Tudalen 1 o 1

Y Nadolig a Christnogaeth

PostioPostiwyd: Mer 13 Rhag 2006 4:15 pm
gan Mr Gasyth
Cwpl o erthyglau diddorol gan Oliver Burkeman yn y Guardian dros y dyddiau diwethaf wedi gneud i mi feddwl am hyn. Fe'u gwelwch yma ac yma.

Tra'i bod hi'n eithaf clir nad ydi'r ymgyrch i ddad-Gristnogi'r Nadolig unman yn agos at le mae'r Daily Mail yn hoffi ei bortreadu, a oes angen symudiad o'r fath mewn cymdeithas sydd erbyn heddiw yn gynyddol seciwlar?

Fy hun, er yn anghrediniwr, does gen i ddim problem efo galw'r wyl yn Nadolig/Christmas a dymuno hynny i bobl, a danfon cardiau Nadolig Llawen atynt. Ac er na fydd geni'r Iesu yn croesi fy meddwl fwy ar adeg yma o'r flwyddyn nag unrhyw adeg arall, rwy'n mwynhau ychydig o ganu carolau gymaint a neb.

Ond tydw i ddim yn hoff o Gristnogion yn honi mai eu gwyl 'hwy' ydi'r Nadolig a neb arall - mae'r wyl ganol-gaeaf yn bodoli ers cyn cristnogaeth a bydd yn parhau ar ei ol. Pam fod rhai Cristnogion yn mynnu monopoli ar yr wyl hynafol yma?

PostioPostiwyd: Mer 13 Rhag 2006 4:38 pm
gan Wierdo
Mana eitem ar hacio ar hyn ar yr 21 o Ragfyr. Er, dwnim faint fydd ynddy fo, ffitio dros awr a hanner o drafodaeth mewn i chwarter awr...

PostioPostiwyd: Sad 16 Rhag 2006 4:46 pm
gan Macsen
Rydw i wedi penderfynu bod y nadolig yn rhy wyn!

Mi fyddai'n dathlu Malcolm Xmas yn lle.