Mae gen i brofiad o'r "broblem" 'ma, yn anffodus. Roedd fy nhad yn anfyddiwr, mae Mam, a'r rhan fwya o'r teulu, yn gapelwyr. Oedd fy nhad wedi gofyn i fi, rhyw flwyddyn cyn iddo fe farw, i wneud yn siwr nad oedd ei angladd yn y capel, ond doedd e ddim wedi dweud wrtha i wedyn ei fod e wedi trafod yr un peth gyda fy mam. Doedd e ddim yn broblem o gwbl yn y diwedd. Cawson ni gyfarfod yn yr amlosgfa, arweiniwyd gan weinidog capel fy mam, ond heb elfen crefyddol i'r "gwasanaeth". Bach o hoff gerddoriaeth yr hen foi (nid "Sympathy for the Devil", yn anffodus - ces i fy owtfôto), cwpl o ddarnau darllen.
Dw i'n falch iawn wnaethon ni hyn. Doedd neb yn y teulu yn ei weld e o'r chwith, gan nabod fy nhad. Cafodd fy mam gefnogaeth aruthrol gan aelodau'r capel, a chawson ni'r <i>byn ffeit</i> nôl yn y festri 'na.
Dw i'n cytuno â Dylan i ryw raddau - os dwyt ti ddim yn credu, ond mae'r teulu yn, wedyn beth yw'r ots? Ond yn y pendraw, fel dwedodd HRF, mae'n well cofio'r person fel yr ydoedd.
Es i i angladd dynol (? - sori, <i>humanist</i>) i Gymraes, ond doedd y gweinidog yna ddim yn gallu atal ei hunan rhag sôn am y nefoedd a'r ôl-fywyd doedd fy ffrind ddim yn credu ynddyn nhw. Wnaeth e bron â bod yn datgan "wel, mae hi'n gwybod ei bod hi'n rong nawr". Ouch.