rabscaliwn a ddywedodd:Mae'n bosib erthylu hyd 24 wythnos pan ma'r babi nid yn unig wedi ffurfio, ond bellach a gobaith dda o fywyd petai'n cael ei eni ar y pwynt hwnnw. Clwmp o gelloedd wir.
Dwi'm yn meddwl fod hi'n deg diystyru pwynt Dylan fel 'ma. Wrth gwrs fod hi'n bosib erthylu hyd at pedair ar hugain wythnos ar hyn o bryd, a fod na bellach rhyw siawns o 75% y gellith y baban fyw efo'r driniaeth feddygol iawn erbyn y cyfnod yma. Ond grwp o gelloedd
ydi'r hyn sy'n bodoli yr adeg mae'r wy yn cael ei ffrwythloni hyd at rhyw fis wedyn, boed y potensial o fywyd yno neu beidio. Ti'n gneud iddi swnio fatha fod Dylan yn cytuno efo polisi y llywodraeth, pan nad ydio wedi deud y ffasiwn beth.
Ma raid i mi gytuno fod y polisi presennol angen ei newid i ugain wythnos ar y mwyaf, gan fod babanod yn byw wedi tair ar hugain wythnos erbyn hyn ac wrth i safon y gofal meddygol wella, allai weld yr oedran yn gostwng ymhellach eto. Anaml iawn fodd bynnag y cewch chi unrhyw ddoctor sydd yn barod i berfformio erthyliad erbyn i'r fam gyrraedd ei phedwerydd wythnos ar hugain. Fyddwn i'n sicr
byth yn medru perfformio'r fath driniaeth heb reswm digonol.
Dylan a ddywedodd:Os ei wahardd, ti'n gyrru'r broses underground fel mae nhw'n ei ddweud. I'r back alleys a'r hongwyr cotiau bondigrybwyll. Sy'n beryclach a lot mwy niweidiol.
Cytuno. Nid yn unig mae'n peryglu bywyd y fam, ond o be dwi'n ddallt, yn aml iawn tydi'r driniaeth ddim yn llwyddo a ma'r fam yn cyrraedd 'full term' gan eni baban sydd yn dioddef o'r herwydd.
Fel dwi di ddeud o'r blaen, swni'n lecio gwbod be di barn y bobl sy'n hynnod 'anti-abortion' am erthylu oherwydd trais, problemau seicolegol neu problemau meddygol. Allai'm dallt yn iawn pam y byddai rhywun yn erbyn y driniaeth ar adegau fel hyn.