Cwpl o erthyglau diddorol gan Oliver Burkeman yn y Guardian dros y dyddiau diwethaf wedi gneud i mi feddwl am hyn. Fe'u gwelwch yma ac yma.
Tra'i bod hi'n eithaf clir nad ydi'r ymgyrch i ddad-Gristnogi'r Nadolig unman yn agos at le mae'r Daily Mail yn hoffi ei bortreadu, a oes angen symudiad o'r fath mewn cymdeithas sydd erbyn heddiw yn gynyddol seciwlar?
Fy hun, er yn anghrediniwr, does gen i ddim problem efo galw'r wyl yn Nadolig/Christmas a dymuno hynny i bobl, a danfon cardiau Nadolig Llawen atynt. Ac er na fydd geni'r Iesu yn croesi fy meddwl fwy ar adeg yma o'r flwyddyn nag unrhyw adeg arall, rwy'n mwynhau ychydig o ganu carolau gymaint a neb.
Ond tydw i ddim yn hoff o Gristnogion yn honi mai eu gwyl 'hwy' ydi'r Nadolig a neb arall - mae'r wyl ganol-gaeaf yn bodoli ers cyn cristnogaeth a bydd yn parhau ar ei ol. Pam fod rhai Cristnogion yn mynnu monopoli ar yr wyl hynafol yma?