The God Delusion
Postiwyd: Mer 14 Chw 2007 10:02 am
Unrhywun arall wedi darllen magnus opus Dawkins? Dwi tua hanner ffordd drwyddo, a tra nad oedd o erioed angen fy mherswadio a anfodolaeth Duw, yr hyn mae'r llyfr yn ei wneud yn wych ydi egluro pa mor wallgo ydi'r fath grediniaeth, nes fy mod yn ei chanfod yn anoddach ac anoddach dod i delerau a'r ffaith fod yna bobl sy'n dal i gredu. Byddai'n ddiddorol gwybod os oes Cristion wedi ei ddarllen a dod drwyddi heb gael ei ffydd wedi ei siglo.
Sgen i'm amser i dtrafod yn fanwl rwan, ond mi bostiai ambell i ddyfyniad neu sylw yma wrth i mi fynd ymlaen. Trueni na fuaswn wedi meddwl gwneud hynny o'r dechrau debyg.
Sgen i'm amser i dtrafod yn fanwl rwan, ond mi bostiai ambell i ddyfyniad neu sylw yma wrth i mi fynd ymlaen. Trueni na fuaswn wedi meddwl gwneud hynny o'r dechrau debyg.