The God Delusion

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mr Gasyth » Iau 03 Mai 2007 8:27 am

Wedi copio hwn o neges yn gynharach yn yr edefyn, gan ei fod yn perthnasol i pam fod gymaint o bobl ar draws yr oesoedd wedi credu.

Mr Gasyth a ddywedodd:Yn 'The God Delusion' mae Dawkins yn awgrymu esboniad posib arall dros esblygiad crefydd, sef nad oes ganddo bwrpas ynddo'i hun ond ei fod wedi dod i fodolaeth fel sgil-effaith i rywbeth arall sydd a phwrpas esblygol, sef gallu'r ddynoliaeth i ragweld bwriad.

Os ydw i'n dod wyneb yn wyneb a llew, mae o fudd i fy ngoroesiad i ragweld y bydd o bosib am fy mwyta a dechrau rhedeg i ffwrdd
cyn iddo wneud y bwriad yma yn amlwg drwy neidio amdanai. Rydym felly wedi ein cynllunio i weld bwriad ym mhopeth, ac o'r herwydd rydym yn ei chael hi'n anodd dygymod a phethau sydd heb fwriad. O ganlyniad rydym yn dynodi bwriad a phwrpas i bethau nad yw'n berthnasol, fel bodolaeth y byd a bywyd.

Ffenomeneon gysylltiol ydi ein tuedd i weld bywyd, ac yn arbennig bobl, mewn pethau di-fywyd. Enghreifftiau amlwg ydi'r ser (maharen, llew, arth, efeilliaid, heliwr, gafr...) a'r 'dyn' yn y lleuad. Sawl gwaith ydach chi wedi cerdded mewn i stafell a chamgymryd cysgod am leidr (gan-gwaith os da chi fel fi). Ydach chi'n gwybod am rywyn sydd wedi gweld cysgod ble mewn gwirionedd roedd lleidr - go brin, yn esblygol gallai'r fath gamgymeriad fod yn farwol. Yn yr un modd ag y byddwn yn dynodi nodweddion byw/bwriadol i ser, y lleuad a chysgodion - rydym hefyd wedi gwneud yr un peth i'r greadigaeth yn ei chyfanrwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Lôn Groes » Iau 03 Mai 2007 10:59 pm

Dylan a ddywedodd:
Mae Collins, er ei waith gwych gyda'r HGP, yn embaras llwyr pan mae'n dod at ei ffydd.


Ydi mae Francis Collins wedi gwneyd gwaith gwych gyda'r HGP ac wedi cael cydnabyddiaeth eang am hyn. A tydi'r ffaith ei fod o'n Gristion ddim wedi amharu ar ei waith o gwbwl ond yn hytrach wedi rhoi agoriad llygaid iddo i ryfeddodau'r greadigaeth.

'Ei ffydd yn embaras llwyr?' Twt lol. Wyt ti'n gwybod i sicrwydd? Embaras i pwy? Pwy sy'n dweyd hyn? Ai rhagfarn bersonol sydd yn cael ei ddatgan yma?

Dyma beth ddywed Francis Collins:

" So, some have asked, doesn't your brain explode? Can you both pursue an understanding of how life works using the tools of genetics and molecular biology, and worship a creator God? Aren't evolution and faith in God incompatible? Can a scientist believe in miracles like the resurrection?

Actually, I find no conflict here, and neither apparently do the 40 percent of working scientists who claim to be believers. Yes, evolution by descent from a common ancestor is clearly true. If there was any lingering doubt about the evidence from the fossil record, the study of DNA provides the strongest possible proof of our relatedness to all other living things.

I have found there is a wonderful harmony in the complementary truths of science and faith. The God of the Bible is also the God of the genome. God can be found in the cathedral or in the laboratory. By investigating God's majestic and awesome creation, science can actually be a means of worship."
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Postiogan Macsen » Iau 10 Mai 2007 1:44 pm

Dyma'r dyfyniad sy'n crynhoi fy mhroblem mawr i gyda crefydd dwi'n meddwl:

Martin Luther a ddywedodd:Faith must trample under foot all reason, sense, and understanding.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Foel Gornach » Maw 19 Meh 2007 10:34 am

Rydym yn byw yn oes y 'sound-bites'. Nid oedd Luther yn byw mewn oes tebyg. Rhaid cymryd datganiad fel yr uchod yn ei gyd-destun. Nid dweud oedd Luther na ddylid defnyddio'r rheswm, synnwyr a deall - yr oedd ef yn gwneud digon o ddefnydd ohonynt wrth iddo fynd i'r afael a llygriadau'r Eglwys Babyddol yn ei ddydd. Dweud y mae pan fo'r tri pheth a ddyfynnir yn cael eu dihysbyddu ac yn cyrraedd eu pen draw y mae Ffydd yn dal yno, ac felly yn gor-lywodraethu'r cyfan.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Postiogan Macsen » Maw 19 Meh 2007 11:06 am

Be mae o'n ei ddweud yw 'Peidiwch a gadael i synnwyr, rheswm a deall fynd yn ffordd ffydd dall, hyd yn oed pan y mae nhw'n dangos bod y ffydd dall yn anghywir.' Petai ef wedi cael ei ffordd fe fydden ni dal yn yr Oesoedd Tywyll.

Dwi'm yn ei feirniadu am ei ffydd wrth gwrs - roedd o'n ddyn o'i gyfnod wedi'r cwbwl. Beth sy'n poeni fi ydi bod pobol heddiw yn dal i gredu'r un fath.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dylan » Maw 19 Meh 2007 11:33 am

ac wrth gwrs fo ydi tad gwrth-Semitiaeth fodern
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Foel Gornach » Maw 19 Meh 2007 1:41 pm

Macsen a ddywedodd:' Petai ef wedi cael ei ffordd fe fydden ni dal yn yr Oesoedd Tywyll.


Cafodd Luther ei ffordd, yn rhannol - Y Diwygiad Protestannaidd a arweiniodd y ffordd i'r Aroleuo a thwf gwyddoniaeth, ymhlith llawer o fendithion eraill. Nid oedd 'gwrth-semitiaeth' ymhlith y bendithion hyn. Yn hyn o beth yr oedd Luther yn hynod o wallus, a chytunaf a phob beirniadaeth ohono yn y cyswllt hwn. Yr oedd beiau eraill amlwg yn perthyn iddo, ceisio creu fersiwn arall o grefydd sefydliadol oedd ei wendid mawr arall, ac yn ei ymdrech i wneud hynny gorchymyn yr uchelwyr i ladd y taeogion adeg eu gwrthryfel - nid yw yn un o'm harwyr.

Wedi gorffen darllen ‘The God Delusion’.

Rhai sylwadau cyffredinol:

Person hunan-dybus yw’r awdur, mae’n ddeallus ac mae’n gwybod hynny. Mae’n hynod o ddirmygus o’r ‘Cristnogion annysgedig’. Mae hyn yn rhywbeth sy’n amlwg ymhlith y gwyddonwyr gwrth-Gristnogol. Byddai ychydig o wyleidd-dra ar ei ran wedi helpu i ddileu’r rhwystredigaeth a deimlais wrth ddarllen. Llyfr oedd yn anodd i’w godi lan oedd hwn.

Mae ei ddadleuon yn hynod arwynebol; hen ddadleuon ydynt sydd wedi eu hail-wampio. Ychydig iawn o’r gyfrol, mewn gwirionedd, sy’n mynd i’r afael â ‘bodolaeth Duw’, rant gwrth-grefyddol yw’r gweddill sy’n anelu ei hun yn bennaf at Gristnogion.

Mae ei wybodaeth am hanes yr Eglwys a chynnwys y Beibl yn arswydus o ddiffygiol; mae llawer iawn o’i osodiadau yn ffeithiol anghywir. Byddech ddisgwyl i berson o’i allu ef astudio rhywfaint o’r pwnc y mae’n ymosod arno; mae’n amlwg nad yw wedi gwneud hynny – mae e jest yn cymryd yn ganiataol ei fod uwchlaw hynny.

Mae llawer iawn o’i feirniadaeth ar ‘grefydd sefydliadol’ yn dderbyniol yng ngolwg anghydffurfiwr o Gymro fel fi. Nid yw fel petai’n ymwybodol o’r ffaith bod yna filiynau o Gristnogion wedi bod yn beirniadu’r cysyniad o ‘grefydd sefydliadol’ ar hyd y canrifoedd, beirniadaeth sy’n rhedeg drwy’r Beibl i gyd – traddodiad y proffwydi.

Creu ‘caricature’ o ‘Gristnogaeth’ a wna, ac wedyn ymosod arno ac, yn ei dŷb ef, ei chwalu. Gallwn ninnau wneud hynny’n hawdd iawn gydag anffyddiaeth. Nid yw’n ychwanegu dim at y drafodaeth. Yr agwedd hon a wnaeth i’r Athro Michael Ruse o Adran Athroniaeth Prifysgol Florida i ddweud “The God Delusion makes me embarrassed to be an atheist”!
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Postiogan Macsen » Maw 19 Meh 2007 10:24 pm

Foel Gornach a ddywedodd:Wedi gorffen darllen ‘The God Delusion’.

A finnau, ychydig wythnosau yn ol.

Foel Gornach a ddywedodd:Mae ei ddadleuon yn hynod arwynebol; hen ddadleuon ydynt sydd wedi eu hail-wampio.

Digon teg, ond pam fyddai'r dadleuon yn erbyn crefydd yn newid pan nad yw crefydd wedi newid? Does dim o'i le ar hen ddadleuon, yn enwedig os nad oes ateb call iddyn nhw.

Foel Gornach a ddywedodd:rant gwrth-grefyddol yw’r gweddill sy’n anelu ei hun yn bennaf at Gristnogion.

Roeddwn i'n meddwl ei fod o'n anelu braidd at Gristnogaeth yn unig hefyd, ond rhaid derbyn mai dyna'r crefydd y mae mwya cyfarwydd a fo. Ac wrth gwrs dyna grefydd y mwyafrif o ddarllenwyr y llyfr.

Foel Gornach a ddywedodd:Mae ei wybodaeth am hanes yr Eglwys a chynnwys y Beibl yn arswydus o ddiffygiol; mae llawer iawn o’i osodiadau yn ffeithiol anghywir.

Oni'n meddwl hynny hefyd. Roedd ei ymosiadau ar rai darnau pendodol o'r Beibl yn aml yn dangos nad oedd o wedi darllen/deall y llyfr. Er engraifft pan mae'n son am stori Iesu ar y groes.

Dwi'n derbyn hefyd ei fod o'n dod drosodd braidd yn rhy gryf ac yn ymylu ar gasineb. Ond dwi'n meddwl ei fod yn teimlo'n gryf am ei bwnc, sy'n un pwysig dros ben heddiw ble mae ffwndamentaliaeth crrefyddol yn cael gymaint o effaith ar y byd, er gwaeth.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Boibrychan » Mer 20 Meh 2007 2:58 am

Macsen a ddywedodd:Digon teg, ond pam fyddai'r dadleuon yn erbyn crefydd yn newid pan nad yw crefydd wedi newid? Does dim o'i le ar hen ddadleuon, yn enwedig os nad oes ateb call iddyn nhw.


Yn union!

Casgliad o ddadleun arferol ydy'r llyfr, rhai o waith Dawkins a rhai o eraill.
Ffynhonell dda i chwilio am y dadleuon i gyd i rhywun sydd (fel fi ) heb ddarllen y llyfrau eraill i gyd. Does neb wedi dweud o mae'n llawn o syniadau newydd gwych, ond mae yn tynnu sylw i bethau fe, pa mor anghywir ydyl galw plant yn plant cristnogol, Iddeweg, Moselem a.y.y.b., a dwi'n cytuno gyda fe.

Dwi'n meddwl fod y ffaith bod pobl yn ei weld fel ymosodiad ar gristnogaeth yn dangos y sefyllfa afiach lle mae crefydd yn uwch na unrhyw farnau eraill.

Mae ei alwad am drefn yn yr anffyddwir e.e y brights er mwyn medru cael y grym gwleidyddol i ymladd yn erbyn syniadau crefyddol eithafol yn yr UDA yn enwedig, yn neges bwysig hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan Foel Gornach » Mer 20 Meh 2007 9:43 am

Boibrychan a ddywedodd:Does neb wedi dweud o mae'n llawn o syniadau newydd gwych, ond mae yn tynnu sylw i bethau fe, pa mor anghywir ydyl galw plant yn plant cristnogol, Iddeweg, Moselem a.y.y.b., a dwi'n cytuno gyda fe.


Finne'n cytuno ag ef. Nid dadl newydd yw hon, mae hi mor hen a'r Christnogaeth. Un o ddadleuon Iesu oedd nad yw cael ei eni i grefydd arbennig yn gwneud person yn aelod o'r grefydd honno. Yr ymadrodd sy'n crisialu hynny yw 'ail-enedigaeth'. Rhaid i'r unigolyn ddod i benderfyniad drosto'i hun.

Hyn oedd un o ddadleuon sylfaenol y Diwygiad Radical nol yn y 1530au; ac o'r diwygiad hwn y tarddodd anghydffurfiaeth Gymreig. Ymadrodd modern i gyfleu yr un syniad yw "Nid oes gan Dduw wyrion, dim ond plant".

Dyma enghraifft o anwybodaeth Dawkins. Mae llawer iawn o bethau y mae Dawkins yn eu dweud am grefydd sefydliadol wedi cael eu dweud ers canrifoedd gan anghydffurfwyr Cymreig. Byddai unrhyw un sy'n ymwybodol o'n traddodiadau ni yma yng Nghymru yn gwybod hynny. Mae'n drychineb enbyd bod trwch pobl Cymru yn gwybod y nesaf peth i ddim am eu traddodiadau eu hunain.

Crefydd sefydliadol sy'n mynnu fod y plant yn perthyn i grefydd y rhieni. Fel anghydffurfiwr credaf fod hynny yn beryglus o gamarweiniol.

Boibrychan a ddywedodd:Mae ei alwad am drefn yn yr anffyddwir e.e y brights er mwyn medru cael y grym gwleidyddol i ymladd yn erbyn syniadau crefyddol eithafol yn yr UDA yn enwedig, yn neges bwysig hefyd.

Mae hyn yr un mor beryglus a chael crefydd sefydliadol, a synnaf fod person sy'n dadlau yn erbyn cael un 'ideoleg' arbennig mewn grym ar yr un anadl yn dadlau dros roi 'ideoleg' arall mewn grym.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron