sori heb cael amser i ddarllen y trafodaeth llawn hyd yn hyn.
ond - dwi ar pennod 3 (prosiect ymchwil ddim wedi gorffen eto felly dim lot o amser - nai ddarllen mwy nes ymlaen yn yr wythnos) ond mae o'n dod drosodd yn fwy rhesymol rwan. er weithiau mae o'n dweud "ma rhai yn dweud X a dwi ddim yn gwbod pam" ac yn lle gofyn iddyn nhw (a dwi yn deall fod o ddim yn bosib efo pob achos ond fe allai o ofyn i rai petai o'n fodlon mynd i drafodaeth efo pobl), mae o'n trio dyfalu be di rhesymau pobl a jyst dadlau yn erbyn nhw - dim lot o bwynt i hwnna. mae o jyst yn swnio weithiau (nid o hyd) fel bod o jyst isho rhwbeth i ddadlau yn ei erbyn o a'n llenwi'r manylion ei hun sydd braidd yn ddi-bwynt. bysai'n well petai o jyst yn dweud "ma rhai yn dweud X a dwi ddim yn deall pam, mewn rhai achosion dydw i ddim wedi cael cyfle i ofyn ac mewn eraill, dydyn nhw ddim wir yn gwybod chwaith"
byddai'n well cadw'r ddadl yn erbyn y fath bwyntiau tan yn hwyrach, neu eu hepgor, neu fe ddylai wedi neud mwy o ymchwil. mae dawkins yn dweud ei hun "i care passionately about the truth" drosodd a throsodd. felly gwell byddai bod yn onest a dweud "dwi ddim yn deall eu pwynt" fel gwyddonydd da neu jyst trafod y dadleuon mae o'n eu deall.