The God Delusion

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

The God Delusion

Postiogan Mr Gasyth » Mer 14 Chw 2007 10:02 am

Unrhywun arall wedi darllen magnus opus Dawkins? Dwi tua hanner ffordd drwyddo, a tra nad oedd o erioed angen fy mherswadio a anfodolaeth Duw, yr hyn mae'r llyfr yn ei wneud yn wych ydi egluro pa mor wallgo ydi'r fath grediniaeth, nes fy mod yn ei chanfod yn anoddach ac anoddach dod i delerau a'r ffaith fod yna bobl sy'n dal i gredu. Byddai'n ddiddorol gwybod os oes Cristion wedi ei ddarllen a dod drwyddi heb gael ei ffydd wedi ei siglo.

Sgen i'm amser i dtrafod yn fanwl rwan, ond mi bostiai ambell i ddyfyniad neu sylw yma wrth i mi fynd ymlaen. Trueni na fuaswn wedi meddwl gwneud hynny o'r dechrau debyg.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Mer 14 Chw 2007 10:32 am

Mae na drafodaeth diddorol rhwng Sam Harris ac Andrew Sullivan fan hyn sy'n trafod rywfaint o waith Dawkins.

Dw i'n bersonol yn gweld rhai manteision i grefydd, ond dw i ddim yn gallu credu yn yr un ohonyn nhw. Heb wneud penderfyniad ymwybydol i dwyllo fy hun.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 14 Chw 2007 10:53 am

Dwi heb ei ddarllen, ond yn ystyried gwneud yn fuan. Y brif feirniadaeth ohono dwi wedi glywed gan Gristnogol yw ei fod yn dechrau ar ormod o rhagdyb wrth theistaidd yn hytrach na dechrau yn niwtral.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Mer 14 Chw 2007 11:28 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi heb ei ddarllen, ond yn ystyried gwneud yn fuan. Y brif feirniadaeth ohono dwi wedi glywed gan Gristnogol yw ei fod yn dechrau ar ormod o rhagdyb wrth theistaidd yn hytrach na dechrau yn niwtral.


Edrych ymlaen i'w drafod efo ti yma Rhys!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Gethin Ev » Mer 14 Chw 2007 11:31 am

Dwi di ddarllen o. Diddorol iawn, ella braidd yn drwm mewn mannau i'n ymenydd syml i.
Ond dwi yn cytuno hefo chdi Mr Gasyth. Mae o yn wir yn

fy mherswadio a anfodolaeth Duw, yr hyn mae'r llyfr yn ei wneud yn wych ydi egluro pa mor wallgo ydi'r fath grediniaeth, nes fy mod yn ei chanfod yn anoddach ac anoddach dod i delerau a'r ffaith fod yna bobl sy'n dal i gredu.


Dwi'n meddwl mai y rheswm mae o yn neud hynna Rhys ydi yn America mae bod yn Aethist yn weath 'na bod yn hoyw neu'n ddu, neu yn jew. Dwi'n meddwl bod on cwffio'i gornel o. Sydd digon teg ond yn dallt syt fysa fo yn gallu colli Christnogion middle ground.
".....then I would go to jail, I'd be buggered.......daily."
Rhithffurf defnyddiwr
Gethin Ev
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1248
Ymunwyd: Maw 15 Ebr 2003 10:02 am

Postiogan Mr Gasyth » Mer 14 Chw 2007 11:41 am

Cytuno Gethin, ma'n eitha hard-core ond mae'n rhaid iddo fod. Dwi'm yn meddwl base Dawkins yn adnabod y syniad o 'Gristion middle-ground'.

Yr hyn dwi di gael allan ohono fo fwya hyd yn hyn ydi sut mae gwyddoniaeth yn cynnig eglurhad gymaint symlach na'r Cread am ein bodoloaeth, er fod y Creawdwr ar yr olwg gynta yn ymddangos yn symlach.

Y rheswm am hyn ydi fod credu mewn Creawdwr er mwyn egluro'r pethau anhygoel o gymhleth sydd i'w cael ar y ddaear ac yn y bydsawd gyfan yn codi cwestiwn mwy cymhleth fyth. Oherwydd byddai rhaid i'r Creawdwr fod o leiaf mor gymhleth, ac yn debygol iawn yn fwy cymhleth, na'r hyn mae'n ei greu ac mae'n rhaid felly esbonio bodolaeth y Creawdwr. Mae hyn yn ein harwain i lawr llwybr di-ddiwedd sy'n mynd rownd mewn cylchoedd.

Yn fyr mae honi llaw Creawdwr yn codi mwy o gwestiynau na mae'n ateb. Nid all felly yn 'egluro' dim.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 14 Chw 2007 12:23 pm

Mr Gasyth a ddywedodd: Nid all felly yn 'egluro' dim.


Ond mae'n rhoi rheswm. Beth yw dy reswm di?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Mer 14 Chw 2007 12:26 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd: Nid all felly yn 'egluro' dim.


Ond mae'n rhoi rheswm. Beth yw dy reswm di?


Rheswm dros be?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Mer 14 Chw 2007 12:27 pm

Oes rhaid bod rheswm? Falle bod rhaid derbyn nad oes gan y ddynoliaeth unrhyw bwrpas yn anfertholdeb y fydolaeth gyfan, heblaw am ddifyrru ein gilydd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mr Gasyth » Mer 14 Chw 2007 1:16 pm

Macsen a ddywedodd:Oes rhaid bod rheswm? Falle bod rhaid derbyn nad oes gan y ddynoliaeth unrhyw bwrpas yn anfertholdeb y fydolaeth gyfan, heblaw am ddifyrru ein gilydd.


Gan gymryd mai dyma oedd cwestiwn Rhys yn cyfeirio ato, sef rheswm dros ein bodolaeth, yna mae'n syml. Rydan ni yma achos fod molwciwlau DNA wedi datblygu y gallu i atgynhyrchu eu hunain (digwyddodd hyn unwaith yn unig) a wedyn dros gyfnod o filiynau lawer o flynyddoedd wedi esblygu amrywiaeth eang o ffyrdd mwy a mwy cymhleth o sicrhau eu goroesiad a'u dyblygiad (canlyniad i nifer dirifedi o ddatblygiadau bychain iawn dros gyfnod hir iawn). Rydym ni, ynghyd a phopeth byw arall yn un o'r 'cerbydau' mae DNA yn ei ddefnyddio i sicrhau ei ddyblygiad ei hun. Ein pwrpas, y rheswm dros ein bodolaeth, yw i atgenhedlu cyn marw - a mae hynny'n ok efo fi hyd yn oed os dwi ddim yn hoff iawn o blant.

Ond tydi cael Duw fel rheswm dros ein bodoloaeth ddim yn ateb dim mwy o gwestiynau na mae ei ddefnyddio fel eglurhad. Os mai'r rheswm dros ein bodolaeth ydi fod Duw wedi ein creu, yne beth ydi'r rheswm dros iddo ein creu? A beth ydi'r rheswm dros fodolaeth Duw? Ydi o hefyd wedi ei greu gan rywyn arall i ryw bwrpas arbennig, ynteu ydi o'n bodoli jest er mwyn bodoli heb bwrpas uwch? Ac os fedri di gredu hyn am Dduw, pam na fedri di ei gredu amdanat ti dy hun?

Waeth bynnag be di'r cwestiwn tydi ateb 'Duw' ddim yn ateb, achos mae'r un cwestiwn yn codi eto yn ei gylch o.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai