'Da chi 'di darllen y Beibl?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydach chi wedi darllen y Beibl?

Ydw
9
53%
Nac ydw
8
47%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 17

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 13 Ebr 2007 1:47 pm

Macsen a ddywedodd:"And he went up from thence unto Bethel: and as he was going up by the way, there came forth little children out of the city, and mocked him, and said unto him, Go up, thou bald head; go up, thou bald head. And he turned back, and looked on them, and cursed them in The Name of The Lord. And there came forth two she bears out of the wood, and tare forty and two children of them. And he went from thence to mount Carmel, and from thence he returned to Samaria." (2 Kings 2:23-25 KJV)

Mae'r llinell olaf nonchalant yn gwneud y cyflafan duw o 42 o blant bach yn fwy doniol byth.


Dyma fy hoff ran o'r Beibl. Hoffwn petai Duw yn ymyrryd yn amlach i arbed moel-ddynion rhag cael eu gwawdio.

Fel arall, na dwi heb ei ddarllen drwyddo, ond fues i'n mynd i'r Ysgol Sul yn ddigon hir i fod yn gyfarwydd a rhannau helaeth ohono. Fyddai'n hoff iawn o'i ddyfynu ar adegau priodol. Yn sicir, mae'n waith llenyddol penigamp sy'n cynnwys straeon bron cystal a'r Mabinogi - jest bechod ei fod wedi ei hijacio gan Gristnogion :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Sul 15 Ebr 2007 4:33 pm

Wedi dechrau lawer gwaith - felly wedi darllen Genesis ag Exodus lawer o weithiau, ond heb wedi gorffen y thing.

Hyd yn oed wedi trio'i ddarllen yn fersiwn "Testament" a gyhoeddwyd gan Continuum yn 2004 (yn defnyddio version y Revised English Version, sydd debyg mewn safon lenyddol i BCN 1988), sy'n cadw'r straeon hanesyddol, ond yn dileu llawer o'r ailadrodd ac yn talfyrru'r llyfrau "llenyddol" fel y Salmau a'r proffwydi. Ond dal di stopio rylwe 'nghanol y Brenhinoedd.

Mae gen i ryw grap ar y "stori fawr" erbyn hyn, ond dwi'n meddwl fod hynny gymaint i wneud efo darllen llyfrau fel "Jesus and the Victory of God" gan NT Wright - wedi medru darllen hwnnw, rywsut, a hwnnw tua 600 tudalen, ond methu darllen y beibl.

Go, fel y dywedir, ffigar.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan Hen Rech Flin » Llun 16 Ebr 2007 2:15 am

Rwyf wedi darlen y Beibl Cymraeg Newydd a'r New English Bible o glawr i glawr. Rwyf hefyd wedi darllen y cyfan o'r cyfieithiadau awdurdodedig yn y ddwy iaith ond nid o glawr i glawr. Yn hytrach trwy ddefyddio "plan" a gyhoeddwyd gan y Fudiad Efengylaidd (rwy'n credu) oedd yn awgrymu wahanol darnau o'r Beibl i'w cyd darllen.

O'r ddwy ffordd o ddarllen roedd llawer gwell gennyf y fordd rhesymegol o ddechrau ar dudalen 1 a dal ati o dudalen i dudalen
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Macsen » Llun 16 Ebr 2007 10:01 am

Diddorol bod gymaint wedi ei chael hi'n anodd darllen llyfr cwbwl berffaith wedi ei hysgrifennu gan Dduw ei hun.

Newydd fod yn darllen Paradise Lost a mae hwnna'n esbonio Genesis lot gwell! Yn bennaf am ei fod o'n rhoi dau ochor y ddadl dim jesd ochor Duw o bethe. Dwi'n siwr y byddai lot o genedlaetholwyr Cymraeg eisiau bod yn "free, and to none accountable, preferring hard liberty before the easy yoke of servile pomp."
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dewi Lodge » Llun 16 Ebr 2007 12:25 pm

Dwi di darllen yr Hen Destament i gyd unwaith ar Testament Newydd dwywaith.

Nes i ddefnyddio cynllun darllen sy'n golygu fod rhywun yn medru mynd trwy'r Hen unwaith a'r Newydd dwywaith mewn blwyddyn gron trwy ddarllen 3-6 pennod y diwrnod, sef 1-2 bennod o Genesis-Job, 1-2 bennod o'r Salmau i ddiwedd yr Hen, ag 1-2 bennod o'r Newydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Lodge
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 293
Ymunwyd: Mer 28 Medi 2005 11:52 am
Lleoliad: Pwllheli

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron