(Noson fishi 'ma.)
<a href="http://www.atheistnation.net/video/?video/00004">The Root of all Evil</a> - cyfres RD ar Channel 4. Collais i hwn pan oedd e ar focs yr ynfytyn.
Cymedrolwr: Rhys Llwyd
nicdafis a ddywedodd:<a href="http://richarddawkins.net/article,303,Reading-of-The-God-Delusion-in-Lynchburg-VA,Richard-Dawkins--C-SPAN2">Dawkins yn darllen o'r God Delusion</a> yn Lynchburg, Virginia, ac wedyn ateb cwesiynau o'r llawr. Mae hyn yn werth ei wylio, wir yr.
Un dyfyniad bach:Dawkins a ddywedodd:Atheists are far, far more numerous than most people realise, and that's mostly because they won't come out of the closet.
Mr Gasyth a ddywedodd:Mae dweud fod y Beibl, ynddo'i hun, yn profi bodolaeth Duw a Christ fel dweud fod y ffaith fod colofnau astroleg i'w cael yn profi cywirdeb yr ofergoel hurt (ond dim mwy hurt) honno.
Ble mae Exhibit B?
The Selfish Gene a ddywedodd:We no longer have to resort to superstition when faced with the big questions: Is there a meaning to life? What are we for? What is man? After posing the last of these questions the eminent zoologist G.G.Simpson put it thus: 'The point I want to make now is that <b>all attempts to answer that question before 1859 are worthless</b> and that we will be better off if we ignore them completely.'
Lôn Groes a ddywedodd:Ond anodd iawn ydi gwrthbrofi bodolaeth Iesu Grist, y person hanesyddol o gig a gwaed. Mae llawer wedi trio ond i ddim diben.
Wyt ti yn ffansio dy siawns Mr. Gasyth?
Rhys Llwyd a ddywedodd:Trafodaeth ddifyr, dwi heb gyfrannu oherwydd mod i heb ddarllen y llyfr. Ond basw ni'n nodi ambell i beth. Er mod i yn credu fod y Beibl yn air sydd wedi cael ei ysgrifennu gan ddynion trwy arweiniaid yr ysbryd glan dwi ddim o'r rheidrwydd yn gyfforddus yn defnyddio bodolaeth y Beibl fel prawf fod yna Dduw. Os am ddadlau gyda anffyddiwr am fodolaeth y sffer ysbrydol rhaid defnyddio contact points cyffredin a dydy cred yn y Beibl ddim yn gontact point cyffredin rhwng y credadun ar anghredadun. I mi y contact points cyffredin yw hyn: yr amgyffred o foesoldeb a chydwybod. Byddai'n ddiddorol gwybod sut bo Dawkins yn esbonio moesoldeb a chydwybod heb roi tir i'r sffer fetaffisegol ysbrydol - fedr rhywyn sydd wedi darllen esbonio i mi?
nicdafis a ddywedodd:Bu farw Voltaire yn 1778 - ni chyhoeddwyd <i>The Origin of Species</i> tan 1859. Oedd Voltaire yn byw mewn adeg lle oedd bron pawb yn y gorllewin, hyd yn oed y rhai "goleuedig", yn credu bod y ddaear rhyw 6000 mlwydd oed.
The Selfish Gene a ddywedodd:We no longer have to resort to superstition when faced with the big questions: Is there a meaning to life? What are we for? What is man? After posing the last of these questions the eminent zoologist G.G.Simpson put it thus: 'The point I want to make now is that <b>all attempts to answer that question before 1859 are worthless</b> and that we will be better off if we ignore them completely.'
nicdafis a ddywedodd:Lôn Groes a ddywedodd:Ond anodd iawn ydi gwrthbrofi bodolaeth Iesu Grist, y person hanesyddol o gig a gwaed. Mae llawer wedi trio ond i ddim diben.
Wyt ti yn ffansio dy siawns Mr. Gasyth?
Diogrwydd deallusol o'r fath waethaf. Does dim "pwys profi" ar rywun sy ddim yn credu mewn honiad anghredadwy. Alla i ddweud mod i'n credu mewn tebot sy'n cylchdro'r haul rhwng y planedau Mawrth a Gwener, a fyddet ti ddim yn gallu profi mod i'n dweud celwyddau.
Ond...
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai