Macsen a ddywedodd:' Petai ef wedi cael ei ffordd fe fydden ni dal yn yr Oesoedd Tywyll.
Cafodd Luther ei ffordd, yn rhannol - Y Diwygiad Protestannaidd a arweiniodd y ffordd i'r Aroleuo a thwf gwyddoniaeth, ymhlith llawer o fendithion eraill. Nid oedd 'gwrth-semitiaeth' ymhlith y bendithion hyn. Yn hyn o beth yr oedd Luther yn hynod o wallus, a chytunaf a phob beirniadaeth ohono yn y cyswllt hwn. Yr oedd beiau eraill amlwg yn perthyn iddo, ceisio creu fersiwn arall o grefydd sefydliadol oedd ei wendid mawr arall, ac yn ei ymdrech i wneud hynny gorchymyn yr uchelwyr i ladd y taeogion adeg eu gwrthryfel - nid yw yn un o'm harwyr.
Wedi gorffen darllen ‘The God Delusion’.
Rhai sylwadau cyffredinol:
Person hunan-dybus yw’r awdur, mae’n ddeallus ac mae’n gwybod hynny. Mae’n hynod o ddirmygus o’r ‘Cristnogion annysgedig’. Mae hyn yn rhywbeth sy’n amlwg ymhlith y gwyddonwyr gwrth-Gristnogol. Byddai ychydig o wyleidd-dra ar ei ran wedi helpu i ddileu’r rhwystredigaeth a deimlais wrth ddarllen. Llyfr oedd yn anodd i’w godi lan oedd hwn.
Mae ei ddadleuon yn hynod arwynebol; hen ddadleuon ydynt sydd wedi eu hail-wampio. Ychydig iawn o’r gyfrol, mewn gwirionedd, sy’n mynd i’r afael â ‘bodolaeth Duw’, rant gwrth-grefyddol yw’r gweddill sy’n anelu ei hun yn bennaf at Gristnogion.
Mae ei wybodaeth am hanes yr Eglwys a chynnwys y Beibl yn arswydus o ddiffygiol; mae llawer iawn o’i osodiadau yn ffeithiol anghywir. Byddech ddisgwyl i berson o’i allu ef astudio rhywfaint o’r pwnc y mae’n ymosod arno; mae’n amlwg nad yw wedi gwneud hynny – mae e jest yn cymryd yn ganiataol ei fod uwchlaw hynny.
Mae llawer iawn o’i feirniadaeth ar ‘grefydd sefydliadol’ yn dderbyniol yng ngolwg anghydffurfiwr o Gymro fel fi. Nid yw fel petai’n ymwybodol o’r ffaith bod yna filiynau o Gristnogion wedi bod yn beirniadu’r cysyniad o ‘grefydd sefydliadol’ ar hyd y canrifoedd, beirniadaeth sy’n rhedeg drwy’r Beibl i gyd – traddodiad y proffwydi.
Creu ‘caricature’ o ‘Gristnogaeth’ a wna, ac wedyn ymosod arno ac, yn ei dŷb ef, ei chwalu. Gallwn ninnau wneud hynny’n hawdd iawn gydag anffyddiaeth. Nid yw’n ychwanegu dim at y drafodaeth. Yr agwedd hon a wnaeth i’r Athro Michael Ruse o Adran Athroniaeth Prifysgol Florida i ddweud “The God Delusion makes me embarrassed to be an atheist”!