The God Delusion

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Griff-Waunfach » Llun 10 Rhag 2007 3:36 pm

Mae'n ymweld fel bod Dawkins yn ystyried eu hun yn "Cultural Christian" Bethbynnag mae hwna'n golygu...? Have your cake and eat it-ism dwi'n credu!

GWELER
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Llun 10 Rhag 2007 3:50 pm

Na, mae Dawkins yn berffaith iawn fan 'na dwi'n meddwl. Mae'n bwysig peidio taflu'r babi allan gyda'r dwr bath. Er nad oes rhaid credu mewn crist mae dal werth diogelu diwylliant sydd a'i wraidd mewn cristnogaeth. Mae gan y Gymraef fodern ei wreiddiau yn y Beibl ond dw i ddim am roi'r gorau i'w siarad oherwydd hynny!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Griff-Waunfach » Llun 10 Rhag 2007 6:35 pm

Macsen a ddywedodd: Mae gan y Gymraef fodern ei wreiddiau yn y Beibl ond dw i ddim am roi'r gorau i'w siarad oherwydd hynny!


A does neb yn dadlau y ddylet ti!

Ond mae defnyddio iaith yn hollol gwahanol i mwynhau gwyl? Cymryd be sy'n siwtio a cael gwared o'r darnau sydd ddim wrth ddant?

Mae Dawkins ddim yn gweld dim byd o'i le a chanu carolau sy'n moli Iesu fel fab i Dduw (yr un Dduw mae e yn dweud sy' ddim yn bodoli)?

(Er dwi'n siwr bod gwreithiau'r Gymraeg yn mynd nol cyn i'r Feibl. Efallai y ddylwn ni siarad Cymraeg cyn-1588 :winc: )
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Dyl mei » Iau 13 Rhag 2007 11:43 am

o nin gweld rhywun yn son am prawf hanesyddol bod iesu yn person go iawn, beth ydi y prawf yma?
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Postiogan rooney » Sad 22 Rhag 2007 11:18 pm

Mae Alistair McGrath wedi tynnu "God delusion" yn ddarnau yn ei lyfr "Dawkins Delusions". Microfeiolegydd a diwynyddwr Cristnogol yw McGrath, ac fe wneith pobl wirioneddol "freethinking" ddarllen ei lyfr ef, a llyfr David Robertson, a nid dim ond llyfr Dawkins...
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan rooney » Sad 22 Rhag 2007 11:21 pm

Griff-Waunfach a ddywedodd:Mae'n ymweld fel bod Dawkins yn ystyried eu hun yn "Cultural Christian" Bethbynnag mae hwna'n golygu...? Have your cake and eat it-ism dwi'n credu!


Mae'n gwthio syniad perygl iawn, sef y gall rhywun fod yn "Gristion" heb ffydd. Dim ffydd, dim bywyd tragwyddol, dim ots faint o garolau mae rhywun yn canu!
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron