The God Delusion

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Boibrychan » Mer 20 Meh 2007 12:31 pm

Foel Gornach a ddywedodd:
Boibrychan a ddywedodd:Mae ei alwad am drefn yn yr anffyddwir e.e y brights er mwyn medru cael y grym gwleidyddol i ymladd yn erbyn syniadau crefyddol eithafol yn yr UDA yn enwedig, yn neges bwysig hefyd.

Mae hyn yr un mor beryglus a chael crefydd sefydliadol, a synnaf fod person sy'n dadlau yn erbyn cael un 'ideoleg' arbennig mewn grym ar yr un anadl yn dadlau dros roi 'ideoleg' arall mewn grym.


Sori falle fod ti heb cweit ddeall be dwi'n feddwl fan hyn, mae'r cristnogion ffwndamentalaidd yn drefnus iawn yn America ac yn dal cryn ddipyn o rym , er enghraifft yn erbyn stem cells ac ati. Dwi'm yn golygu dyle parti anffyddwir gael ei greu er mwyn arddel ar grefydd na'm byd dwl felly, jest fod pobl gyda'r un ideoleg a'i gilydd yn cyfuno er mwyn ceisio trechu syniadau eithafol grefyddol peryglus.

Deall, neu dwi dal braidd yn aneglur?

Secilwriaeth a'r gym i fedru ymladd yn erbyn unrhyw ymhariaeth crefyddol mewn llywodraeth = da!
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan Dylan » Mer 20 Meh 2007 7:52 pm

na dydi dadleuon Dawkins ddim yn rhai newydd ar y cyfan. Ail-bobi'r hyn y dywedodd Bertrand Russell mae o ar y cyfan

ond be sydd o'i le ar hynny?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Foel Gornach » Iau 21 Meh 2007 9:13 am

Does dim oll o'i le ar hynny. Heblaw am y ffaith fod Dawkins a'i gyhoeddwyr wedi cyflwyno'r llyfr fel 'y gair olaf' yn y ddadl, heb gyfeirio unwaith at y ffaith taw ail-wampio Russell a wnaeth!!

Gyda llaw, daeth fy nhaid, oedd yn byw ym Mhorthmadog, i adnabod Bertrand Russell yn lled dda ddiwedd ei oes. Tyngai 'nhaid fod Russell wedi newid ei feddwl - ond dim ond ei air ef sydd gennyf am hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Postiogan Macsen » Iau 21 Meh 2007 9:20 am

Foel Gornach a ddywedodd:Tyngai 'nhaid fod Russell wedi newid ei feddwl - ond dim ond ei air ef sydd gennyf am hynny.

Cristnogion wrth eu bodd yn dweud hyn am bob anffyddiwr enowg tydyn? Dim rhyfedd bod Dawkins eisiau peiriant recordio wrth ei wely angau. :rolio:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Foel Gornach » Iau 21 Meh 2007 9:27 am

Nodi'r peth fel pwynt o ddiddordeb yn unig. Pwysleisiais taw dim ond ei air ef sydd gennyf. Nid wyf yn ei ddefnyddio fel rhan o'm dadl.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Postiogan Macsen » Iau 21 Meh 2007 9:38 am

Mi wnaeth Iesu ymwrthod a Christnogaeth a hoelio Jiwdas i'r groes yn ei le. Dim ond gair 1.2 biliwn o Fwslemiaid sy gen i ond mae'n bwynt diddorol serch hynny.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Foel Gornach » Iau 21 Meh 2007 10:25 am

Cytuno. Mae'n bwynt hynod o ddiddorol. Mae'r llu o ddamcaniaethau eraill am Iesu yn hynod o ddiddorol hefyd ac 'rwyf wrth fy modd yn chwilio i mewn iddynt i geisio deall y ffordd y mae pobl yn meddwl - nid wyf am ymwrthod yn ddogmataidd unrhyw 'dystiolaeth'.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Postiogan Macsen » Iau 21 Meh 2007 10:43 am

Mae'n ddiddorol ond ddim yn debygol - dwi'n ffeindio'r syniad bod Iesu wedi llwyddo i wneud yr hen 'switcheroo' a croesholeio Jiwdas yn ei le heb i neb sylwi yn fwy anhebygol, os rywbeth, na stori'r Beibl.

Anhebygol hefyd bod pob un o'r anffyddwyr enwog yma wedi edifarhau ar eu gwelyau agau fel mae Cristnogion yn hoff o honni.

Mae o jesd yn dangos sut bo straeon yma'n newid dros amser. Os yw'r Quran yn anghywir ac gyda 1.2 biliwn o ddilynwyr, sut alle'n ni fod yn sicr bod y Beibl a'i 2 biliwn o ddilynwyr ddim yn anghywir hefyd? Os yw anffyddiwr rhonc yn gallu cael ei droi'n Gristion gan chinese whispers o fewn blynyddoedd i'w farwolaeth sut mae modd rhoi ffydd hollol mewn cofnod hanesyddol sy'n honni ymyrraeth gorwuchnaturiol 2,000 o flynyddoedd yn ol.

Dw i ddim yn dweud bod dy dad-cu yn dweud porky pies gyda llaw - falle wir ei fod o'n credu bod Bertrand Russell wedi newid ei feddwl. Falle'r oedd Iesu'n credu mai ef oedd mab Duw, a Muhammed mai ef oedd ei proffwyd olaf Allah. Y pwynt yw bod cof a rhesymu dynion yn wallus.

Mi wnaeth fy ffrind ofyn i mi unwaith 'Pam wyt ti'n fodlon rhoi dy ffydd yn cofnod Julius Ceaser o'i frwydrau ydros Rufain ond ddim yn y Beibl? Mae'r ddau yn gofnod hanesyddol yr un mor ddilys.' Mi wnes i bwyntio allan bod cofnod Julius Ceaser yn llawn gwallau, propoganda erchyll yn erbyn y gelyn (eu bod nhw'n llosgi pobol mewn dynion wicer, er engraifft, oedd ddim yn wir), a straeon o derring doo oedd yno i godi morale yn hytrach nag cynrychioli'r gwir. Ac, wrth gwrs, yn llawn duwiau!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Foel Gornach » Sul 01 Gor 2007 5:25 pm

Macsen a ddywedodd:Mae'n ddiddorol ond ddim yn debygol - dwi'n ffeindio'r syniad bod Iesu wedi llwyddo i wneud yr hen 'switcheroo' a croesholeio Jiwdas yn ei le heb i neb sylwi yn fwy anhebygol, os rywbeth, na stori'r Beibl.

Cytuno eto. Yr hyn sy'n ddiddorol yw gweld fel mae'r sawl sy'n ysgrifennu yn dehongli yr hyn y sonia amdano. Yr hyn sy'n ddiddorol am waith Iwl Cesar yw'r modd y mae'n bychanu ei elynion ac yn ei ddyrchafu ei hun er mwyn hyrwyddo'i uchelgais personol a pholisi imperialaidd yr ymerodraeth ffiaidd y bu'n ei hyrwyddo.

Yn y Testament Newydd gwelwn y modd y gwnaeth unigolion a chymunedau Cristnogol ymateb i atgyfodiad Iesu, a hynny o fewn cenhedlaeth i'r digwyddiad.

Yn y safbwynt Mwslimaidd y cyfeiri ati fe welwn y modd y gwnaeth grym imperialaidd Islam wrthweithio grym imperialaidd 'Cristnogol' Byzantium yn y seithfed a'r wythfed ganrif. Er mwyn ennill brodorion y diriogaeth a fu'n Gristnogol hyd hynny rhaid oedd llunio propaganda i wawdio'r grefydd honno. Bu hynny'n hynod effeithiol, fel y mae'r un math o bropaganda gwrth-Gristnogol heddiw yn ddylanwadol iawn (fel y stwff a ddefnyddiwyd yn y 'da Vinci Code'), a hynny oherwydd anwybodaeth pobol yn gyffredinol. Wrth ystyried y cymhellion a amlygir ni ellir ond gwrthod a'r 'dystiolaeth' honedig.

Faint o Fwslimiaid yn gwmws sy'n derbyn y dehongliad hwn heddiw? Nid dyma fersiwn y Qu'ran - dywed hwnnw taw un 'tebyg i Iesu' a groeshoeliwyd yn ei le. Mae'n anhebyg fod yr holl Fwslimiaid yn derbyn y fersiwn Judasaidd o'r hanes.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Re: The God Delusion

Postiogan rooney » Sul 07 Hyd 2007 1:12 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Unrhywun arall wedi darllen magnus opus Dawkins? Dwi tua hanner ffordd drwyddo, a tra nad oedd o erioed angen fy mherswadio a anfodolaeth Duw, yr hyn mae'r llyfr yn ei wneud yn wych ydi egluro pa mor wallgo ydi'r fath grediniaeth, nes fy mod yn ei chanfod yn anoddach ac anoddach dod i delerau a'r ffaith fod yna bobl sy'n dal i gredu. Byddai'n ddiddorol gwybod os oes Cristion wedi ei ddarllen a dod drwyddi heb gael ei ffydd wedi ei siglo.


Mae'r llyfr yma'n chwerthinllyd, ac yn cryfhau ffydd un yn y Beibl. Mae'n amlwg nad yw Dawkins yn deall yr Hen Destament. Os yw Dawkins a'i debyg yn meddwl fod pobl am ddympio y Beibl, sy'n gwneud synnwyr perffaith o bopeth, a'i ddisodli gyda eglurhad hap a damwain o bopeth yna mae gen i ofn mae wedi methu.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron