Gwneud heb ...dros y Grawys

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re:

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 07 Chw 2008 11:47 am

Lôn Groes a ddywedodd:Mae'r Ysgrythur yn cyfeirio at ymprydio nifer o weithiau.


Cywir, ond nid er mwyn bod yn ddiben ynddo fe ei hun. Diben ympryd yn y TN yw neulltio dy hun i amser o weddi. Os nad wyt ti'n treulio'r amser bydde ti wedi bod yn bwyta siocled yn gweddio yna does dim diben, ysbrydol, i ti stopio bwyta siocled.

Mae'r Beibl yn dysgu yn glir nad ydy ympryd fod yn ffordd o "ddangos eich hun" ac eich bod i fod yn ymarferol ynglyn a'r peth:

Marc 2:18-20 a ddywedodd:18 Roedd disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio (hynny ydy, peidio bwyta am gyfnod er mwyn ceisio canolbwyntioín llwyr ar Dduw). Felly dyma rhyw bobl yn gofyn i Iesu, "Mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dydy dy ddisgyblion di ddim. Pam?"
19 Atebodd Iesu nhw, "Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i ymprydio! Maen nhw yno i ddathlu gydaír priodfab. Maen nhw yno i fwynhau eu hunain! 20 Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw'n ymprydio bryd hynny.


Hefyd:

Mth 6:16 a ddywedodd:16 "Pan fyddwch chi'n ymprydio, peidiwch gwneud i'ch hunain edrych yn drist er mwyn gwneud sioe; mae'r bobl sy'n gwneud hynny yn cuddio eu hwynebau er mwyn i bobl sylwi eu bod yn ymprydio. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw!


Dydw i ddim yn ymprydio unrhywbeth dros y grawys oherwydd dwi'n gwybod rhy dda na fydda i'n rhoi yr amser i fwy o weddi. Fe ddyliw ni mi wn, ond haws dweud na gwneud. Drwy fod yn onest am y peth o leia dwi ddim yn twyllo fy hun mewn modd ofergoulus, y math yr oedd Hen Rech Flin, bid siwr, yn cyfeirio ato.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gwneud heb ...dros y Grawys

Postiogan Muralitharan » Iau 07 Chw 2008 12:01 pm

Rhys,

Ofergoeledd? - diolch yn fawr!

Tydw i ddim yn gweld dy fod yn dweud unrhyw beth sy'n ddadl wirioneddol yn erbyn ymprydio neu ddangos disgyblaeth neilltuol. Sut wyt ti'n diffinio'r weithred o weddio felly? Allet ti dderbyn fod y weithred real a symbolaidd sy'n ganolog i ymprydio yn gallu bod yn ffurf ar weddi, gan fod y weithred ei hun yn weithred ymwybodol a phositif?

Dim ond gofyn.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Gwneud heb ...dros y Grawys

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 07 Chw 2008 12:20 pm

Muralitharan a ddywedodd:Tydw i ddim yn gweld dy fod yn dweud unrhyw beth sy'n ddadl wirioneddol yn erbyn ymprydio neu ddangos disgyblaeth neilltuol. Sut wyt ti'n diffinio'r weithred o weddio felly? Allet ti dderbyn fod y weithred real a symbolaidd sy'n ganolog i ymprydio yn gallu bod yn ffurf ar weddi, gan fod y weithred ei hun yn weithred ymwybodol a phositif?


Mi wyt ti'n iawn, esbonio fod ympryd yn withred Feiblaidd gywir wnes i ddim ceisio ei tan seilio. Sut mae diffinio Gweddi? Fe wnes i anerch ar y pwnc hwn rhai misoedd yn ôl fel maen digwydd dyma swmp yr hyn wnes i gasglu:

Beth yw Gweddi?

Prif gyfrwng i ddatblygu ein perthynas gyda Duw – neu yn fy achos i y prif gyfrwng sy'n cael ei esgeuluso fwyaf! Mae'n bwysig cofio mae rhan o berthynas fyw yw gweddi, nid defod farwaidd yw gweddi. Mae'n dweud yn Mathew 6:7 “Peidiwich â phentyru geiriau fel y mae'r paganiaid yn gwneud.” Mae'n bwysig cofio mae gweddio ar Dduw ydym ni – nid monolog bersonnol gyda ni ein hunain na chwaith ffordd o gyfathrebu gyda eraill yw gweddi ond cyfle i ni siarad gyda Duw.

Gweddio 'ar y Tad' Fe ddysgodd Iesu i ni weddio at 'ein Tad' felly mae'n gweddi ni at fod personnol y gallw ni uniaethu ag ef ddigon i gael sgwrs. Er mae 'ysbryd yw Duw' mae'r wedd dadol ohono yn golygu y gallw ni droi ato mewn gweddi bersonol gynnes-gariadus. Mae Iesu nid yn unig yn dweud wrthym weddio 'ein Tad' ond mae hefyd yn ychwanegu 'ein Tad yn y nefoedd'. Er y wedd bersonnol sydd i'r Tad mae ganddo rym nefol anferth na allw ni ddeall. Ar un llaw rydym yn siarad gyda Tad personnol ond mae'r tad personnol hwnnw hefyd yn greawdwr yr holl fydysawd. Mae'r ddeuoliaeth yma felly, y tad personnol a'r Duw holl-alluog, yn gwneud Duw yn arbennig ac mae'n rhyfeddol ein bod ni'n medru siarad ag ef trwy weddi.

Gweddio 'trwy'r Mab'. Iesu sy'n rhoi'r hawl i ni ddod at y Tad. Oherwydd ein cyflwr syrthiedig nid oes hawl gyda ni, de facto, i fynd at y Tad mewn gweddi. Yr unig ffordd allw ni fynd at y Tad yw 'trwy Iesu' ac yn ei 'enw ef.' Trwy farw ar y groes fe dynnodd Iesu'r hyn oedd yn gwahanu ni a'r Tad ymaith. Mae gwerth siec nid yn unig yn dibynnu ar y swm sydd arno ond mae'n dibynnu ar y llofnod sydd arno hefyd. Mae Iesu wedi rhoi i ni'r fraint o gael defnyddio ei enw a'i lofnod ef wrth fynd at Dduw. Dim ond ei lofnod ef wnaiff y tro.

Gweddio 'yn nerth yr ysbryd'. Mae gweddio yn annodd, ac mae Duw yn gwybod hynny felly nid yw wedi ein gadael ar ein penau ni ein hunain. Mae'r ysbryd glan yn byw ynom ni ac mae'n ein cynorthwyo i weddio. OND nid yn unig ei fod yn ein cynorthwyo i weddio ond mae hefyd yn ymbil ar Dduw ar ein rhan.

Pam Gweddio?

Mae gweddio yn hanfodol i'r Cristion – dyma'r pennaf ffordd o ddatblygu ein perthynas a Duw. OND byddai rhai pobl yn dadlau nad oes angen dweud pethau wrth y Duw holl wybodus gan ei fod yn gwybod popeth yn barod, mae'n gwybod beth yw ein anghenion. Mae meddwl fel yna yn dangos dealltwriaeth eitha dennau o weddi oherwydd mae yna fwy i weddi na rhestru gofynnion. Mae sawl gwedd arall i weddi gan gynnwys diolchgarwch, mawl, addoliad, cyffesu a gwrando hyd yn oed. Yr ail reswm dros weddio yw'r ffaith fod Iesu ei hun yn gweddio ac mae'n dysgu ni i wneud run peth. Yn drydydd, mae Gweddi yn ein newid ni oherwydd fod Duw yn ateb gweddiau. Mae gweld gweddiau yn cael eu hateb yn atgyfnerthu ein ffydd er fod siniciaid seciwlar yn wfftio hyn fel cyd-ddigwyddiadau ar hap.

Ydy Duw yn ateb gweddiau bob tro?

Mae Iesu yn dweud yn y Bregeth ar y Mynydd yn Mathew 7:7-8 “Gofynnwch, ac fe roddir... Ceisiwch, ac fe gewch... Curwch, ac fe agorir... mae pawb sy'n gofyn yn derbyn a'r sawl sy'n ceisio yn cael.” Mae addewid Iesu yn ddigon cadarn a ddigon clir yn y fan yna sef bod Duw yn gwrando ac yn ateb gweddiau. Ond wrth edrych ar rannau eraill o'r Beibl daw'n ddigon clir pam nad yw Duw yn rhoi i ni bopeth dy ni'n gofyn amdano mewn gweddi. Mae pechod yn medru sefyll yn ffordd gweddi – pechod nad ydym wedi ei gyffesu gerbron Duw eto o bosib? Ni fydd Duw yn ateb gweddiau pobl nad sydd mewn perthynas ag ef. Mae'n wir ac yn bosib fod Duw, trwy ei ras, yn ateb Gweddi rhywun nad sy'n credu ond ni ddylai'r anghredadun ddisgwyl na hawlio hynny gan Dduw. Nid dim ond pobl sy ddim yn credu sy'n teimlo Duw yn bell a ddim yn ateb gweddiau. Maddeuant Iesu ar y Groes sydd yn ein galluogi i gael perthynas gyda Duw ac mae'n bosib i Gristion hyd yn oed anghofio mae dyna yw sail ei berthynas a Duw. Rhaid atgoffa ein hunain o hynny wrth ddod at Dduw mewn gweddi. Rhaid adnabod beth sydd wedi sawru ein pethynas gyda Duw er mwyn delio a hynny er mwyn dod at Dduw eto mewn gweddi go-iawn. Gall cymhellion anghywir esbonio methiant Duw i ateb gweddi hefyd. Mae Duw yn medru barnnu yn well na ni beth sy'n dda i ni. Nid yw Duw yn ateb gweddiau sy'n gofyn am geir newydd cyflym oherwydd mae Duw yn gwybod nad oes angen y fath beth arnom!

Fel rheol bydd Duw yn rhoi ateb positif neu negyddol i weddi OND weithiau yr ateb bydd “arhoswch.” Gall ein gweddi a'n cymhelliad fod yn gwbl gywir ond ran ateb y weddi Duw sy'n gwybod orau pryd fydd yr amser iawn i ateb y weddi. Fe ddywedodd Ruth Graham (gwraig Billy Greham) ei bod hi'n faclh bod Duw ddim yn ateb pobl gweddi ar unwaith neu fe fyddai hi wedi priodi'r gŵr anghywir sawl gwaith!! Y gorau y dawn i adnabod Duw y gorau y dawn i ddeall amseriad ei ewyllys.

Sut mae Gweddio?

Nid oes un ffordd 'iawn' o weddio a hynny yn bennaf oherwydd mae rhywbeth personnol rhyngo chi a Duw ydyw. Ond mae yna bedair elfen a ddylai fod yn rhan o weddi. Nid pob un bob tro ym mhob gweddi o'r rheidrwydd ond ar ryw bwynt dylai rhain oll gael sylw mewn gweddi.

1.Mawl: moli a diolch i Dduw am bwy yw e a beth mae e wedi neud.

2.Cyffes: Gofyn am faddeuant Duw am bopeth dy ni wedi neud yn anghywir.

3.Diolchgarwch: am iechyd, teulu, ffrindiau a phethau materol fel bwyd a chartref.

4.Ymbilio: dros rai fel ein cyfeillion sy'n mynd drwy amser anodd neu ffrindiau nad sydd eto yn adnabod Duw. Ymbilio dros sefyllfaoedd annodd mewn gwledydd tlawd – gwaith elusennau fel Tearfund.

Pryd dylid gweddio?

Mae'r Beibl yn dweud wrthym ni weddio yn “ddi baid.” Nid oes rhaid i ni fod mewn lle arbennig ar amser arbennig i weddio. Ond wedi dweud hynny mae'n bwysig neulltio amser penodol bob hyn a hyn i ganolbwyntio ar weddi – peth cynta yn bore o bosib? Mae'n bwysig gweddio o bryd i'w gilydd gydag eraill a hynny, unwaith eto, oherwydd ei fod yn fodel sydd yn y Beibl. - Mae'n beth brawychus i neud i ddechrau ond mae'n fendith mawr yn y diwedd. Gweddi sydd wrth galon Cristnogaeth achos calon Cristnogaeth yw perthynas da Duw.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Re:

Postiogan Lôn Groes » Llun 11 Chw 2008 7:13 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dydw i ddim yn ymprydio unrhywbeth dros y grawys oherwydd dwi'n gwybod rhy dda na fydda i'n rhoi yr amser i fwy o weddi. Fe ddyliw ni mi wn, ond haws dweud na gwneud. Drwy fod yn onest am y peth o leia dwi ddim yn twyllo fy hun mewn modd ofergoulus, y math yr oedd Hen Rech Flin, bid siwr, yn cyfeirio ato.


Wyt ti'n cymeradwyo inni ddilyn buchedd Rhys Llwyd dros y Grawys felly?
Os mai glythineb yw fy ngwendid gwell gweddio mwy na bwyta'n gymhedrol?
Os mai llymeitian yw fy mai gwell fuasai imi weddio mwy nag yfed llai?
Os mai defnyddio geiriau anweddus yw fy ngwendid yna gwell fuasai imi weddio mwy na glanhau fy ymadrodd?

Mae'r Efengyl yn glir ynglyn a'r Iesu yn ymprydio (gwneud heb fwyd) ac ar ddiwedd y deugain nydd fe roedd yn eitha newynog hefyd.(Mathew 4)
Bid siwr ei fod o'n gweddio ond fedrai ddim gweld yn unman ple mae'n dweyd bod gweddio yn bwysicach ar yr achlysur hwn. Beth sydd o'i le felly efo gwneud y ddau yr un pryd?
Sut mae gwneud 'heb rhywbeth' yn ystod y Grawys yn peri iti feddwl am ofergoeliaeth? Wedi'r cyfan hwyrach bod y cymhelliad y tu ôl iddo yn dda ac yn ddidwyll :(
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron