ymlaen i ddarllen eu hanes ar y blog :winc:

Hyd y gwela i, mae dau reswm posib pam fod tocyn i'r nefoedd yn rhedeg yn y teulu a mae'n dod lawr i'r hen ddadl o nature v nurture:

Unai mae gan rai bobl enynnau sy'n eu gwneud yn fwy tueddol at gredu mewn pethau goruwchnaturiol, ac yn bwysicach, i deimlo'r angen i wneud hynny. Os felly, mae'n yndebygu i anhwylderau meddyliol (sylwer, nid wyf yn dweud ei fod yn un) sy'n gryfach mewn rhai teuluoedd nag eraill.

neu

Mae'n beth diwylliannol, gyda'r crefydd yn cael ei basio lawr o genhedlaeth i genhedlaeth drwy addysg ac arferiad. Os felly, mae'n depycach i grefft neu alwedigaeth sy'n cael ei phasio o genhedlaeth i genhedlaeth.

Y tebygrwydd ydi ei fod yn gyfuniad o'r ddau - ac yn debyg felly i'r arfer o 'deuluoedd Eisteddfodol' ble mae talent am ganu yn cyfuno gyda traddodiad teuluol o wneud hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 06 Rhag 2006 11:13 am

Ia. Dwi'n prowd iawn o fod hanes teulu Nain yn mynd yn ôl 1,000 o flynyddoedd yn ardal Penrhyndeudraeth ond dydy'r gwaed yna ddim yn fy ngwneud yn Genedlaetholwr Cymreig by defalt nachdi?

Does dim gwadu fod Duw yn defnyddio sefyllfaoedd i gyraedd pobl h.y. y Gymry Anghydffurfiol neu ddylanwad teulu OND y pwynt creiddiol ydy mae cyfryngau i Dduw ddefnyddio ydy rheini nid dibenion ynddynt hwy eu hunain. Fydde chi felly yn holi dyw e ddim yn deg felly fod mwy o gyfryngau gan Dduw mewn gwlad fel Cymru o'i Gymharu a gwlad dropical - wel nacydi ar ryw ystyr - dyna pam fod yr eglwys yng Nghymru wastad wedi rhoi pwyslais ar genhadaeth dramor (yn y modd iach, nid yn y modd imperialaidd ddiwyllianol).
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Mer 06 Rhag 2006 11:32 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Ia. Dwi'n prowd iawn o fod hanes teulu Nain yn mynd yn ôl 1,000 o flynyddoedd yn ardal Penrhyndeudraeth ond dydy'r gwaed yna ddim yn fy ngwneud yn Genedlaetholwr Cymreig by defalt nachdi?


Nagydi, ond petai dy deulu yn genedlaetholwyr Cymreig yna heb os buaset yn fwy tebygol o fod yn un hefyd. Does ond eisiau edrych ar deulu Gwynfor Evans fel enghraifft i weld nad ei Gristnogaeth yn unig sydd yn rhedeg yn y teulu.

Os mai Duw sy'n gyfrifol am fod Cristnogaeth yn gryf ymysg teulu gan ei fod yn eu defnyddio fel cyfrwng, yna be sy'n egluro cryfder cenedlaetholdeb? Byddai pawb yn derbyn mai ffenomenon gymdeithasol/ddiwylliannol yw'r ail un - pam nid felly y cyntaf?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 06 Rhag 2006 12:09 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Os mai Duw sy'n gyfrifol am fod Cristnogaeth yn gryf ymysg teulu gan ei fod yn eu defnyddio fel cyfrwng, yna be sy'n egluro cryfder cenedlaetholdeb? Byddai pawb yn derbyn mai ffenomenon gymdeithasol/ddiwylliannol yw'r ail un - pam nid felly y cyntaf?


Ond dydy Cristnogion Uniongred ddim yn derbyn mae ffenomenon gymdeithasol/ddiwillianol ydyw :winc:

Wyt ti wedi darllen fy nhraethawd hir? Yng nghyd destun sofraniaeth Duw dwi'n gweld popeth, ie enaid dyn ar un llaw ond yn ogystal trefn Duw o genhedloedd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Mer 06 Rhag 2006 12:38 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Os mai Duw sy'n gyfrifol am fod Cristnogaeth yn gryf ymysg teulu gan ei fod yn eu defnyddio fel cyfrwng, yna be sy'n egluro cryfder cenedlaetholdeb? Byddai pawb yn derbyn mai ffenomenon gymdeithasol/ddiwylliannol yw'r ail un - pam nid felly y cyntaf?


Ond dydy Cristnogion Uniongred ddim yn derbyn mae ffenomenon gymdeithasol/ddiwillianol ydyw :winc:



Diolch am y linc at dy draethawd, mi'w ddarllenai pan gai gyfle - nes ymlaen heddiw ella.

Wyt ti'n dweud wrthai nad yw Cristnogion Uniongred yn credu mai ffenomenon gymdeithasol yw fod tueddiadau gwleidyddol pobl o gefndir tebyg yn debyg? Felly nid ffenomeneon gymdeithasol yw cysylltiad y blaid Lafur a'r dosbarth gweithiol, neu'r Toriaid a'r bourgoise/tirfeddianwyr? Does dim cysylltiad rhwng dirywiad y Gymraeg yn ei chadarnleodd a ffactorau economaidd/globalaiddio na rhwng twf y Gymraeg yn y de-ddwyrain a chynydd addysg Gymraeg?

Beth yn nhyb Cristion Uniongred sydd yn werth ei astudio gen wyddonwyr cymdeithasol ta?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 06 Rhag 2006 2:21 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Beth yn nhyb Cristion Uniongred sydd yn werth ei astudio gen wyddonwyr cymdeithasol ta?


Sori nesi ddim mynegi fy hun yn glir.

Cyfeirio yn benodol at Genhedloedd a Chenedlaetholdeb o ni. Fodd bynnag yr hyn dwi yn ei fusnes o wneud bellach nawr mod i wedi symud o adran wleidyddiaeth i adran ddiwinyddiaeth ydy esbonio'r hyn dwi wedi eu pwyntio allan yn ystod fy ngradd gwleidyddiaeth o safbwynt tragwyddol/ysbrydol.

Wele...

1. Lladd ieithoedd yn ganlyniad i Globaleiddio (Wedi sefydlu hynny tra yn astudio gwyddoniaeth gymdeithasol)

2. Globaleiddio yn ganlyniad i rym pechod (wrthi y sefydlu hynny nawr tra yn astudio diwinyddiaeth)

Ti'n dallt be sgenai? Fasw ni'n dadlau fod fy nadansoddiad i o bethau, fel ciw-ddiwinydd yn mynd yn bellach na dy nadansoddiad di. Ddim i ddilorni dy ddadnasoddiad di o gwbl oblegid dwi gyda ti hanner y ffordd fel nodesi uchod ym mhwynt 1 - ond fel ciw-ddiwinydd dwi ddim yn hapus i adael pethau ar pwynt 1 - dwi am edrych dan groen hwnw hefyd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Mer 06 Rhag 2006 4:09 pm

Dwi'm yn gweld sut all Gristion gredu mai pechod yw globaleiddio.

O gymryd bod diwylliant Ewrop (-Twrci) ac America yn bennaf seiliedig ar Gristnogaeth, a bod globaleiddio wedi arwain at ymledu'r diwylliant hwnnw i bedwar ban y byd, sut felly all globaleddio fod yn anghristnogol?

Hefyd, allet ti ddim gobeithio trawsnewid diwylliant gwledydd eraill i un Gristnogol heb drwytho eu diwylliant nhw gyda baggage diwyllianol (Gorllewinol) y crefydd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron