Help gydag emyn

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Help gydag emyn

Postiogan eusebio » Gwe 12 Ion 2007 9:38 pm

Oes yna eiriau Cymraeg i'r emyn "External Father strong to save"? - Yr un morwrol ydi hon 'chi'n gwybod ... For Those in Peril on the Sea ayyb
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan sian » Gwe 12 Ion 2007 10:21 pm

"Eternal Father" ti'n feddwl, ie? :lol:

Mae ng?r i'n un da gyda phethau fel hyn - Llawlyfr Moliant Newydd y Bedyddwyr - rhif 194; Melita yw enw'r dôn.

DRAGWYDDOL Dad, anfeidrol Iôr,
Fu'n cau anesmwyth donnau'r môr,
Gan erchi i'r dyfnder llydan maith
Aros yn ei derfynau llaith –
O! clyw ein cri dros bawb, ein Iôr,
Sydd mewn enbydrwydd ar y môr.

O! Grist, yr Hwn un waith â'th lef
Ostegaist rym y storom gref;
A gerddaist ar y llidiog don,
Ac eilwaith huno ar ei bron,
O! clyw ein cri dros bawb, ein Iôr,
Sydd mewn enbydrwydd ar y môr.

Sancteiddiaf Ysbryd, unwaith fu
Yn symud ar y tryblith du;
Fe ffodd y dymestl rhag dy wedd,
Daeth golau ddydd a hyfryd hedd;
O! clyw ein cri dros bawb, ein Iôr,
Sydd mewn enbydrwydd ar y môr.

O! Drindod cariad, cadw'n awr
Ein brodyr mewn cyfyngder mawr;
Rhag storm a chraig, rhag llid a brad,
Dy nawdd fo drostynt ym mhob gwlad;
Ac yna byth i Ti, ein Iôr,
Bydd llawen fawl ar dir a môr.

WILLIAM WHITING, Cyfieithiad O. Lloyd Owen, Conwy 1860 - 1929
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan eusebio » Gwe 12 Ion 2007 10:34 pm

sian a ddywedodd:"Eternal Father" ti'n feddwl, ie? :lol:



:lol: :wps:

diolch yn fawr sian ;)
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron