Crist a Chenedlaetholdeb

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Crist a Chenedlaetholdeb

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Maw 13 Chw 2007 10:03 am

Bore da, bawb (yn enwedig pawb sy'n darllen hwn ar eu cyfrifiaduron yn y gwaith pan ddylent fod yn gwneud rhywbeth arall :winc: ).

Bosib fod rhai ohonoch wedi darllen y llyfr "Crist a Chenedlaetholdeb" gan Bobi Jones, Dwi'n siwr fod llawer wedi meddwl am y pwnc hyd yn oed os nad ydych wedi darllen y llyfr.

Ar ol trafod mymryn ar y mater mewn lle arall ar y maes, meddyliais y byddai'n dda cael edefyn i drafod beth yw'r cysylltiadau rhwng syniadau crefyddol a chenedlaetholgar, a sut y mae'r syniadau hynny'n cyd-dynnu. Os ydi pobol eisio trafod y llyfr yn benodol, mae hynny'n iawn (ond cofiwch na fydd pawb yn nabod y llyfr, felly fydd rhaid esbonio tipyn o'r cyd-destun), ond does dim gwaharddiad ar drafod y pwnc yn fwy eang.

Mi ddechreuai efo rwbath sy'n fy mhoeni am ddadl Bobi Jones, sef ei fan cychwyn o ddefnyddio'r Hen Destament fel "prawf" fod Duw tu cefn i gread a datblygiad yr amrwy genhedloedd (ac felly fod y Cymry a'r hawl i fod rywsut "ar wahan").

Y broblem sydd gen i yw fod Jones ddim yn ystyried y posibilrwydd fod na wahanol fathau o syniadau yn yr HD ynglyn a sut mae'r gwahanol genhedloedd a gwledydd i ymwneud a'i gilydd. Er enghraifft, mae llyfrau Joshua ac Ezra yn amlwg yn credu fod gan Israel, fel cenedl ynddi'i hun, yr hawl i feddu tir ac i greu gwahaniaeth rhyngddi ac eraill. Mae Eseia, ar y llaw arall (yn enwedig o benond 40 ymlaen) yn dod o agwedd gwbwl wahanol, mai pwrpas Israel yw chwarae rhan - o bosib, rhan offrymol, ingol iddi'i hun - yn nyfodiad cymuned rhyng-genedlaeethol yn nheyrnas Duw.

Fe welir esiamplau o'r ddau dueddiad hyn yn llyfr yr Actau. Ar yr un llaw mae tyndra - o bosib ar sail hunaniaeth ieithyddol - rhwng Hebreaid a Groegiaid dros fwydo gweddwon (sy'n gorfodi'r apostolion i greu trefn weinyddol newydd), ac mewn mannau eraill ceir y broblem fawr o waith Paul ymysg pobl nad ydynt yn Iddewon.

Dyna ddigon dennyf i. Unrhyw syniadau?
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan Foel Gornach » Sad 19 Mai 2007 9:01 am

Byrdwn neges llyfr Bobi Jones yw bod pob cenedl wedi ei ddwyn i fodolaeth gan Dduw i bwrpas arbennig. Ein cyfrifoldeb ni, felly, yw chwilio mas beth yw pwrpas ein bodolaeth ni fel cenedl y Cymry.

Yn ol a ddeallaf, y mae dwy ffordd o ddehongli'r pwrpas hwnnw wedi eu cofnodi yn yr Hen Destament. Yn gyntaf, y dehongliad fod Duw wedi 'ethol' y genedl i freintiau arbennig. Yr ail ddehongliad yw'r un sy'n nodweddu gwaith y proffwydi ac yn cael ei hyrwyddo yn y Testament Newydd, sef bod Duw wedi ethol y genedl i gyfrifoldeb. Methiant i gyflawni'r cyfrifoldeb hwn yw sail y farn ddwyfol sydd ar y genedl.

Cam a'r gred mewn etholedigaeth yw ei gyfyngu i'r gred taw ethol i ffafrau a wna Duw - ethol i gyfrifoldeb ydyw.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Postiogan rooney » Sad 10 Tach 2007 11:17 pm

Twr Babel. Duw yn cymysgu'r ieithoedd. Hyn yn awgrymu i fi fod well gen Duw ddelio gyda llawer o genhedloedd gwahanol a nid un cenedl fawr.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan ceribethlem » Sul 11 Tach 2007 12:36 am

rooney a ddywedodd:Twr Babel. Duw yn cymysgu'r ieithoedd. Hyn yn awgrymu i fi fod well gen Duw ddelio gyda llawer o genhedloedd gwahanol a nid un cenedl fawr.
Wyt ti o'r farn, felly, fod systemau addysg bydol yn mynd yn erbyn ewyllys Duw, drwy addysgu ieithoedd modern? Yn ol dy "ddadl" di, fedrai ddim deall sut bydde neges Duw/Cristnogaeth yn gallu ehangu ar draws y Byd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan rooney » Sul 11 Tach 2007 7:12 pm

ceribethlem a ddywedodd:Wyt ti o'r farn, felly, fod systemau addysg bydol yn mynd yn erbyn ewyllys Duw, drwy addysgu ieithoedd modern? Yn ol dy "ddadl" di, fedrai ddim deall sut bydde neges Duw/Cristnogaeth yn gallu ehangu ar draws y Byd.


?
non-sequitur
mae neges Iesu wedi mynd ar draws y byd er gwaethaf gwahaniaethau hil, iaith, lleoliad pan mae'r gwledydd dan sylw yn caniatau'r peth
beth mae Twr Babel yn ddangos yw fod trefn un gwlad yn y byd ddim wrth fodd Duw oherwydd beth ddigwyddodd yn Babel- rebelion yn erbyn Duw. Gyda nifer fawr o wledydd gall Duw ddelio gyda'r gwledydd yn unigol.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan ceribethlem » Sul 11 Tach 2007 9:52 pm

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Wyt ti o'r farn, felly, fod systemau addysg bydol yn mynd yn erbyn ewyllys Duw, drwy addysgu ieithoedd modern? Yn ol dy "ddadl" di, fedrai ddim deall sut bydde neges Duw/Cristnogaeth yn gallu ehangu ar draws y Byd.


?
non-sequitur
mae neges Iesu wedi mynd ar draws y byd er gwaethaf gwahaniaethau hil, iaith, lleoliad pan mae'r gwledydd dan sylw yn caniatau'r peth
beth mae Twr Babel yn ddangos yw fod trefn un gwlad yn y byd ddim wrth fodd Duw oherwydd beth ddigwyddodd yn Babel- rebelion yn erbyn Duw. Gyda nifer fawr o wledydd gall Duw ddelio gyda'r gwledydd yn unigol.
Wyt ti wedi ei wneud yn amlwg iawn dy fod yn erbyn addysgu unrhyw wyddoniaetrh sy'n gwrthddweud unrhyw rannau o'r Beibl. Onid yw dysgu ieithoedd modern (neu unrhyw ieithoedd am hynny) yn mynd yn erbyn gair/ewyllys Duw, pan benderfynodd gosbi Dyn drwy rhoi ieithoedd gwahanol iddo a sicrhau na fedr dynoliaeth cyfan uno fel gwnaethpwyd yn y Twr Babel?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan rooney » Sul 11 Tach 2007 11:47 pm

ceribethlem a ddywedodd: Wyt ti wedi ei wneud yn amlwg iawn dy fod yn erbyn addysgu unrhyw wyddoniaetrh sy'n gwrthddweud unrhyw rannau o'r Beibl. Onid yw dysgu ieithoedd modern (neu unrhyw ieithoedd am hynny) yn mynd yn erbyn gair/ewyllys Duw, pan benderfynodd gosbi Dyn drwy rhoi ieithoedd gwahanol iddo a sicrhau na fedr dynoliaeth cyfan uno fel gwnaethpwyd yn y Twr Babel?


Na, Duw roddodd y ieithoedd gwahanol i ddyn er mwyn i ddyn wasgaru a sefydlu gwahanol genhedloedd. Pe bydde dyn yn mynd nol i siarad dim ond un iaith (Saesneg falle) ac yn mynd nol i gael un llywodraeth/system fyd-eang yna fe fyddai perygl unwaith eto fod dyn yn mynd i rebelio yn erbyn Duw fel yn Babel. Ond roedd Duw wedi barnu'r byd unwaith yn barod gyda llifogydd Noa. O hyn ymlaen mae'n barnu trwy wasgaru, yna'n dewis un dyn, un teulu, un cenedl ac yna'n cyrraedd yr holl fyd trwy ddanfon Iesu er mwyn iddo achub cyn gymaint o bobl ac sydd yn bosib cyn y farn derfynol gyda tan er mwyn poblogi'r ddaear a nefoedd newydd.

Os rhywbeth, fyddwn i'n meddwl fyddai Duw yn hapus fod pobl dal yn siarad ieithioedd gwahanol ar draws y byd ac felly ddim yn gwrthwynebu dysgu ieithoedd gwahanol. Yn Actau mae'r Ysbryd Glan yn peri i'r Cristnogion siarad tafodau gwahanol i rannu'r efengyl i bobl o bob rhan o'r byd ddeall- cymhara'r hanes yma gyda hanes Babel, un enghraifft ddifyr o'r paralels rhwng y Testament Hen a'r Newydd.

Os wyt yn credu'n gryf mewn esblygu cell-i-ddyn yna unwaith eto fan hyn mae'n amlwg fod Genesis yn datgelu fod ieithioedd gwreiddiol wedi cael eu ysbrydoli gan Dduw, a ddim wedi esblygu o ddim.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan ceribethlem » Llun 12 Tach 2007 9:15 am

rooney a ddywedodd:Os wyt yn credu'n gryf mewn esblygu cell-i-ddyn yna unwaith eto fan hyn mae'n amlwg fod Genesis yn datgelu fod ieithioedd gwreiddiol wedi cael eu ysbrydoli gan Dduw, a ddim wedi esblygu o ddim.
Dydw i byth wedi astudio datblygiad ieithoedd, ac felly yn methu dweud llawer amdanynt, ac rwy'n methu gweld sut byddai credu mewn damcaniaeth esblygiad biolegol yn golygu y byddwn yn credu unrhywbeth penodol am esblygiad ieithoedd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 29 gwestai