Dydw i ddim yn grefyddol o gwbl, felly yn hynny o beth ni fyddaf yn dymuno gwasanaeth grefyddol yn fy angladd i.
Eto i gyd, onid er diben y sawl fyddai'n galaru amdana i (gan gymryd bydd rhywun yn rhywle yn gweld fy ngholli) y byddai'r angladd i fod?
hynny ydi, y cwestiwn ydi os ydi'r rhan fwya o'r galarwyr am weld isio angladd grefyddol, pwy ydw i i wrthwynebu? Os ydi o'n gysur iddyn nhw, hwre? Ddim fel petai bydd gen i fawr o ots am y peth. Fydda i 'di marw!
ond i gynnig ateb, dw i dal am fod yn styfnig a mynnu gwasanaeth seciwlar be bynnag. Hunanol? Wel fy angladd i fyddai o wedi'r cyfan, a dw i ddim yn meddwl mod i'n dymuno i grefydd baentio'r modd y bydd pobl yn cofio amdana i. A be bynnag dydi fy nheulu i ddim yn arbennig o grefyddol. Ond i'r anghredinwyr sy'n leisiau unig mewn teuluoedd ffyddlon, mae'n siwr ei fod yn gwestiwn mwy dyrys.