Plaid Gristnogol Cymru

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Plaid Gristnogol Cymru

Postiogan Mr Gasyth » Maw 13 Chw 2007 10:24 am

Allai'm dod o hyd i linc, ond roedd ar y newyddion ddoe fod Plaid Gristnogol Cymru wedi lansio ac y bydd yn ymgeisio am seddi rhanbarthol yn etholiad y Cynulliad.

A fydd aelodau (crediniol) Criw Duw yn pleidleisio drostynt ta?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Cardi Bach » Maw 13 Chw 2007 10:56 am

Na fydda.
Wy'n Gristion, ac mi fydda i'n trial argyhoeddi pobl yn fy ffordd fy hun.
Ond wy'm yn credu mai lle Cristnogaeth neu unrhyw grefydd yw i ffurfio pleidiau gwleidyddol a cheisio llywodraethu. Dwy ddim yn credu fod hawl gan pobl sydd yn honi i fod yn grefyddol i orfodi eu credo ar eraill a gorfodi pobl i gydymffurfio - nid dyna yw neges Cristnogaeth.

Os yw Cristnogaeth am lwyddo yna mae am lwyddo am fod unigolion ac yn eu tro Cymdeithas yn dilyn Crist o'u gwirfodd.

Ar lefel bersonol mae Nghristnogaeth i yn fwy o lawer nag unrhyw deilyngdod gwleidyddol.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Plaid Gristnogol Cymru

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 13 Chw 2007 11:27 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Allai'm dod o hyd i linc, ond roedd ar y newyddion ddoe fod Plaid Gristnogol Cymru wedi lansio ac y bydd yn ymgeisio am seddi rhanbarthol yn etholiad y Cynulliad.

A fydd aelodau (crediniol) Criw Duw yn pleidleisio drostynt ta?


Yn sicr na fyddaf!

Dwi wedi clywed mae Stephen Green a'i fudiad Christian Voice sydd tu ol i hyn. Dwi'n bwriadu sgwennu erthygl i'w gyhoeddi rhywle yn dadlau yn erbyn y syniad o blaid Gristnogol single issue.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Plaid Gristnogol Cymru

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Maw 13 Chw 2007 11:35 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Yn sicr na fyddaf!

Dwi wedi clywed mae Stephen Green a'i fudiad Christian Voice sydd tu ol i hyn.


Be, dwyt ti ddim isio bod yn ran o'r ymgyrch fawr i achub ieuenctid Prydain rhag cael eu sugno i fewn i "promiscuity, homosexuality and infertility"? Rhag dy gywilydd di.

:winc:

Rhaid dweud, er yr holl nytars yn y byd (edrychwch ar http://www.av1611.com am esiampl arddechog o nytrwydd), mae CV yn un o'r grwpiau hynny sy'n gyrru nytaroliaeth bron i fod yn grefft.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Re: Plaid Gristnogol Cymru

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 13 Chw 2007 12:45 pm

Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:and infertility"?


hwna dir un doniol 8)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Maw 13 Chw 2007 1:00 pm

Wel wir, da chi'n fy synnu. Dwi'n gobeithio er eich mwyn chi na fydd raid chi ateb dros hyn ar ddydd y farn.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan garynysmon » Maw 13 Chw 2007 1:13 pm

Mae Cristnogaeth pasiffistaidd Gwynfor Evans dal yn gysgod dros Blaid Cymru hyd heddiw (gallwch chi benderfynnu os hyn yn beth da neu beidio). Does dim angen Plaid Gristnogol.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Plaid Gristnogol Cymru

Postiogan Gwen » Maw 13 Chw 2007 1:57 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:and infertility"?


hwna dir un doniol 8)


Dwi'm yn dallt hynna, rhaid i mi gyfadda. :?
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Plaid Gristnogol Cymru

Postiogan sian » Maw 13 Chw 2007 2:06 pm

Gwen a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:
Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:and infertility"?


hwna dir un doniol 8)


Dwi'm yn dallt hynna, rhaid i mi gyfadda. :?


Ydi e'n cyfeirio at y ffaith fod rhai clefydau cysylltiad rhywiol yn gallu'ch gwneud yn anffrwythlon? (Dw i newydd gyfieithu 80 tudalen am y pwnc felly dw i'n eitha gwybodus yn y maes!)
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Plaid Gristnogol Cymru

Postiogan Gwen » Maw 13 Chw 2007 2:10 pm

sian a ddywedodd:
Gwen a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:
Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:and infertility"?


hwna dir un doniol 8)


Dwi'm yn dallt hynna, rhaid i mi gyfadda. :?


Ydi e'n cyfeirio at y ffaith fod rhai clefydau cysylltiad rhywiol yn gallu'ch gwneud yn anffrwythlon? (Dw i newydd gyfieithu 80 tudalen am y pwnc felly dw i'n eitha gwybodus yn y maes!)


Mae'n siwr mai dyna pam, ond mae hi dal yn warthus eu bod nhw'n dweud y ffasiwn beth.

Na, fyswn i'm yn pleidleisio iddyn nhw chwaith - yn enwedig ar ôl cael cip ar y wefan.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron