Macsen a ddywedodd:Oes rhaid bod rheswm? Falle bod rhaid derbyn nad oes gan y ddynoliaeth unrhyw bwrpas yn anfertholdeb y fydolaeth gyfan, heblaw am ddifyrru ein gilydd.
Gan gymryd mai dyma oedd cwestiwn Rhys yn cyfeirio ato, sef rheswm dros ein bodolaeth, yna mae'n syml. Rydan ni yma achos fod molwciwlau DNA wedi datblygu y gallu i atgynhyrchu eu hunain (digwyddodd hyn unwaith yn unig) a wedyn dros gyfnod o filiynau lawer o flynyddoedd wedi esblygu amrywiaeth eang o ffyrdd mwy a mwy cymhleth o sicrhau eu goroesiad a'u dyblygiad (canlyniad i nifer dirifedi o ddatblygiadau bychain iawn dros gyfnod hir iawn). Rydym ni, ynghyd a phopeth byw arall yn un o'r 'cerbydau' mae DNA yn ei ddefnyddio i sicrhau ei ddyblygiad ei hun. Ein pwrpas, y rheswm dros ein bodolaeth, yw i atgenhedlu cyn marw - a mae hynny'n ok efo fi hyd yn oed os dwi ddim yn hoff iawn o blant.
Ond tydi cael Duw fel
rheswm dros ein bodoloaeth ddim yn ateb dim mwy o gwestiynau na mae ei ddefnyddio fel
eglurhad. Os mai'r rheswm dros ein bodolaeth ydi fod Duw wedi ein creu, yne beth ydi'r rheswm dros iddo ein creu? A beth ydi'r rheswm dros fodolaeth Duw? Ydi o hefyd wedi ei greu gan rywyn arall i ryw bwrpas arbennig, ynteu ydi o'n bodoli jest er mwyn bodoli heb bwrpas uwch? Ac os fedri di gredu hyn am Dduw, pam na fedri di ei gredu amdanat ti dy hun?
Waeth bynnag be di'r cwestiwn tydi ateb 'Duw' ddim yn ateb, achos mae'r un cwestiwn yn codi eto yn ei gylch o.