Plaid Gristnogol Cymru

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sian » Maw 13 Chw 2007 2:12 pm

Yn ôl y wefan, does dim llawer o gysylltiad rhwng y rhain â
garynysmon a ddywedodd:Cristnogaeth pasiffistaidd Gwynfor Evans
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan dawncyfarwydd » Maw 13 Chw 2007 5:55 pm

Dwi'n credu bod traethawd Rhys ar RTJ yn adnodd pwysig wrth drafod hyn.

Ond y wedd o athrawiaeth Gras Cyffredinol sy'n berthnasol yng nghyd-destun y traethawd hwn (sef gwleidyddiaeth Tudur Jones) yw'r cysyniad fod ffrwyth bendithion gras yn golygu bod cyfiawnder yn bosibl ar y ddaear yma o leiaf ar lefel ddinesig. Dywedodd y diwinydd Louis Berkhof;
Common grace enables man to perform what is generally called justitia civilis, that is, that which is right in civil or natural affairs... Reformed theologians generally maintain that the unregenerate can
perform natural good, [and] civil good...41

Mae'r agwedd yma o athrawiaeth Galfinaidd Tudur Jones yn hollol greiddiol i'w feddwl a'i weithgaredd gwleidyddol. Dychmygwch pe na bai Tudur Jones yn arddel yr athrawiaeth yma bod bendithion Gras Cyffredinol wedi dod i'r Byd42 (nid yw Anabaptistiaid, Pietistiaid na Morafiaid ymysg eraill yn credu hyn43), yna ni fyddai wedi gweld ei ffordd yn glir i weithio oddi mewn i blaid wleidyddol oedd ag anghredinwyr yn aelodau ohoni, oherwydd ni fyddai'r aelodau hynny yn gallu ceisio cyfiawnder. Canlyniad hyn, bid siŵr, fyddai naill ai gweld unigolion fel Tudur Jones yn sefydlu Plaid Genedlaethol Gristnogol ar wahân i Blaid Cymru neu ymddeol o'r sffêr wleidyddol a chyhoeddus yn llwyr.


Gobeithio nad wyt ti'n meindio i mi dynnu sylw ato fo, Rhys.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 14 Chw 2007 8:23 am

dawncyfarwydd a ddywedodd:Dwi'n credu bod traethawd Rhys ar RTJ yn adnodd pwysig wrth drafod hyn....

Gobeithio nad wyt ti'n meindio i mi dynnu sylw ato fo, Rhys.


Ddim o gwbl, ro ni am dynnu sylw at yr athrawiaeth yma ond doeddw ni ddim yn botherd i balu yn y traethawd i'w ffeindio felly diolch i chdi 8)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Mer 14 Chw 2007 9:58 am

Ffyc, ma diwinyddiaeth yn cracio fi fyny. Fel criw o academyddion yn trafod pa ganran o gotwm sydd yng ngwisg Sion Corn, neu pa fath o fwyd fase'n gwneud i'r hysgis fynd gyflyma.

Sori, hanner ffordd drwy The God Delusion felly mae fy anghrediniaeth yn cyrredd lefelau newydd yn ddyddiol.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Mer 14 Chw 2007 10:16 am

Mr Gasyth a ddywedodd:trafod pa ganran o gotwm sydd yng ngwisg Sion Corn, neu pa fath o fwyd fase'n gwneud i'r hysgis fynd gyflyma.


Wel, thanks a blydi lot, Gasyth, ti di dwyn y syniad gora sydd gen i ar gyfer fy mregath nesa. Fydd raid i fi feddwl am rwbath arall rwan.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 14 Chw 2007 10:57 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Ffyc, ma diwinyddiaeth yn cracio fi fyny. Fel criw o academyddion yn trafod pa ganran o gotwm sydd yng ngwisg Sion Corn, neu pa fath o fwyd fase'n gwneud i'r hysgis fynd gyflyma.

Sori, hanner ffordd drwy The God Delusion felly mae fy anghrediniaeth yn cyrredd lefelau newydd yn ddyddiol.


Peth ydy Gasyth. Does gennyt ti ddim y virtue, fel ni, o wybod yn llawn be da ni'n feddwl/credu lle da ni yn gwbod yn iawn be ti'n feddwl ac yn credu oherwydd bo ni wedi bod yn yr un lle a ti ar un pwynt.

Ma Dawkins a chditha yn ceisio profi/gwrth-brofi trwy ddefnyddio offerynau dy ni fel Cristnogion yn cyfaddau na all brofi na gwrth brofi ein ffydd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Mer 14 Chw 2007 11:32 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Ffyc, ma diwinyddiaeth yn cracio fi fyny. Fel criw o academyddion yn trafod pa ganran o gotwm sydd yng ngwisg Sion Corn, neu pa fath o fwyd fase'n gwneud i'r hysgis fynd gyflyma.

Sori, hanner ffordd drwy The God Delusion felly mae fy anghrediniaeth yn cyrredd lefelau newydd yn ddyddiol.


Peth ydy Gasyth. Does gennyt ti ddim y virtue, fel ni, o wybod yn llawn be da ni'n feddwl/credu lle da ni yn gwbod yn iawn be ti'n feddwl ac yn credu oherwydd bo ni wedi bod yn yr un lle a ti ar un pwynt.


Er gwybodaeth rowddwn i arfer credu, nes on i tua 18 ma siwr.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan rooney » Sul 07 Hyd 2007 2:08 pm

Mae gen i ofn mae ffwlbri yw meddwl gallwch ddatgysylltu gwleidyddiaeth a chrefydd. Mae beth mae pobl yn credu ynddo yn cael ei ddylanwadu'n gryf gan ddaliadau crefyddol pobl, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Mae'r gwleidyddion dyddie yma wedi disodli moesau'r Beibl ac yn ei le rhoi moesau gwleidyddol gywir. Nid yw'r moesau hynny bob amser yn cydfynd gyda'r Beibl, maent yn gallu mynd yn erbyn y Beibl.

Petae e.e. pleidlais ar erthylu, priodasau hoyw ayyb, yna gellwch ddisgwyl i wleidydd Pabyddol bleidleisio'n wahanol i wleidydd atheist.

Petae'n dod yn ddewis rhwng plaid sydd gyda moesau Beiblaidd, neu blaid sydd yn wleidyddol gywir ond yn canolbwyntion ar yr Iaith Gymraeg a materion cyfansoddiadol... pam fuasai'r Cristion Cymraeg ddim o blaid y blaid gyntaf? Allwch chi ddim gwasanaethu dau feistr.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron