"Eternal Father" ti'n feddwl, ie?
Mae ng?r i'n un da gyda phethau fel hyn - Llawlyfr Moliant Newydd y Bedyddwyr - rhif 194; Melita yw enw'r dôn.
DRAGWYDDOL Dad, anfeidrol Iôr,
Fu'n cau anesmwyth donnau'r môr,
Gan erchi i'r dyfnder llydan maith
Aros yn ei derfynau llaith –
O! clyw ein cri dros bawb, ein Iôr,
Sydd mewn enbydrwydd ar y môr.
O! Grist, yr Hwn un waith â'th lef
Ostegaist rym y storom gref;
A gerddaist ar y llidiog don,
Ac eilwaith huno ar ei bron,
O! clyw ein cri dros bawb, ein Iôr,
Sydd mewn enbydrwydd ar y môr.
Sancteiddiaf Ysbryd, unwaith fu
Yn symud ar y tryblith du;
Fe ffodd y dymestl rhag dy wedd,
Daeth golau ddydd a hyfryd hedd;
O! clyw ein cri dros bawb, ein Iôr,
Sydd mewn enbydrwydd ar y môr.
O! Drindod cariad, cadw'n awr
Ein brodyr mewn cyfyngder mawr;
Rhag storm a chraig, rhag llid a brad,
Dy nawdd fo drostynt ym mhob gwlad;
Ac yna byth i Ti, ein Iôr,
Bydd llawen fawl ar dir a môr.
WILLIAM WHITING, Cyfieithiad O. Lloyd Owen, Conwy 1860 - 1929