Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 2:25 pm
gan nicdafis
Mae gen i brofiad o'r "broblem" 'ma, yn anffodus. Roedd fy nhad yn anfyddiwr, mae Mam, a'r rhan fwya o'r teulu, yn gapelwyr. Oedd fy nhad wedi gofyn i fi, rhyw flwyddyn cyn iddo fe farw, i wneud yn siwr nad oedd ei angladd yn y capel, ond doedd e ddim wedi dweud wrtha i wedyn ei fod e wedi trafod yr un peth gyda fy mam. Doedd e ddim yn broblem o gwbl yn y diwedd. Cawson ni gyfarfod yn yr amlosgfa, arweiniwyd gan weinidog capel fy mam, ond heb elfen crefyddol i'r "gwasanaeth". Bach o hoff gerddoriaeth yr hen foi (nid "Sympathy for the Devil", yn anffodus - ces i fy owtfôto), cwpl o ddarnau darllen.

Dw i'n falch iawn wnaethon ni hyn. Doedd neb yn y teulu yn ei weld e o'r chwith, gan nabod fy nhad. Cafodd fy mam gefnogaeth aruthrol gan aelodau'r capel, a chawson ni'r <i>byn ffeit</i> nôl yn y festri 'na.

Dw i'n cytuno â Dylan i ryw raddau - os dwyt ti ddim yn credu, ond mae'r teulu yn, wedyn beth yw'r ots? Ond yn y pendraw, fel dwedodd HRF, mae'n well cofio'r person fel yr ydoedd.

Es i i angladd dynol (? - sori, <i>humanist</i>) i Gymraes, ond doedd y gweinidog yna ddim yn gallu atal ei hunan rhag sôn am y nefoedd a'r ôl-fywyd doedd fy ffrind ddim yn credu ynddyn nhw. Wnaeth e bron â bod yn datgan "wel, mae hi'n gwybod ei bod hi'n rong nawr". Ouch.

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 6:34 pm
gan Dylan
nicdafis a ddywedodd:Es i i angladd dynol (? - sori, <i>humanist</i>) i Gymraes, ond doedd y gweinidog yna ddim yn gallu atal ei hunan rhag sôn am y nefoedd a'r ôl-fywyd doedd fy ffrind ddim yn credu ynddyn nhw. Wnaeth e bron â bod yn datgan "wel, mae hi'n gwybod ei bod hi'n rong nawr". Ouch.


bron â gwneud i rhywun ddymuno bod ôl-fywyd, hyd yn oed jyst am ddau funud, dim ond er mwyn cael cyfle i roi un slap olaf i'r pwdryn. Mae hwnna'n anfaddeuol.

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 6:35 pm
gan Sili
Macsen a ddywedodd:Mae'n werth cofio mai nid yn unig angladdau a priodasau cristnogol yw'r rhain ond rhai Cymreig hefyd, a dylen ni ddim taflu babi ein diwylliant ni allan gyda dwr bath crefydd.


Dyma'r union reswm pam y byddwn innau isio angladd 'Cristnogol' yn hytrach nac un di-grefydd er nad ydwi wir yn grefyddol o gwbwl. Dwi di bod mewn llond llaw o angladdau hen berthnasau a ffrindiau teulu a ma na wastad rwbath reit gysurus yn y ffaith fod y seremoni yn cael ei gynnal mewn capel fach wledig a fod y gynulleidfa i gyd yn medru canu'r emynnau a harmoneiddio heb fod gofyn gwneud :)

Dwi'n ama y byddai'n teimlo'n chwithig iawn ar fy nheulu, yn enwedig ochr fy mam a hwnnw a'i wreiddiau yn y Gogledd a pawb wastad wedi bod yn Gristion, os fasa nhw'n gorfod cynnal angladd i mi a hwnnw'n un seciwlar. Rhwydd hynt rhoi 'spin' dy hun ar betha os tisio, ond os nad ydwi yno, dwi wir ddim yn poeni llawer yn y bon. Cyn belled fod neb yn galaru a phawb yno i ddathlu fy mywyd th'gwrs.

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 6:40 pm
gan Dylan
Sili a ddywedodd: Dwi di bod mewn llond llaw o angladdau hen berthnasau a ffrindiau teulu a ma na wastad rwbath reit gysurus yn y ffaith fod y seremoni yn cael ei gynnal mewn capel fach wledig a fod y gynulleidfa i gyd yn medru canu'r emynnau a harmoneiddio heb fod gofyn gwneud :)


Ond mae modd gwneud hynny heb y stwff am fywyd tragwyddol a Duw a ballu. Be sy'n stopio pawb rhag jyst cael sing-song bach neis am ba mor wych a lyfli on i? (paid ag ateb hwnna :P )

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 7:48 pm
gan Mr Gasyth
Dylan a ddywedodd:
Sili a ddywedodd: Dwi di bod mewn llond llaw o angladdau hen berthnasau a ffrindiau teulu a ma na wastad rwbath reit gysurus yn y ffaith fod y seremoni yn cael ei gynnal mewn capel fach wledig a fod y gynulleidfa i gyd yn medru canu'r emynnau a harmoneiddio heb fod gofyn gwneud :)


Ond mae modd gwneud hynny heb y stwff am fywyd tragwyddol a Duw a ballu. Be sy'n stopio pawb rhag jyst cael sing-song bach neis am ba mor wych a lyfli on i? (paid ag ateb hwnna :P )


Pa mor 'accomodating' mae gweinidogion yn fodlon bod sgwnni o ran peidio son ormod am Dduw a ballu, cyn deud wrth yr anghredinwyr druan am ffyc off!

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 7:51 pm
gan Dylan
wel dyna ni felly de. Llogi adeilad cyffredin amdani.

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 9:25 pm
gan Sili
Dylan a ddywedodd:wel dyna ni felly de. Llogi adeilad cyffredin amdani.


Onid 'wake' (be di hynna'n Gymraeg dwch?) fyddai hynny yn hytrach nac angladd? Be fydda ti'n ddisgwl i ddigwydd i dy gorff yn y cyfamser yn hytrach na'i gadw dan do'r eglwys/capel?

A wedyn mae angen cysidro lle fysa ti'n cael dy gladdu (os nad sgen ti fawr o ffansi cael dy losgi) os am droi cefn ar yr angladd Gristnogol arferol? Nesi ffeindio'r wefan yma odd yn son am drefnu angladdau tu allan i'r egwlys/capel. Dipyn o syniadau diddorol yma!

PostioPostiwyd: Gwe 11 Mai 2007 1:22 pm
gan Boibrychan
Sili a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:wel dyna ni felly de. Llogi adeilad cyffredin amdani.


Onid 'wake' (be di hynna'n Gymraeg dwch?) fyddai hynny yn hytrach nac angladd? Be fydda ti'n ddisgwl i ddigwydd i dy gorff yn y cyfamser yn hytrach na'i gadw dan do'r eglwys/capel?

A wedyn mae angen cysidro lle fysa ti'n cael dy gladdu (os nad sgen ti fawr o ffansi cael dy losgi) os am droi cefn ar yr angladd Gristnogol arferol? Nesi ffeindio'r wefan yma odd yn son am drefnu angladdau tu allan i'r egwlys/capel. Dipyn o syniadau diddorol yma!


Dim ond 20 angladd ar y mor bob blwyddyn? Neb llawer yn ffansio bod yn fwyd pysgod? Ai ddim jyst mwydod mawr yw llyswennod?

Dim i fi yn bersonnol, hoffwn i gael garreg bedd er "posterity", oes rhaid cael angladd crefyddol er mwyn cael claddu mewn mynwent?