Tudalen 1 o 1

Seientoleg

PostioPostiwyd: Sad 13 Ion 2007 1:37 pm
gan Dylan
I'r rhai sydd ddim yn gwybod, dyma grynodeb byr o'u credoau gan Wiki:

Scientology is a body of teachings and related techniques developed by American science fiction author L. Ron Hubbard. It began in 1952 as a self-help philosophy, an outgrowth of his earlier self-help system, Dianetics, and later described itself as a new religion. It claims to offer "an exact methodology" to help humans achieve awareness of their spiritual existence across many lifetimes and, simultaneously, to become more effective in the physical world. The name "Scientology" is also used to refer to the often controversial Church of Scientology, the largest organization promoting the practice of Scientology, which is itself part of a network of affiliated corporations that claim ownership and sole authority to disseminate Dianetics and Scientology.

A stated goal of Scientology is to "rehabilitate" the thetan (roughly equivalent to the soul) to regain its native state of "total freedom."


Xenu (sometimes Xemu) is introduced as an alien ruler of the "Galactic Confederacy" who, 75 million years ago, brought billions of people to Earth in spacecraft resembling Douglas DC-8 airliners, stacked them around volcanoes and blew them up with hydrogen bombs. Their souls then clustered together and stuck to the bodies of the living. The alien souls continue to do this today, causing a variety of physical ill-effects in modern-day humans. Hubbard called these clustered spirits "Body Thetans," and the advanced levels place considerable emphasis on isolating them and neutralizing their ill effects


Ac os 'di hynny ddim yn ddigon, Hubbard oedd hefyd yn gyfrifol am Battlefield Earth. :?

Ta waeth. 'Dw i'n hollol hollol 100% sicr y bydd y Beckhamiaid yn aelodau naif o'r maffia ffiaidd yma erbyn diwedd y flwyddyn, o dan ddylanwad Tom Cruise. 'Does gen i ddim digon o hyder yng ngallu deallusol y cwpl druan i wrthsefyll malu cachu'r corrach od hwnnw.

Bydd y cyhoeddusrwydd a gaiff yr "eglwys" yn sgil hynny'n rhyfeddol. Tybed a allen nhw greu argraff wirioneddol ar y byd?

PostioPostiwyd: Sad 13 Ion 2007 1:44 pm
gan Hogyn o Rachub
Seientoleg ydi'r Gymraeg (Cysgeir). Neu "llwythogachu", dw i'm yn siwr; mae'n anhygoel faint o jyst od ydi'r holl beth: fedra' i wirioneddol ddim cael fy mhen o'i gwmpas.

PostioPostiwyd: Sad 13 Ion 2007 1:48 pm
gan huwcyn1982
Unrhywbeth mae Tom Cruise a Katie "Oh look I'm the same height as my husband in our wedding photos" Holmes yn hyrwyddo dwi yn erbyn o ran egwyddor.

PostioPostiwyd: Sad 13 Ion 2007 2:37 pm
gan Macsen
Gormod o Thetans yn dy gorff, dyna dy broblem di Dylan! Dyle ti ddarllen pamffled Hubbard (Recognising the Enemy: Thetans lead to Curly, Ginger Hair).

Dwi'm yn gweld Scientology yn cyraedd y Premiership Crefyddol am nad oedd gan awdur y crefydd yr un dawn i greu delwedd gofiadwy - Elijah yn codi i'r nefoedd ar gar tanllyd, Mohammed yn rhwygo'r lleuad yn ddau, Arch Noa, Iesu yn gwaedu ar y groes, 10 pla'r Aifft, straeon sydd wedi parhau yn y cof am filoedd o flynyddoedd am eu bod nhw'n 'ripping good yarns'. Dyw ryw falu awyr am Xenu a thetans yn eistedd mewn sinema yn gwisgo sbecs 3D ddim hanner mor drawiadol.

PostioPostiwyd: Sad 13 Ion 2007 2:44 pm
gan Dylan
Mae'n wir bod Cruise wedi dod yn destun sbort i raddau helaeth yn America; yn enwedig ar ôl iddo golli'i ben ar Oprah.

Bydd y cwlt yma byth yn y "prif gynghrair" wrth gwrs, ti'n iawn, ond o feddwl eu bod yn rowlio mewn cannoedd o filiynau o bunnoedd yn barod 'dw i'n credu bod modd iddynt wneud argraff weddol.

'Dw i dal yn credu ei bod yn bwysig bod pawb yn sylweddoli pa mor wirioneddol sinistr ydi nhw. Gweler http://www.xenu.net

PostioPostiwyd: Sad 13 Ion 2007 2:50 pm
gan Dylan
Wrth gwrs mae pob crefydd yn dechrau mewn rhyw ffordd od fel hyn; 'dydi'r ffaith bod Cristnogaeth wedi cael cwpl o filoedd o flynyddoedd o hed-start ddim yn golygu bod hwnnw'n "fwy synhwyrol" o reidrwydd.

Ond mae'n gwbl boenus o amlwg bod seientoleg yn llythrennol yn ddim byd mwy na sgam cwbl fwriadol er mwyn creu lot fawr iawn o arian. Maffia ydyn nhw.

PostioPostiwyd: Sad 13 Ion 2007 8:27 pm
gan Chip
Dylan a ddywedodd:Wrth gwrs mae pob crefydd yn dechrau mewn rhyw ffordd od fel hyn; 'dydi'r ffaith bod Cristnogaeth wedi cael cwpl o filoedd o flynyddoedd o hed-start ddim yn golygu bod hwnnw'n "fwy synhwyrol" o reidrwydd.


Yn llwyr, bach yn eironig fod cristnogion yn weld bau ar y rhufeiniaid am fod yn beirniadol ar ei crefydd nw ar y dechrau ond yn digon hapus i edrych arno hwn fel ffad a ddim bod yn open minded fel roeddent yn eisiau i'r rhufeiniaid fod. Er fod y ddau peth ar lefelau bach yn wahannol, rhwng ei thaflu i'r llewod a mwmblan amdanynt, ond dal ma'r un agwedd yno.