Bore da, bawb (yn enwedig pawb sy'n darllen hwn ar eu cyfrifiaduron yn y gwaith pan ddylent fod yn gwneud rhywbeth arall ).
Bosib fod rhai ohonoch wedi darllen y llyfr "Crist a Chenedlaetholdeb" gan Bobi Jones, Dwi'n siwr fod llawer wedi meddwl am y pwnc hyd yn oed os nad ydych wedi darllen y llyfr.
Ar ol trafod mymryn ar y mater mewn lle arall ar y maes, meddyliais y byddai'n dda cael edefyn i drafod beth yw'r cysylltiadau rhwng syniadau crefyddol a chenedlaetholgar, a sut y mae'r syniadau hynny'n cyd-dynnu. Os ydi pobol eisio trafod y llyfr yn benodol, mae hynny'n iawn (ond cofiwch na fydd pawb yn nabod y llyfr, felly fydd rhaid esbonio tipyn o'r cyd-destun), ond does dim gwaharddiad ar drafod y pwnc yn fwy eang.
Mi ddechreuai efo rwbath sy'n fy mhoeni am ddadl Bobi Jones, sef ei fan cychwyn o ddefnyddio'r Hen Destament fel "prawf" fod Duw tu cefn i gread a datblygiad yr amrwy genhedloedd (ac felly fod y Cymry a'r hawl i fod rywsut "ar wahan").
Y broblem sydd gen i yw fod Jones ddim yn ystyried y posibilrwydd fod na wahanol fathau o syniadau yn yr HD ynglyn a sut mae'r gwahanol genhedloedd a gwledydd i ymwneud a'i gilydd. Er enghraifft, mae llyfrau Joshua ac Ezra yn amlwg yn credu fod gan Israel, fel cenedl ynddi'i hun, yr hawl i feddu tir ac i greu gwahaniaeth rhyngddi ac eraill. Mae Eseia, ar y llaw arall (yn enwedig o benond 40 ymlaen) yn dod o agwedd gwbwl wahanol, mai pwrpas Israel yw chwarae rhan - o bosib, rhan offrymol, ingol iddi'i hun - yn nyfodiad cymuned rhyng-genedlaeethol yn nheyrnas Duw.
Fe welir esiamplau o'r ddau dueddiad hyn yn llyfr yr Actau. Ar yr un llaw mae tyndra - o bosib ar sail hunaniaeth ieithyddol - rhwng Hebreaid a Groegiaid dros fwydo gweddwon (sy'n gorfodi'r apostolion i greu trefn weinyddol newydd), ac mewn mannau eraill ceir y broblem fawr o waith Paul ymysg pobl nad ydynt yn Iddewon.
Dyna ddigon dennyf i. Unrhyw syniadau?