'Da chi 'di darllen y Beibl?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydach chi wedi darllen y Beibl?

Ydw
9
53%
Nac ydw
8
47%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 17

'Da chi 'di darllen y Beibl?

Postiogan Manon » Gwe 13 Ebr 2007 7:54 am

Mi 'dwi wedi penderfynu'n ddiweddar fy mod i am gael go ar ddarllen y Beibl, er nad ydw i'n Gristion. Wedi'r cyfan, dyma'r llyfr mwya' adnabyddus yn y byd, a 'swn i'n licio gweld beth ydi fy ymateb emosiynol i iddo. Ar hyn o bryd, 'dwi'n meddwl bod o'n chwip o stori dda (ond 'dwi mond ar Arch Noa. Os wnai bara', 'sa'm deud!)

O ran diddordeb, pwy o'r maes sydd wedi darllen y Beibl o glawr i glawr?
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 13 Ebr 2007 8:00 am

Dydw i heb ddarllen y Beibl o glawr i glawr a rhaid mi gyfaddef (sy'n beth mawr i Gristion o argyhoeddiad a myfyriwr ymchwil diwinyddiaeth!) bod rhannau helaeth o'r hen destament yn dra anghyfarwydd i mi :wps:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Gwe 13 Ebr 2007 8:21 am

Rydw i wedi ei ddarllen o glawr i glawr. Mae'n werth gwneud oherwydd bod mwyafrif diwylliant Ewrop wedi ei seilio arno rywsut neu'i gilydd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 13 Ebr 2007 8:37 am

Dwi heb darllen y cyfan chwaith, dwi'n pori ynddo o dro i'w gilydd
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Sili » Gwe 13 Ebr 2007 9:12 am

Nesi ddarllen yr hen destament i gyd (mwy ne lai) yn blwyddyn 11 yn ysgol pan oni'n chwara efo'r syniad o neud comic strips efo ongl dywyll modern allan o rhei o'r straeon ar gyfer project celf TGAU. Er nad ydwi'n cyfri'n hyn yn Gristion, nesi ffeinio'r hen destament yn ddifyr ofnadwy.

Dwi di darllan y 'Beibl i Blant' i gyd drwodd nifer o weithia pan oni'n fach os di hynna'n cyfri? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Boibrychan » Gwe 13 Ebr 2007 10:11 am

Sili a ddywedodd:Dwi di darllan y 'Beibl i Blant' i gyd drwodd nifer o weithia pan oni'n fach os di hynna'n cyfri?


Dyna fy sail i am ddweud fy mod wedi darllen o, wel pan yn blentyn a gan fy mod ddim eisiau ei ddarllen falle fod o ddim yn cyfri!

Straeon go dda ond mae'r negeseuon sy'n dod allan o'r hen destament yn medru bod yn arswydus.

Fel ddywedoddd Churchill; (dim cweit dyfyniad) bod Duw yn ymddangos fel dyn reit gas yn yr hen destament (dwi'm yn siwr ond "bit of a shit" oedd ei eiriau falle?)

Mae'r testament newydd yn eistedd yn lot hapusach gyda fi, heblaw ei fod yn llai cyffrous! Negeseuon da am sut i drin dy gyd ddyn ac ati sydd wedi'n wirioneddol cael effaith arna i.

Falle ddylsen i ddarllen e eto fel oedolyn nawr a gweld agendau y bobl olygodd y llyfr yn dod i'r wyneb.
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 13 Ebr 2007 10:50 am

Fu imi ddarllen Hen Destament Beibl y Plant pan yn iau, o'r chyntaf dudalen o'r olaf, mi gofiaf hynny, ond gwnes i ddim darllen y Testament Newydd, ar y sail nad oedd y lluniau 'run mor ddiddorol.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan sian » Gwe 13 Ebr 2007 12:14 pm

Dw i ddim wedi ei ddarllen o glawr i glawr chwaith - dw i wedi treio ddwywaith neu dair ond bob amser yn mynd yn styc tua Lefiticus neu Numeri. Os wyt ti am daclo'r rhain, dw i'n meddwl bod angen rhyw fath o lyfr â mapiau aballu arnot ti i ddangos lle'r oedd y llwythau ac ati. Mae Lion yn gwneud rhai eitha da.
Mae'n gallu bod yn ysgafnach darllen y llyfrau hanes ar ddechrau'r Beibl, ochr yn ochr â'r Salmau a'r Testament Newydd - neu hyd yn oed ddechrau gyda'r Testament Newydd.
Mae darllen fersiwn ddiweddar yn help hefyd.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan nicdafis » Gwe 13 Ebr 2007 1:02 pm

Ddim wedi mynd trwyddo, ond dw i'n cyfarwydd â'r rhan fwya o'r hen lyfr. Fel mae Dawkins yn mynnu, sdim angen bod yn Gristion i werthfawrogi mawredd y Beibl yn ein diwylliant ni.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Gwe 13 Ebr 2007 1:19 pm

Y peth gora am ddarllen y Beibl drwyddo yn ddyn ifanc yw darganfod yr holl rannau doedd y pregethwr ddim eisiau i ti weld.

Dwi'n cofio cyraedd Song of Solomon (yn Seasneg wnes i ddarllen y Beibl drwyddo) a meddwl 'Blincyn ec, doedd y pregethwr ddim yn darllen hwn yn y capal!'

"Thy two breasts are like two young roes that are twins, which feed among the lilies." Nice.

A'r rhan yma wrth gwrs:

"And he went up from thence unto Bethel: and as he was going up by the way, there came forth little children out of the city, and mocked him, and said unto him, Go up, thou bald head; go up, thou bald head. And he turned back, and looked on them, and cursed them in The Name of The Lord. And there came forth two she bears out of the wood, and tare forty and two children of them. And he went from thence to mount Carmel, and from thence he returned to Samaria." (2 Kings 2:23-25 KJV)

Mae'r llinell olaf nonchalant yn gwneud y cyflafan duw o 42 o blant bach yn fwy doniol byth.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron